Mae ATiC, un o'r partneriaid Cyflymu, yn gweithio gyda myfyrwyr i ddysgu am ymchwil profiad defnyddwyr a'r sector gwyddorau bywyd.

The mnullany fund screen shot

Yn ddiweddar, cynhaliodd aelodau tîm ATiC Tim Stokes, Yolanda Rendon Guerrero a Dr Caroline Hagerman weithdy mewn cydweithrediad â The Mullany Fund, elusen symudedd cymdeithasol sy'n gweithio i ymgysylltu pobl ifanc â gwyddorau bywyd ac i ddarparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth wedi'u teilwra i'w helpu i gyflawni eu nodau.

Arweiniodd y tîm ATiC grŵp bach o fyfyrwyr trwy brosiect enghreifftiol yn archwilio ymchwil profiad defnyddwyr ar gyfer apiau iechyd meddwl. Archwiliodd y myfyrwyr y dirwedd gystadleuol, cyfweld darpar ddefnyddwyr apiau, a datblygu gweledigaeth ar gyfer ap newydd a fyddai’n helpu defnyddwyr i reoli eu hiechyd meddwl.

Dangosodd adborth gan y myfyrwyr eu bod wedi mwynhau'r gweithdy yn fawr iawn, gyda llawer yn mynegi sut yr oedd wedi eu helpu i ddod i ddeall profiad y defnyddiwr ac ymchwil gofal iechyd.

Dywedodd un o'r myfyrwyr:

"Roeddwn wir yn gweld y cyn-waith yn hynod ddefnyddiol o ran rhoi yn ei gyd-destun yr hyn y byddai'r gweithdy yn ei olygu. Fe wnes i fwynhau trafod ein hasesiad o'r apiau iechyd meddwl gyda grŵp bach gan fod pawb wedi cael cyfle i ddweud rhywbeth. Roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael fy nghynnwys yn fawr. Ond rwy'n credu mai fy hoff ran o'r gweithdy oedd cyfweld â'r staff (a oedd yn chwarae defnyddwyr yr ap) gyda chwestiynau penagored am eu iechyd meddwl i bennu'r nodweddion gorau a beth i'w gynnwys."

Esboniodd myfyriwr arall:

"Roedd y gweithdy'n ddiddorol iawn. Enillais lawer o wybodaeth newydd am dechnoleg sydd ar ddod ac am iechyd meddwl. Fe wnes i fwynhau'r cyfweliadau roedd yn rhaid i ni eu gwneud - roedden nhw'n her hwyliog. Byddwn i wedi hoffi gweld sut mae apiau'n cael eu gwneud a y broses y tu ôl iddynt. Efallai hyd yn oed wneud rhagolwg i ap a drafodwyd gennym. Ar y cyfan, roedd yn brofiad gwych! "

Themâu trawsbynciol

Fel rhan o'r genhadaeth Cyflymu, nod y rhaglen yw mynd i'r afael â themâu trawsbynciol sy'n cynnwys:

  • Cyfle Cyfartal a Phrif Ffrydio Rhyw
  • Datblygu cynaliadwy
  • Cynhwysiant cymdeithasol a mynd i'r afael â thlodi.

Os oes gennych chi brosiect rydych chi'n meddwl y byddai'n elwa o gydweithio ag ATiC, neu Cyflymu, cysylltwch â:

E-bost: atic@uwtsd.ac.uk Ffôn: 01792 481232

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner