Cyn hir, gallai cleifion yng Nghymru weld technoleg realiti rhithwir yn dod yn rhan arferol o'u cynlluniau triniaeth meddygol, diolch i waith ymchwil a datblygu arloesol gan gwmni technoleg o Gymru.

Men testing a VR headset

Mae cwmni Rescape Innovation o Gaerdydd yn arloesi wrth ddefnyddio realiti rhithwir i helpu cleifion i wella ac adsefydlu. Defnyddir technoleg y cwmni i ddatrys amrywiaeth o heriau ym maes gofal iechyd gan gynnwys lleihau poen a gorbryder, rheoli straen a gwella profiadau cleifion yn gyffredinol.

Ers ei lansio yn 2018, mae blwyddyn gyntaf lwyddiannus o fusnes wedi sicrhau cytundeb ariannu chwe ffigur i'r cwmni i fuddsoddi mewn datblygu ac ehangu cynnyrch. Mae Rescape bellach wedi datgelu ei fod yn archwilio sut y gellid defnyddio ei dechnoleg chwyldroadol i drin nifer fawr o gyflyrau a phroblemau iechyd.

Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n datblygu cynnyrch i helpu cleifion mewn unedau gofal dwys. Mae treialon cychwynnol wedi dangos canlyniadau cadarnhaol, nid yn unig yn arwain at leihad mewn poen a gorbryder ymhlith cleifion sy'n ddifrifol wael, ond hefyd yn eu helpu i wella'n gyflymach.

Gyda chostau gwely mewn uned gofal dwys yn costio £2,000 y noson ar gyfartaledd i'r gwasanaeth iechyd, mae'r cwmni'n credu y gallai technoleg newydd arwain at arbedion enfawr i wasanaeth iechyd Cymru, yn ogystal â gwella iechyd a lles cleifion.

Mae Rescape wedi tyfu'n sylweddol ers i'r cwmni gael ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2018. Heddiw, mae ei gynhyrchion yn cael eu defnyddio gan dros 25 o fyrddau iechyd ac ysbytai ledled Cymru a Lloegr – ffigur y mae'n gobeithio ei dreblu erbyn diwedd 2020.

Mae prif gynnyrch y cwmni, 'DR.VR®', a gafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad â chleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Gymru, a'r cynnyrch pediatrig DR.VR® Junior a lansiwyd yn ddiweddar, eisoes wedi helpu i sefydlu'r busnes fel un o arweinwyr y farchnad yn y Deyrnas Unedig a'r tu hwnt.

Mae therapi tynnu sylw gyda realiti rhithwir yn gweithio drwy dwyllo'r ymennydd i feddwl ei fod yn bresennol mewn realiti arall yn lle. Canlyniad hynny yw bod yr ymennydd yn cael ei lethu gan wybodaeth sy'n arwain at leihad mewn poen a gorbryder.  Mae'r dechnoleg wedi cael ei phrofi i leihau poen a gorbryder drwy adael i gleifion ddianc i amrywiaeth o brofiadau trochi, o snorclo yn y Barriff Mawr a dringo Machu Picchu i fwynhau Times Square ac ymlacio ar draeth. 

Yn dilyn llwyddiant DR.VR®, mae Rescape yn gweithio i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio'i dechnoleg.  Yn ogystal ag archwilio sut y gallai realiti rhithwir helpu cleifion mewn unedau gofal dwys, gofal lliniarol a wardiau demensia, mae'r cwmni'n treialu sut y gallai realiti rhithwir a thechnoleg tynnu sylw fod o gymorth i fenywod sy'n rhoi genedigaeth, gan eu helpu i ymlacio, i beidio â chynhyrfu gormod ac i 'ddianc' o'r ward famolaeth gyda phenwisg realiti rhithwir.

Meddai Matt Wordley, Prif Swyddog Gweithredol Rescape Innovation: "Pan ddaw hi'n fater o ofal iechyd, mae technolegau realiti rhithwir yn cael eu tanddefnyddio a'u tanarchwilio i raddau, ond rydyn ni'n benderfynol o newid hyn. Mae realiti rhithwir yn cynnig potensial enfawr i drawsnewid iechyd a lles cleifion yn ogystal â'r gallu i helpu i leihau gorbryder mewn cleifion, eu teuluoedd a staff meddygol.

"Mae realiti rhithwir wedi cael ei brofi ers blynyddoedd lawer i fod yn ffordd effeithiol o drin gorbryder a phoen, ac rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol pa mor effeithiol y gall fod o ran helpu pobl mewn llawer o amgylcheddau gwahanol ac ar draws ystod o gyflyrau. Mae hyn wedi ein hysbrydoli ni i ddatblygu ac ychwanegu at y defnydd o realiti rhithwir yn y sector iechyd, gan ei helpu i gyrraedd ei lawn botensial."

Mae'r gefnogaeth a gafodd Rescape dros y flwyddyn ddiwethaf gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd wedi darparu cyngor ac arweiniad ar sut i ddechrau ym myd gofal iechyd yn ogystal â chymorth i greu cysylltiadau pwysig yn y sector, wedi bod yn allweddol i dwf y cwmni.

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: "Mae'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud gan Rescape yn enghraifft berffaith o'r arloesedd a'r dalent anhygoel sydd gennym ni yma yn niwydiant gwyddorau bywyd Cymru. Bydd technoleg Rescape yn rhoi manteision aruthrol i gleifion yn y Deyrnas Unedig a'r tu hwnt, gan helpu i osod Cymru ar lwyfan y byd. Rydyn ni'n falch o fod wedi gallu cefnogi a chynorthwyo'r datblygiad gwych yma."

Ychwanegodd Matt Wordley: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn daith ryfeddol i Rescape. Gan mai asiantaeth dechnoleg yw ein cefndir ni, doedd ganddon ni ddim llawer o wybodaeth am y sector gofal iechyd, ond rydyn ni wedi cydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arbenigwyr yn y diwydiant i ddatblygu'r cwmni a datblygu ein syniadau.

"Rydyn ni wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y deuddeg mis diwethaf, ac mae'r galw sydd wedi bod am ein cynnyrch yn dangos yr awch a'r angen am atebion realiti rhithwir ym maes gofal iechyd. Rydyn ni wedi gweithio ar brosiectau cyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld beth fydd nesaf ar gyfer Rescape."

Rydym yn gweithio i ddod â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, arbenigwyr o'r diwydiant a'r byd academaidd at ei gilydd i archwilio sut y gallai cydweithio yng Nghymru arwain at chwyldroadau newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi nodi pum her y bydd yn gweithio arnynt eleni gyda chydweithwyr ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant a'r byd academaidd. Mae Digidol, AI a roboteg yn un o'r rhain ac os ydych yn gweithio yn y maes hwn a hoffech gael gwybod mwy a sut i gymryd rhan, cysylltwch â hello@lshubwales.com