Wythnos Gwerth mewn Iechyd – briffiau’r sesiynau

Mae Wythnos Gwerth mewn Iechyd yn cymryd lle o 12 i 16 Hydref 2020. Yma dewch o hyd i fwy am sesiynau'r wythnos gan gynnwys sesiynau bore, p'nawn a gyda'r nos. 

Dydd Llun 12 Hydref

Dydd Llun 12 Hydref, 8.30 – 9.45: Gwerth mewn Iechyd – beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?

Siaradwyr:

Cyflwynir gan Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru

  • Dr Sally Lewis, Arweinydd Cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd, cadeirydd y sesiwn
  • Prof Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru
  • Prof Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
  • Helen Thomas, Prif Weithredwr Dros Dro, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Judith Paget, Prif Weithredwr, BIP Aneurin Bevan
  • Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr, Hwb Gwyddorau Bywyd

Crynodeb:

Bydd Prof Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yn agor wythnos Gwerth mewn Iechyd ac yn cyflwyno’r sesiwn panel amserol hon.

Bydd y panel yn trafod dull Cymru ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, yn amrywio o ddiffinio ei ddull ar lefel polisi i sut mae sefydliadau yn ei weithredu’n ymarferol. Trafodir manteision a heriau ei ddefnydd, gan roi ystyriaeth i sut y mae’n rhaid i Werth mewn Iechyd weithio’n esmwyth gyda galluogwyr eraill o fewn y systemau i sicrhau y gall GIG Cymru drawsnewid i sicrhau dyfodol cynaliadwy sy’n rhoi’r gofal gorau posibl i’w boblogaeth ac yn diwallu anghenion ac amgylchiadau’r unigolion yr ydym yn gofalu amdanynt.

 

Dydd Llun 12 Hydref, 13.00 - 13.45: Defnyddio canlyniadau i wella mynediad ar gyfer cleifion, yn seiliedig ar yr angen mwyaf

Siaradwyr:

  • Daniel Davies, Rheolwr Rhaglenni, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan  

Crynodeb:

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut y gall egwyddorion Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth gefnogi ailddyluniad gwasanaeth a galluogi gwasanaethau i ddarparu gofal iechyd darbodus. Bydd y sesiwn yn rhoi trosolwg o’r materion yn ymwneud â galw a gallu yn ein hadran wroleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a’r anhawster mewn bodloni targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn ogystal â bod â ffocws penodol ar ofal cleifion. Bydd y sesiwn yn eich tywys drwy sut y gwnaeth gweithrediad gwybodaeth casglu canlyniadau a gwybodaeth arall a adroddwyd gan gleifion alluogi’r gwasanaeth a’i glinigwyr i feddwl yn wahanol ynglŷn â sut maent yn rheoli’r galw a’r gallu, yr heriau o ran cyflawni hyn, y manteision a hefyd gwersi a ddysgwyd (nid technoleg yw’r ateb bob tro).

 

Dydd Llun 12 Hydref, 15.00 – 16.30: Hyfforddiant Economeg Iechyd Technoleg Iechyd Cymru (Rhan 1)

Siaradwyr:

  • Matthew Prettyjohns: Prif Ymchwilydd (Technoleg Iechyd Cymru)
  • Lauren Elston: Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd (Technoleg Iechyd Cymru)

Crynodeb:

Yn ystod Wythnos Gwerth mewn Iechyd bydd Economeg Iechyd 101 Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn dychwelyd.

Yn y weminar 90 munud o hyd hon bydd Technoleg Iechyd Cymru yn cyflwyno’r dulliau arfarnu economaidd a ddefnyddir i ddeall effeithiolrwydd cost technolegau iechyd a gofal, a’u heffaith ar adnoddau. Bydd cyfranogwyr yn cael gwell ymwybyddiaeth o’r rôl y mae economeg iechyd yn ei chwarae yn y broses asesu technoleg a sut y gallai gefnogi’r sector gwyddorau bywyd er mwyn dangos eu cynhyrchion neu wasanaethau yn y modd gorau ac i gomisiynwyr wneud y defnydd gorau ar adnoddau cyfyngedig.

