Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a Gofal Wedi'i Alluogi Gan Dechnoleg (TEC) Cymru wedi ymuno i greu gwefan newydd sbon sy'n helpu i gefnogi a chyflymu arloesedd ym maes technoleg iechyd digidol yng Nghymru.

Logo of TEC

Mae EIDC, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Ei nod yw ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i fabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol yng Nghymru. Bydd TEC Cymru yn darparu llwyfan cenedlaethol i alluogi defnydd cynaliadwy, graddfa a lledaeniad technoleg gwerth ychwanegol.

Mae IechydDigidol.Cymru yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth a chysylltiadau a all helpu arloeswyr, clinigwyr, entrepreneuriaid a chwmnïau â syniadau a chynnyrch i gyrraedd y cam nesaf o'u datblygiad. Mae adnoddau eraill ar y safle yn cynnwys y digwyddiadau diweddaraf, a phrosiectau o'r rhaglenni iechyd digidol a thu hwnt.

Mae'r wefan hefyd yn gartref i becyn cymorth, fideos esboniadol ac adnoddau ar gyfer meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n defnyddio Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru sy'n cael ei gyflwyno ym mhob meddygfa deulu yng Nghymru ar hyn o bryd. Gallwch hefyd weld y gwaith rhyngwyneb rhaglen ymgeisio diweddaraf (API) y mae tîm datblygu EIDC wedi bod yn ei wneud drwy ymweld â'r Porthol Datblygu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â IechydDigidol.Cymru am ragor o wybodaeth i'ch helpu ar eich taith iechyd digidol.