Hidlyddion
Connect Health yn cyflenwi cymorth ffisiotherapi digidol yn wyneb COVID-19

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) i gefnogi’r ymateb i COVID-19 yw’r Gronfa Atebion Digidol (DSF). Connect Health oedd y prosiect cyntaf i gael ei redeg. PhysioNow, yw’r offer hunan-asesu a brysbennu cyhyrysgerbydol digidol, a dreialwyd mewn dau Bwrdd Iechyd (Hywel Dda a Cwm Taf Morgannwg) yn ystod hydref 2020.

Cais llwyddiannus am Labordy Data Rhwydweithiol yng Nghymru

Mewn cais a gydlynwyd gan DHEW, dewiswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Prifysgol Abertawe a Gofal Cymdeithasol Cymru fel un o bum Labordy Data Rhwydweithio ‘The Health Foundation’ i'w sefydlu yn y DU yn 2020. Mae'r astudiaeth achos hon yn edrych ar y siwrnai a gymerwyd gan y partneriaid i sicrhau'r cyllid o £400k.

Tracio RFID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae EIDC wedi gweithio gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg i gynnal peilot yn profi tracio RFID. Mae tagiau goddefol wedi cael eu rhoi ar sganwyr bledren, cadeiriau olwyn a gwelyau rhent ledled yr ysbyty, ynghyd â meddalwedd i roi gwybodaeth amser go-iawn i staff ar ble mae offer.

Cydweithrediad rhwng Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a Concentric Health

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC), cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wedi cydweithredu gyda sefydliad newydd technoleg iechyd Cymru sef Concentric Health ar brosiect i ddatblygu ac i ddeall y potensial ar gyfer rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (APIau) yn y system gofal iechyd yng Nghymru.