Bydd y weminar, sy’n addas ar gyfer cyfranogwyr o ystod eang o sectorau, yn rhoi mewnwelediad i sut y mae economeg iechyd yn cyfrannu i system gofal iechyd seiliedig ar werth. Bydd cyfranogwyr yn derbyn sgiliau seiliedig ar werth a gwybodaeth i’w defnyddio yn eu sefydliad, ar eu prosiectau ac ar gyfer eu dull seiliedig ar werth eu hunain ym maes gofal iechyd.

 

Dydd Llun 12 Hydref, 19.00 – 20.00: Gofal Iechyd a Diwydiant sy'n Seiliedig ar Werth

Siaradwyr:

  • Ahmed Abdulla Prif Swyddog Gweithredol Digipharm
  • Dafydd Loughran, Prif Swyddog Gweithredol Concentric
  • Matthew Prettyjohns Prif Ymchwilydd Technoleg Iechyd Cymru
  • Emma Clifton-Brown Pennaeth Iechyd a Gwerth y DU Pfizer
  • Victoria Bates, Rheolwr Gyfarwyddwr, Bates Cass Consulting Ltd

Crynodeb:

Bydd y sesiwn hon yn lansio rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gan gefnogi sector y diwydiant gwyddorau bywyd i ddeall ac ymateb i heriau cynllunio, cyflenwi a chaffael ymyriadau iechyd a gofal, triniaethau a gwasanaethau gyda dull seiliedig ar werth. Mae’r panel yn cynnwys cwmnïau byd-eang a rhai o Gymru yn disgrifio pam eu bod yn defnyddio’r dull seiliedig ar werth, yr heriau a wynebir a’r manteision a bydd Victoria Bates yn trafod canfyddiadau ymchwil diweddar i ofal iechyd seiliedig ar werth a diwydiannau yng Nghymru.

 


Dydd Mawrth 13 Hydref

Dydd Mawrth 13 Hydref, 9.00 – 10.00: Defnyddio technoleg i roi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar waith yn GIG Cymru (Wythnos Arweinwyr Digidol) 

Siaradwyr:

  • Dr Sally Lewis, Arweinydd Cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd

Crynodeb:

Bydd Dr Sally Lewis, Arweinydd Cenedlaethol y Rhaglen Gwerth mewn Iechyd, yn disgrifio’r cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a’r weledigaeth o ddarparu system gofal iechyd a ysgogir gan ddata i boblogaeth Cymru. Bydd y sesiwn yn cynnwys trosolwg o beth mae Gwerth yn ei olygu yng Nghymru, dealltwriaeth o gasglu data o ddechrau’r broses i’w diwedd a sut un fydd rhaglen cleifion ddigidol yn y dyfodol. Bydd y weminar yn amlinellu manteision allweddol gwell defnydd data o ganlyniad i well technolegau gydag astudiaethau achos cefnogi i rannu profiadau. Mae’r sesiwn hon yn rhan o Wythnos Arweinwyr Digidol DU gyfan https://week.digileaders.com/

 

Dydd Mawrth 13 Hydref, 11.00 – 11.30: Dod â data’n fyw, astudiaeth achos dangosfwrdd Canser yr Ysgyfaint

Siaradwyr:

  • Dr Gareth Collier, Meddyg Ymgynghorol Anadlol a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Digidol yn BIP Hywel Dda

Crynodeb:

Bydd y sesiwn hon yn dangos y dangosfwrdd canser yr ysgyfaint a bydd Dr Collier yn rhoi trosolwg i’r cynadleddwyr o sut y gall defnyddio’r offer yn ei ymarfer bob dydd, yn amrywio o gefnogi darpariaeth gofal ar gyfer cleifion unigol i sicrhau ansawdd data at ddibenion archwilio ac er mwyn cynorthwyo i asesu ei ddarpariaeth gofal gwasanaeth yn erbyn ei gymheiriaid mewn amser real - gan helpu i ddeall amrywioldeb ac ysgogi gwelliant mewn canlyniadau.

