Mae Sugars for Health Ltd yn arbenigo mewn adnabod a datblygu cyfansoddion tebyg i siwgr a echdynnir o blanhigion a elwir yn iminosiwgr. Mae’r moleciwlau hyn yn gweithredu fel triniaeth therapiwtig ar gyfer amrywiaeth o glefydau, gan gynnwys canser.

Mae’r tîm, sy’n seiliedig yn Aberystwyth, â diddordeb mewn deall mecanwaith moleciwlaidd gweithredu iminosiwgr i ailysgogi'r system imiwnedd ac i frwydro yn erbyn canser. Maent yn gobeithio y gellir defnyddio’r cyfansoddion ochr yn ochr â chemotherapi confensiynol i wella eu heffeithiolrwydd.

Dywedodd Dr Matthew Turner, Technolegydd Arloesi yn y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd:

"Mae Dr Robert Nash a'i gwmni wedi nodi rhai cyfansoddion diddorol o'r enw iminosiwgr. Rydym yn gwybod bod gan y moleciwl weithgarwch gwrth-ganser. Mae gennym ni'r gallu i ymwneud â’r cemeg, yr hyn nad oes gennym ni yw’r gallu i wneud yr imiwnoleg, ac felly mae’r cydweithio â Phrifysgol Abertawe i ddeall sut mae’n rhoi’r system imiwnedd ar waith yn ddefnyddiol iawn i ni, felly mae’r rhaglen Cyflymu wedi bod yn hanfodol i symud y prosiect yn ei flaen.”

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Cyflymu, rhaglen sydd bellach wedi cau dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.