Optometreg Cymru yw’r sefydliad ymbarél proffesiynol ar gyfer pob optometrydd cymunedol, practis optometreg ac optegydd sy’n cyflenwi ledled Cymru.

Nid oes digon o gapasiti mewn gofal eilaidd i asesu a rheoli cleifion gofal llygaid yng Nghymru, felly mae academyddion Caerdydd, Optometryddion, a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gwerthuso model clinigol chwyldroadol i hwyluso gwasanaethau gofal llygaid arbenigol mewn lleoliadau cymunedol.

Bydd Optometryddion medrus mewn practisau cymunedol yn defnyddio technoleg delweddu o'r radd flaenaf, meddalwedd pwrpasol a chofnodion electronig am gleifion er mwyn i offthalmolegwyr gofal acíwt wneud diagnosis drwy edrych ar ddata digidol sy’n cael ei lwytho i fyny o bell.

Nod y prosiect hwn yw lleihau’r pwysau anghynaliadwy ar wasanaethau offthalmoleg ar hyn o bryd drwy arloesi digidol.

Dywedodd Sali Davis, Prif Weithredwr Optometreg Cymru:

“Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn yn effeithiol heb Cyflymu. Mae arnom angen dadansoddiad diduedd cadarn o effeithiolrwydd y cynllun peilot. Gallai hyn olygu bod y bwrdd iechyd yn caniatáu i holl bractisiau’r stryd fawr yn ardal Caerdydd a’r Fro gynnig y gwasanaeth achub golwg hwn. Nid dim ond newyddion da i gleifion yw hynny, bydd hefyd yn gwella ffyniant economaidd yng Nghymru.”

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Cyflymu, rhaglen sydd bellach wedi cau dan arweiniad Gwyddorau Bywyd