 

Dydd Mawrth 13 Hydref, 12.30 – 13.30: Gwerth mewn Iechyd ym maes Gofal Sylfaenol

Siaradwyr:

  • Dr Susan J Goodfellow Gwerth Arweiniol Gwelliant Clinigol mewn Iechyd - cadeirydd y sesiwn
  • Dr Alastair Roeves, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gofal Cymunedol i Gymru a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Dr Karen Pardy, Cyfarwyddwr Cymunedol, Clwstwr De Orllewin Caerdydd
  • Dr Duncan Williams, Meddyg Teulu a Phartner, Partneriaeth Aman Tawe
  • Craig Davey, Rheolwr Rhaglen, Uned Cyflenwi Cyllid

Crynodeb:

Bydd arweinwyr gofal sylfaenol rheng flaen yn trafod beth mae gofal iechyd seiliedig ar werth yn ei olygu yng nghyd-destun practis gofal sylfaenol, gan drafod yr heriau a wynebir a hefyd y cyfleoedd ar gyfer trawsnewid. Rhennir enghreifftiau o ofal sylfaenol (Clwstwr De Orllewin Caerdydd ac Aman Tawe) gan ddangos peth o’r gwaith sy’n digwydd ym maes gofal sylfaenol, tra bydd darlun cenedlaethol a gweledigaeth i gefnogi ymhellach ehangiad yn y maes hwn yn cael eu hystyried gan y panelwyr.

 

Dydd Mawrth 13 Hydref, 14.00 – 15.00: LANSIAD y dangosfwrdd data y galon.

Siaradwyr:

  • Dr Jonathan Goodfellow, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Rhwydwaith y Galon
  • Sally Cox, Prif Arbenigwr (Gwybodaeth), Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Crynodeb:

Bydd Dr Jonathan Goodfellow yn lansio’r Dangosfwrdd Data y Galon, y diweddaraf mewn cyfres o ddangosfyrddau data Gwerth mewn Iechyd sydd â’r nod o ddwyn ynghyd ddata gweithgarwch a chanlyniadau o bob rhan o Gymru. Caiff y cynadleddwyr y cyfle i archwilio gwahanol elfennau’r dangosfwrdd data.

Bydd y cynadleddwyr hefyd yn clywed am enghreifftiau lle mae egwyddorion gofal iechyd seiliedig ar werth yn cael eu cymhwyso i drawsnewid gwasanaeth sy’n arwain at ddiagnosis cynnar a gwell canlyniadau, wedi’u darparu mewn modd ariannol gynaliadwy.

 

Dydd Mawrth 13 Hydref, 15.30 -16.30: Gwerth Mewn Iechyd a Chyllid

Siaradwyr:

  • Cyflwynir y sesiwn gan yr Uned Cyflenwi Cyllid

Crynodeb:

Bydd staff Uned Cyflenwi Cyllid GIG Cymru yn rhoi persbectif ariannol i gynadleddwyr ar Werth mewn Iechyd yng Nghymru, o ran y rhaglenni cenedlaethol a lleol. Bydd y tîm yn trafod rhai o’r datblygiadau parhaus allweddol yn ymwneud â’r agenda cyllid, yn cynnwys lansiad Pecyn Cymorth Gwerth Cyllid sydd i ddigwydd yn fuan ac a fydd ar gael i staff ar draws GIG Cymru. Daw’r sesiwn i’w therfyn drwy archwilio’r rôl (rolau) allweddol sydd gan y swyddogaeth cyllid i’w chwarae mewn sicrhau llwyddiant Gwerth mewn Iechyd, nawr ac yn y tymor hwy.

 

Dydd Mawrth 13 Hydref, 17.00 – 18.00: Safbwyntiau cleifion ynglŷn â pham fod gwell data yn allweddol i ofal wedi’i ganoli ar y claf.

