Y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd
Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), a arweinir gan Brifysgol Abertawe ac a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn fenter arloesol sy'n uno iechyd, chwaraeon a thechnoleg. Mae'n cysylltu busnesau newydd, cwmnïau rhyngwladol, y byd academaidd, a'r GIG, gan feithrin arloesedd trwy gydweithredu. Mae'r rhwydwaith yn rhoi mynediad i aelodau at gyfleusterau ymchwil a datblygu blaengar, cymorth busnes, digwyddiadau, a chyfleoedd ymchwil. Gan ganolbwyntio ar hyrwyddo gofal iechyd, meddygaeth a thechnoleg chwaraeon, mae NNIISH yn creu cyfleoedd newydd i gwmnïau ac yn ysgogi newid ystyrlon mewn arloesedd chwaraeon ac iechyd. Mae aelodau'n elwa o ecosystem gydweithredol sydd wedi'i dylunio i lunio dyfodol y meysydd hyn.