Mae astudiaethau chwe mis newydd i werthuso effaith amgylcheddau gwaith ar iechyd, lles, a pherfformiad o fewn amgylchedd ôl-Covid-19 yn mynd rhagddo ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod).

New WellSPACE project examines future workspace post COVID-19

Mae’r prosiect Mannau Iach ac Amgylcheddau Academaidd (WellSPACE) £33m, a fydd yn defnyddio dadansoddi ymddygiad defnyddioldeb a hydredol, yn brosiect cydweithredol rhwng Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Y Drindod, yr Hwb Ymgynghori Gwerthuso ac Ymchwil Seicolegol (PERCH) o fewn y Ganolfan Seicoleg a Chwnsela, a’r practis pensaernïol enwog Stride Treglown.

Caiff ei gefnogi gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru trwy Cyflymu, rhaglen £24m a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect wedi’i seilio ar ymagwedd astudiaeth achos ar weithle academaidd a addaswyd o’r newydd yn ardal academaidd Glannau SA1 Y Drindod, gan ei ddefnyddio yn fan profi i ddatblygu ymagweddau newydd at ddylunio mannau pensaernïol ar gyfer ‘gweithio seiliedig ar wybodaeth’.

Meddai Dr Ceri Phelps, Seicolegydd Iechyd a Chyfarwyddwr Academaidd ym maes Seicoleg a Chwnsela yn y Drindod:

“Gorfododd pandemig COVID-19 newid dramatig i arferion gwaith miliynau o bobl ledled y DU a thu hwnt, gyda chyfnodau clo cenedlaethol a chafodd symud sydyn a heb ei gynllunio i weithio ar-lein o adref effaith sylweddol ar lawer o arferion gwaith presennol, ansawdd bywyd a llesiant.   

I’r rheiny oedd yn gweithio yn ystod y pandemig, mae’r newidiadau sylweddol i arferion gwaith a chydbwysedd gwaith-bywyd sy’n gysylltiedig â gweithio o adref wedi arwain at bryderon cynyddol ynghylch effaith barhaus y pandemig ar lesiant gweithlu’r genedl a’r angen i adnabod arferion gwaith effeithiol at y dyfodol.  

I eraill, bydd disgwyl i weithwyr ddychwelyd i amgylcheddau gwaith traddodiadol a fydd, yn anochel, yn gweithredu mewn ffordd wahanol i’r rheiny oedd mewn bodolaeth cyn COVID-19.

Mae’n glir bod yma gyfle amserol i archwilio’r ffordd orau i strwythuro amgylchedd gwaith y dyfodol i sicrhau’r cynhyrchedd, ymrwymiad cyfundrefnol, ac iechyd a llesiant mwyaf i’r gweithlu ôl-COVID-19.”

Mae’r prosiect WellSPACE yn creu cyfle i archwilio’n systematig i sut y dylai mannau ac arferion gwaith edrych yn y dyfodol, drwy brofi’r rhain o fewn cyd-destun addysg uwch, ac fe fydd yn datblygu strategaethau dylunio pensaernïol a rhaglennu gofodol newydd ac arloesol y gellir eu trosi’n amgylcheddau gwaith mewn sectorau gwasanaethau gwybodaeth a phroffesiynol eraill.

Bydd ATiC yn gweithio gyda Stride Treglown i ddarganfod a diffinio profiadau defnyddwyr ac anghenion canfyddedig staff y brifysgol mewn ymateb i efelychiadau rhithwir o amgylcheddau gwaith swyddfa newydd/arfaethedig.  A bydd PERCH yn gweithio gyda Stride Treglown i asesu union effaith dylunio yr amgylchedd gwaith ar staff y brifysgol dros gyfnod o semester academaidd.

Bydd y prosiect yn profi ymatebion iechyd a llesiant o’r amgylcheddau rhithwir ac yn archwilio i ba raddau y gellir defnyddio’r cyfryw dechnegau i fesur a chefnogi canlyniadau iechyd mewn amgylcheddau go iawn.

Bydd y prosiect yn profi ymatebion iechyd a llesiant o’r amgylcheddau rhithwir

Meddai Dr Sean Jenkins, Athro Cysylltiol a Phrif Gymrawd Arloesi ATiC:

“Nod cyffredinol y prosiect yw cynnal peilot o ymagwedd dulliau cymysg i werthuso effaith amgylcheddau gwaith ar iechyd, llesiant a pherfformio.  

Nod y prosiect hwn yw defnyddio ymagwedd cyd-greu gyda staff academaidd gan ddefnyddio cyfuniad newydd o fodelau wrth raddfa 3D cywirdeb isel i efelychiadau realiti rhithwir (VR) cywirdeb uchel i ddeall ac archwilio ymateb defnyddwyr i ddyluniadau gofodol presennol ac arfaethedig.  Cynhelir hyn gydag asesiad byrhoedlog ecolegol i brofi ymatebion seicometrig i’r gweithle go iawn dros gyfnod o fisoedd.

Yn unigryw, bydd y prosiect yn dod â rhaglennu gofodol ac arbenigedd dylunio Stride Treglown, arbenigedd profi VR a defnyddioldeb ATiC, ac arbenigedd ymchwilio seicolegol PERCH at ei gilydd.  Bydd y cydweithrediad cyffrous hwn yn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer datblygu dulliau ac ymagweddau ymchwil sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn sail i ddylunio pensaernïol a strategaethau rhaglennu mannau iachach yn y dyfodol.”

Meddai Pierre Wassenaar, Cyfarwyddwr Stride Treglown:

“Mae cael ymatebion cywir, dibynadwy ar sut y mae pobl yn canfod amgylcheddau wedi’u dylunio yn rhyw fath o Greal Sanctaidd, ac mae’n wych gallu gweithio gyda’r tîm talentog hwn yn Y Drindod i gymryd yr ymchwil yma i feysydd newydd.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Evans, Swyddog Prosiect CATC, Marchnata a Chyfathrebbethan.evans@uwtsd.ac.uk.