Siaradwyr:

  • Dr Susan J Goodfellow Gwerth Arweiniol Gwelliant Clinigol mewn Iechyd - cadeirydd y sesiwn
  • Wayne Lewis, Arweinydd Polisi (Cymru), Crohn’s and Colitis UK
  • Dr Natalie Joseph-Williams, Darlithydd, Prifysgol Caerdydd
  • Sian Hughes, Nyrs Glinigol Arbenigol Gofal Lliniarol, BIP Caerdydd a’r Fro
  • Dr Clea Atkinson, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Liniarol, BIP Caerdydd a’r Fro

Crynodeb:

Bydd y panel o glinigwyr a chleifion yn trafod sut mae data byd real o ansawdd da a hygyrch yn allweddol i ysgogi gweithrediad gofal wedi’i ganoli ar yr unigolyn. Trafodir materion megis hunanreoli, gwneud penderfyniadau ar y cyd, monitro o bell a’r angen i gydbwyso diogelwch gyda dewisiadau personol fel rhan o’r sesiwn panel amserol hon.

 


Dydd Mercher 14 Hydref

Dydd Mercher 14 Hydref, 10.00 – 10.30: Datblygiad PROM mewn Lymffoedema

Siaradwyr:

  • Melanie Thomas, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Lymffoedema
  • Marie Gabe-Walters, Arbenigwr Ymchwil ac Arloesedd Lymffoedema

Crynodeb:

Bydd y tîm Lymffoedema Cenedlaethol yn rhannu eu taith i ddatblygu a dilysu PROMs newydd ar gyfer eu poblogaeth cleifion. Dechreuodd y tîm drwy brofi rhai o’r offer presennol a sylweddoli’n fuan nad oeddent yn rhoi’r lefel o sensitifrwydd a’r ystod o faterion a oedd yn bwysig i’w cleifion. Gan weithio’n agos gyda’i ddefnyddwyr gwasanaeth mae’r tîm wedi cychwyn ar siwrnai dwy flynedd i ddatblygu PROM, sydd bron â’i chwblhau wrth iddo nesáu at gyflwyno ei waith i’w gyhoeddi.

 

Dydd Mercher 14 Hydref, 11.00 -11.45: Safoni PROMs ledled Cymru – Mewnwelediad i’r gwaith safon data er mwyn cefnogi llif data

Siaradwyr:

  • Gareth Griffiths, Rheolwr Safonau Data, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Sarah Puntoni, Rheolwr Rhaglen, Gwerth mewn Iechyd
  • Sally Cox, Prif Arbenigwr (Gwybodaeth), Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Crynodeb:

Bydd y cynadleddwyr yn clywed am y gwaith sy’n digwydd yng Nghymru i safoni’n genedlaethol ddata PROMs er mwn sicrhau cysondeb mewn casglu a chaniatáu llif data ar draws ffiniau sefydliadol. Bydd y data hwn yn bwydo nifer o offer a ddatblygwyd yn genedlaethol a chefnogi gofal cleifion a gwelliant gwasanaeth. Bydd y grŵp yn disgrifio’r rhesymau pam fod safoni yn allweddol i gefnogi defnydd PROMs mewn arfer clinigol a hefyd y camau sydd eu hangen i gyflawni hyn o fewn cyd-destun GIG Cymru. Rhoddir sylw penodol i eitemau data sy’n caniatáu cysylltu data, yn hydredol, ar draws arbenigeddau ac ar draws ffiniau sefydliadol. Trafodir yr heriau a’r cyfleoedd yn ogystal â’r cynnydd hyd yma.

