Lleoliad: Rhyddid i weithio o bell ac yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Yn atebol i: Pennaeth Partneriaethau
Cyflog: £46,588.50 y flwyddyn
Gwybodaeth am y rôl
Mae cyfle wedi codi yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer Uwch-ddatblygwr Partneriaethau. Bydd y rôl ganolog hon yn gwobrwyo unigolyn credadwy, profiadol, brwdfrydig ac ymreolaethol sydd â phrofiad ym maes gwyddorau bywyd, dyfeisiau meddygol, neu feysydd tebyg, sy’n gallu ysgogi ei hun, sy’n llwyddo mewn rolau sy’n delio â chwsmeriaid, ac sy’n cynnig persbectif ffres ar gyfleoedd yn y sector gwyddorau bywyd. O ddydd i ddydd, byddwch yn gyfrifol am ymgysylltu â rhanddeiliaid, meithrin cysylltiadau strategol ac ar draws sectorau i sbarduno arloesedd, a chynllunio i’r dyfodol.
Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd gennych rôl datblygu busnes ar eich CV, yn ogystal â bod yn barod i ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar werthiant gan barhau i fod yn gyfforddus wrth weithio ar y rhyngwyneb rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Byddwch hefyd yn eithriadol o ran dod o hyd i gyfleoedd i gyflawni llif o brosiectau arloesi a chreu cysylltiadau sylweddol a thymor hir â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a masnachol. Bydd angen i chi hefyd allu adnabod y manteision y mae’r mathau hyn o gysylltiadau yn eu cynnig i waith ymchwil ym maes iechyd, twf economaidd ac ymchwil academaidd, a gallu cyfeirio adnoddau ein sefydliad i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
Bydd gennych hanes blaenorol o ddatblygu partneriaethau, negodi a therfynu contractau, yn ogystal â chreu cynigion llawn perswâd. Byddwch hefyd yn dod â sgiliau cyfathrebu a rheoli cysylltiadau gwych, craffter masnachol ac agwedd ragweithiol a chreadigol.
Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?
- Ymunwch â ni a bod yn rhan o dîm bach a chyfeillgar
- Diwylliant gweithio hyblyg
- Cydbwysedd bywyd a gwaith cefnogol gyda hawl gwyliau hael - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus ychwanegol
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 7% gan y cyflogwr
Gwnewch Gais Nawr!
Anfonwch neges e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda’ch CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen o hyd) yn egluro sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon, a pham eich bod yn teimlo mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.
Bydd arnom angen eich cais erbyn 18 Chwefror 2022, 5pm fan bellaf.
Os hoffech chi gael sgwrs gychwynnol anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sheridan Methuan, Pennaeth Partneriaethau, ar sheridan.methuen@lshubwales.com
Llenwch ein ffurflen monitro amrywiaeth hefyd wrth wneud cais:
Swydd ddisgrifiad lawn: