Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi Adroddiad Effaith cyffrous i ddathlu llwyddiant y rhaglen Cyflymu. Mae hyn yn dangos sut mae Cyflymu wedi cefnogi busnesau newydd a busnesau bach a chanolig i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technoleg, cynnyrch a gwasanaethau newydd mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae’r rhaglen Cyflymu wedi casglu ynghyd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Cyflymu Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Technoleg Iechyd Prifysgol Abertawe. Mae’r partneriaid hyn wedi darparu cymorth wedi’i deilwra i gefnogi arloeswyr – gan gynnig eu harbenigedd, adnoddau pwrpasol a’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr i ddatblygu arloesedd.
Mae’r rhaglen Cyflymu, a ddechreuodd ym mis Mai 2018, yn cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion cysylltiedig, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a byrddau iechyd Cymru, a bydd y rhaglen yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2022.
Beth mae’r adroddiad yn ei ddweud wrthym?
Mae’r Adroddiad Effaith yn tynnu sylw at sut mae’r rhaglen Cyflymu wedi darparu system gynaliadwy ar gyfer cydweithio ac arloesi. Rhwng mis Mai 2018 a mis Mai 2022, roedd hyn yn cynnwys:
- Sicrhau dros £3.9 miliwn o fuddsoddiad a chyllid preifat
- Dod â 121 o gynnyrch a gwasanaethau i’r farchnad
- Cefnogi 103 o brosiectau
- Sicrhau 147 o swyddi
- Creu 14 menter newydd
Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am brosiectau allweddol ac yn cynnwys geirdaon gan gwmnïau ac arloeswyr sydd wedi cael eu cefnogi gan y rhaglen Cyflymu. Mae hyn yn cynnwys Jordan Copner, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Copner Biotech, a ddywedodd:
“Mae’r cymorth gan HTC a Cyflymu wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig i gwmni a ddechreuodd yn ystod pandemig byd-eang. Yn amlwg, roedd yr arian yn hynod gyfyngedig felly mae cael partner sydd â’r fath arbenigedd, yn enwedig ym maes meithrin celloedd, wedi bod yn anhygoel.”
Beth yw’r camau nesaf?
Mae’r rhaglen Cyflymu wedi helpu i greu sylfeini pwysig ar gyfer system integredig ac ymatebol ar gyfer arloesi cynnar blaengar ar draws iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Mae wedi dangos sut gall cydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd a gofal iechyd ddatblygu atebion arloesol, cefnogi cleifion a rhoi hwb i iechyd ac economi ein cenedl.
Y nod nawr yw gwreiddio dull Cyflymu ar gyfer arloesi ledled Cymru drwy gryfhau’r cysylltiadau a ffurfiwyd drwy’r rhaglen a cheisio gweld sut y gellir ymestyn y rhaglen.
Dywedodd Gareth Healey, Pennaeth Cyflymu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae’r rhaglen Cyflymu wedi darparu glasbrint pwysig ar gyfer sut gall cydweithio ar draws sectorau helpu i greu amgylchedd cyffrous ac aflonyddgar i arloeswyr wella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn falch o gefnogi’r rhaglen ers ei sefydlu ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ei heffaith.”
Dywedodd Sean Jenkins, Athro Cyswllt a Phrif Gymrawd Arloesi ATiC:
“Mae'r rhaglen Cyflymu wedi profi ei hun yn fodel llwyddiannus iawn o gydweithio rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’i Brifysgolion partner sydd wedi cael effaith drawsnewidiol – yn economaidd ac o ran manteision iechyd – ar gyfer pobl Cymru. Mae’r rhaglen, a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, wedi darparu mynediad i fentrau presennol a newydd at arbenigedd academaidd cyfun y partneriaid, dealltwriaeth fanwl o’r ecosystem gwyddorau bywyd, a chyfleusterau o’r radd flaenaf i gefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi yn sector Gwyddorau Bywyd Cymru.
“Mae wedi galluogi cysylltiadau a chynghreiriau newydd rhwng y byd academaidd, y diwydiant a GIG Cymru, er gwaethaf y cyfnod heriol rydyn ni wedi’i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf, a fydd yn parhau i gael effaith sylweddol, gan sbarduno newid at Gymru iachach a mwy ffyniannus.”
Dywedodd Naomi Joyce, Arweinydd y Prosiect HCT ac Uwch Ddarlithydd mewn Arloesi ac Ymgysylltu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Mae Cyflymu wedi meithrin cydweithrediadau hirdymor sy’n cael effaith ar bobl a chymunedau ledled Cymru. Drwy gydweithio â’n partneriaid a’n cydweithwyr, rydyn ni wedi llwyddo i ganfod heriau a chyd-ddatblygu atebion technoleg gyda'r sectorau gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Mae’r cyllid a gafwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru wedi helpu i sefydlu cysylltiadau newydd, datblygu technolegau newydd a chreu budd economaidd i Gymru. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae partneriaid Cyflymu wedi ymrwymo i gynnal y cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu, gan nodi ac ymateb i flaenoriaethau’r dyfodol a pharhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i greu newid effeithiol a bod o fudd i genedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Barbara Coles, rheolwr Prosiect Cyflymu a Rheolwr yr Hwb Arloesi Clinigol yn Cyflymu Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd:
“Mae llwyddiant y gwaith hwn wedi bod yn bosibl drwy feithrin cydweithrediad effeithiol; wedi’i ategu gan sgiliau arloesi clinigol Cyflymu Arloesi Clinigol, ac arbenigedd clinigol a masnachol eu partneriaid prosiect. Mae model llwyddiannus a phrofedig Cyflymu Arloesi Clinigol o reoli prosiectau pwrpasol yn galluogi arloesi ystwyth sy’n croesawu ymgysylltu cydweithredol i gyflawni datblygiad economaidd Cymru.
“Drwy rannu risgiau a manteision, mae’r cyfle i ddatblygu a mireinio arferion arloesol wedi cyflwyno manteision amlwg i arferion iechyd a gofal, darpariaeth gwasanaethau, addysg a llesiant cymdeithasol. Cryfder y gwaith hwn yw nifer y modelau arferion gorau a phrosesau cynaliadwy sy’n cyfrannu at waddol Cymru gyfan o gyflawni Cymru Well. Bydd effaith y gwaith hwn yn parhau i gael ei gwireddu y tu hwnt i oes Cyflymu, gyda chyfleoedd i drosi a masnacheiddio’r datblygiadau arloesol hyn y tu hwnt i Gymru.”
Darllenwch yr Adroddiad Effaith i ddysgu mwy am sut mae’r rhaglen wedi cefnogi arloesi ledled Cymru.