 

Dydd Mercher 14 Hydref, 12.00 – 12.45: Optimeiddio canlyniadau ar gyfer cleifion diabetig

Siaradwyr:

  • Dr Sally Lewis, Arweinydd Cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd
  • Dr Julia Platt, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes
  • Claire Green, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Uned Cyflenwi Cyllid

Crynodeb:

Bydd cynrychiolwyr yn dysgu am y gwaith sy’n mynd rhagddo i gyd-gasglu nifer o setiau data a ddelir yn genedlaethol er mwyn asesu sut y mae’r llwybr diabetig presennol (yn cynnwys gwasanaethau ataliol) yn effeithio ar ganlyniadau iechyd y boblogaeth ar draws y llwybr. Mae’r gwaith hwn yn ceisio defnyddio mewnwelediad dadansoddol arloesol ar gyfer setiau data presennol er mwyn archwilio sut y gellir optimeiddio canlyniadau gan ddefnyddio adnoddau presennol yn fwy deallus ar draws y llwybr cyfan

 

Dydd Mercher 14 Hydref, 13.30 – 14.30: Dull cenedlaethol ar gyfer dysgu Gwerth mewn Iechyd yng Nghymru

Siaradwyr:

  • Dr Sally Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol a chadeirydd y sesiwn
  • Yr Athro Hamish Laing, Athro Arloesi ac Ymgysylltu Uwch, Busnes, Prifysgol Abertawe
  • Rebecca Richards, Cyfarwyddwr Academi Gyllid GIG Gymru

Crynodeb:

Bydd Dr Sally Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd, yn cyflwyno dull Cymru ar gyfer dysgu gofal iechyd seiliedig ar werth yn ei amrywiol ffurfiau.

Bydd yr Athro Laing yn disgrifio’r Rhaglen Addysg Weithredol a gynhelir gan Brifysgol Abertawe. Mae’r Rhaglen hon yn cryfhau ymhellach gydweithrediad cynyddol rhwng sefydliadau Academia Cymru, y rhaglen genedlaethol a sefydliadau GIG Cymru, a ddangosir gan waith sy’n cael ei ddatblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phecyn addysg sydd eisoes yn weithredol gan Academi Gyllid GIG Cymru, a arweinir gan Rebecca Richards sy’n ymuno â’r panel i drafod dyheadau ar gyfer y dyfodol a’r cyfleoedd a’r heriau presennol.

 

Dydd Mercher 14 Hydref, 15.00 – 16.30: Sesiwn Hyfforddi Arfarnu Technoleg Iechyd (Rhan 2)

Siaradwyr:

  • Jenni Washington, Arbenigwr Gwybodaeth (Technoleg Iechyd Cymru)
  • Lauren Elston: Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd (Technoleg Iechyd Cymru)

Crynodeb:

Yn ystod Wythnos Gwerth mewn Iechyd bydd Asesiad Technoleg Iechyd 101 Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn dychwelyd.

Yn y weminar 90 munud o hyd hon bydd Technoleg Iechyd Cymru yn archwilio’r dulliau allweddol a ddefnyddir mewn arfarnu technolegau iechyd a gofal ac yn deall eu gwerth posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, darparwyr a phartneriaid technoleg wrth ddefnyddio dull gofal iechyd seiliedig ar werth. Bydd partneriaid yn cael gwell ymwybyddiaeth o’r rôl y mae asesiadau technoleg iechyd yn ei chwarae mewn system gofal iechyd seiliedig ar werth a sut mae’n galluogi’r sector gwyddorau bywyd i ddangos eu cynhyrchion neu wasanaethau yn y modd gorau ac i gomisiynwyr wneud y defnydd gorau ar adnoddau cyfyngedig.

Bydd y weminar, sy’n addas ar gyfer cyfranogwyr o ystod eang o sectorau, yn rhoi golwg ar bynciau bywyd go iawn y mae Technoleg Iechyd Cymru wedi’u harfarnu’n flaenorol. Caiff cyfranogwyr hefyd eu cyflwyno i broses cynnig pynciau HTW a’u hannog i ystyried pynciau y credant hwy y gall HTW eu harfarnu.

 

Dydd Mercher 14 Hydref, 16.30 – 17.30: Gwerth mewn Iechyd ac adfer wedi COVID

Siaradwyr:

  • Dr Sally Lewis, Arweinydd Cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd, cadeirydd y sesiwn
  • Dr Jonathan Goodfellow, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Rhwydwaith y Galon
  • Michelle Price, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Cyflyrau Niwrolegol
  • Hywel Jones, Cyfarwyddwr, Uned Cyflenwi Cyllid

Crynodeb:

Bydd y panelwyr yn trafod effaith COVID ar GIG Cymru a sut mae Gwerth mewn Iechyd yn cynnig map ffordd clir i drawsnewid y system yn sylweddol. Mae’r tirlun gofal newydd sy’n esblygu fel canlyniad uniongyrchol i’r pandemig yn rhoi tir ffrwythlon ar gyfer arloesedd a newid diwylliannol cyflymach tuag at ddefnydd platfformau digidol mewn gofal iechyd i gyfathrebu gyda chleifion, monitro gofal iechyd o bell a darparu gofal i rai. Bydd panelwyr a chynadleddwyr yn ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i ysgogi trawsnewid er mwyn optimeiddio canlyniadau ar gyfer unigolion a chymunedau yng Nghymru.


Dydd Iau 15 Hydref

Dydd Iau 15 Hydref, 9.30 – 10.00: Caffael Gwerth mewn Iechyd

Siaradwyr:

  • James Griffiths, Rheolwr Prosiect Caffael Seiliedig ar Werth, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Andrew Smallwood, Pennaeth Cyrchu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Crynodeb:

Argymhellir symbylu’r nerf sacrol ar gyfer anymataliaeth ysgarthol gan NICE fel defnydd cost effeithiol adnoddau gofal iechyd o gymharu â thriniaethau amgen ar gyfer anymataliaeth ysgarthol. Nid oedd y dechnoleg ar gael i’w mewnblannu mewn cleifion yng Nghymru cyn 2018. Fodd bynnag, yn 2018 daeth Technoleg Iechyd Cymru (HTW) i’r casgliad “y dylai’r GIG yng Nghymru fabwysiadu’r canllaw hwn neu gyfiawnhau pam nad yw wedi ei ddilyn.” Amcangyfrifir y gallai dros 150 o gleifion yng Nghymru elwa gan y ddyfais hon i drin anymataliaeth ysgarthol a mwy os caiff ei ehangu i faes anymataliaeth wrinol. Yn dilyn llawdriniaethau profi cysyniad yng Nghaerdydd a’r Fro a diolch i arbenigedd a chefnogaeth gan lawfeddyg y colon a'r rhefr blaenllaw a Phennaeth Caffael yng Nghaerdydd a’r Fro cytunwyd ar bartneriaeth rhannu risg gyda’r cyflenwr lle telir am y ddyfais symbylu’r nerf sacrol wedi 12 mis cyn belled bod y claf yn cael lleihad mewn achosion o anymataliaeth a chynnydd mesuradwy mewn ansawdd bywyd.

 

Dydd Iau 15 Hydref, 12.30 – 13.00: Presgripsiynu Cymdeithasol mewn Gofal Sylfaenol – astudiaeth achos

Siaradwyr:

  • Dr Karen Pardy, Cyfarwyddwr Cymunedol, Clwstwr De Orllewin Caerdydd
  • Dr Susan J Goodfellow Gwerth Arweiniol Gwelliant Clinigol mewn Iechyd (IHI)

Crynodeb:

Mae Clwstwr Gofal Sylfaenol y Gogledd Orllewin yng Nghaerdydd wedi datblygu model presgripsiynu cymdeithasol sydd wedi’i wreiddio’n dda yn ei strwythur cefnogaeth gymunedol sy’n cysylltu’r trydydd sector, awdurdodau lleol a darparwyr gofal iechyd i gynnig dull cost effeithiol, cymunedol ac wedi’i ganoli ar yr unigolyn i’r rhai mwyaf difreintiedig yn eu gofal. Mae’r prosiect wedi bod yn rhedeg am dros flwyddyn a dengys y data yr effaith y mae’r model yn ei gael ar draws y system, gyda llai o atgyfeiriadau gofal eilaidd, gwell profiad a gwell ansawdd bywyd a chanlyniadau yn gyffredinol ar gyfer y cleifion sy’n ei gyrchu.

 

Dydd Iau 15 Hydref, 13.00 - 13.45: Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd: Creu platfform craidd

Siaradwyr:

  • Stephen Frith, Cyfarwyddwr Rhaglen, Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Navjot Kalra, Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werthoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Crynodeb:

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r rhaglen genedlaethol newydd i wella gwasanaethau digidol ar gyfer cleifion GIG Cymru. Bydd y corff mawr o waith hwn yn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau o fewn y system a sut mae’r gwaith hwn yn ceisio gwella’r modd y mae GIG Cymru yn defnyddio dulliau digidol ar gyfer nifer o ryngweithiadau a gweithgareddau gyda chleifion.

 

Dydd Iau 15 Hydref, 14.00 – 14.45: Gwasanaeth Swddogaeth y Galon Bae Abertawe - Peidio Derbyn Methiant

SIARADWYR:

  • Dr Kirstie Truman, Arweinydd Clinigol Gofal Sylfaenol ar gyfer y Galon
  • Dr Benjamin Dicken, Meddyg Ymgynghorol y Galon, Gofal Eilaidd

Crynodeb:

Mae’r gwaith hwn wedi nodi ffyrdd i optimeiddio’r gofal ar gyfer cleifion methiant y galon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyda’r bwriad o ail-ddylunio’r gwasanaeth gan ddefnyddio egwyddorion gofal iechyd seiliedig ar werth. Y prif ysgogiad ar gyfer newid yw mynd i’r afael â gofynion nas diwellir ar gyfer cleifion sydd â methiant y galon ac atal y rheini yr amheuir sydd â’r clefyd rhag cyrraedd cam aciwt er mwyn lleihau marwolaethau.

Mae COVID 19 wedi rhoi cyfle i gynnal rhaglenni peilot ar y gwahanol fodelau gweithio a gynlluniwyd gennym, ac maent wedi arwain at effaith gadarnhaol ar gyfer nifer o agweddau ar ofal methiant y galon yn unol ag amcanion ein prosiect. Bydd y cyflwyniad hwn yn mynd â chi ar y siwrnai honno.

 

Dydd Iau 15 Hydref, 15.30 – 16.00: Rhaglen Arolwg Dangosyddion a Adroddir gan Gleifion (PaRIS) OECD

Siaradwyr:

  • Dr Andy Carson-Stevens, Cyfarwyddwr Gwyddonol Cymru PaRIS OECD

Crynodeb:

Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) sy’n arwain y rhaglen Arolwg Dangosyddion a Adroddir gan Gleifion (PaRIS) a’i nod yw gwneud y system iechyd yn un sydd wedi’i chanoli’n fwy ar yr unigolyn. Bydd PaRIS yn creu’r arolwg rhyngwladol cyntaf o ganlyniadau iechyd a adroddir gan gleifion a phrofiad oedolion sydd ag un neu ragor o gyflyrau cronig sy’n cael eu trin mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Yn rhyngwladol, bydd PaRIS yn cyflymu ac yn safoni monitro dangosyddion a adroddir gan gleifion mewn meysydd hollbwysig systemau iechyd lle nad oes fawr yn cael ei fesur ar hyn o bryd. Mae cyfranogiad Cymru yn rhaglen PaRIS yn rhoi cyfle i Gymru wneud y canlynol: dangos arweinyddiaeth ryngwladol mewn datblygu offer i gefnogi darpariaeth gofal wedi’i ganoli ar y claf; gwneud cymariaethau ynglŷn â chanlyniadau allweddol a phrofiadau gyda gwledydd eraill; cefnogi gwneuthurwyr polisi i ganfod arferion gorau i gefnogi darpariaeth cynllun Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth; galluogi asesiad tymor canolig i hirdymor o raglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth y Llywodraeth, wedi’i thargedu at gleifion sydd ag un neu ragor o glefydau cronig mewn ymdrech i gael Cymru Iachach; a, galluogi i benderfyniadau polisi a ysgogir gan ddata gael eu gwneud ynglŷn â blaenoriaethau ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol y boblogaeth.

 

Dydd Iau 15 Hydref, 19.00 – 20.00: Caffael ar gyfer gwerth

Siaradwyr:

  • Yr Athro Hamish Laing, Athro Arloesi ac Ymgysylltu Gwell, Busnes, Prifysgol Abertawe
  • Dr Rupert Dunbar-Rees Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Gofal Iechyd Seiliedig ar Ganlyniadau
  • Andrew Smallwood, Pennaeth Cyrchu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Jessica Burton, Cyfarwyddwr Arloesedd Canlyniadau, Iechyd a Gwerth y DU, Pfizer
  • Dee Puckett, Pennaeth Ymgysylltu – Iechyd a Gofal, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Crynodeb:

Yn y sesiwn hon bydd panel yn amlinellu dulliau at gyfer caffael seiliedig ar werth a fydd o ddiddordeb i gynrychiolwyr iechyd a diwydiant. Bydd y sesiwn yn cwmpasu enghreifftiau o gaffael ar gyfer gwerth ar waith a chytundebau seiliedig ar ganlyniadau.


Dydd Gwener 16 Hydref

Dydd Gwener 16 Hydref, 11.00 – 11.45: Dadansoddi PROMs - cyflwyniad

Siaradwyr:

  • Dr Robert Palmer, Uwch Ymchwilydd, CEDAR
  • Amanda Willacott, Rheolwr Rhaglen, Gwerth mewn Iechyd

Crynodeb:

Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad i chi i PROMs cyffredinol a phenodol i gyflwr, a sut y gellir eu defnyddio ar gyfer dadansoddi. Bydd hefyd yn cynnwys sut i gyfrifo sgoriau drwy ddilyn dogfennau sgorio swyddogol a rhai pethau i’w hystyried wrth gysylltu PROMs i setiau data clinigol a gweinyddol eraill. Bydd y sesiwn hon o ddiddordeb i’r rheini sydd am ddefnyddio PROMs mewn arfer clinigol neu ymchwil, neu a fydd efallai eisiau archwilio data PROMs sydd eisoes ar gael yn eu sefydliad.

 

Dydd Gwener 16 Hydref, 13.00 – 14.00: LANSIAD y Dangosfwrdd pen-glin

Siaradwyr:

  • Mr Phill Thomas, Arweinydd Clinigol ar gyfer PROMs a Meddyg Ymgynghorol y Clun Pediatrig ac Oedolion, BIP Caerdydd a’r Fro
  • Amanda Willacott, Rheolwr Rhaglen, Gwerth mewn Iechyd – gweler y sesiwn flaenorol
  • Keith Howkins, Arbenigwr Arweiniol (Cyhoeddi), Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Thomas Adams, Arbenigwr Arweiniol – Gwybodaeth, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Crynodeb:

Nod dangosfyrddau data yw triongli data cymysgedd achosion, canlyniad a chostio. Bydd y cynadleddwyr yn gallu gweld cam 1 o’r dangosfwrdd pen-glin, sy’n rhoi golwg Cymru gyfan ar ddata cymysgedd achosion, gweithgarwch a PROMs.

Bydd astudiaethau achos o ddadansoddiadau orthopedig eraill hefyd yn cael eu rhannu, gan ddangos y gall data canlyniadau cleifion a chlinigol gael eu dwyn ynghyd i gynorthwyo i ysgogi gwelliant ac optimeiddio canlyniadau.

 

Dydd Gwener 16 Hydref, 14.30 - 15.00: Beth nesaf? - cwrdd â thimau Gwerth mewn Iechyd a Hwb Gwyddorau Bywyd

Siaradwyr:

  • Cwrdd â thimau Gwerth mewn Iechyd a Hwb Gwyddorau Bywyd

Crynodeb:

Dewch i gwrdd ag aelodau’r timau Gwerth mewn Iechyd a Hwb Gwyddorau Bywyd sydd wedi cynorthwyo i ddarparu’r wythnos Gwerth mewn Iechyd, dysgu am y wefan gwerth mewn iechyd newydd a pha adnoddau sydd ar gael i chi, eich tîm a’ch sefydliad.