Banner

Bydd Wythnos Gwerth mewn Iechyd yn cael ei chynnal rhwng 12 a 16 Hydref 2020. Yma fe welwch fanylion y siaradwyr gwadd am yr wythnos.


CAQ

Cari-Anne Quinn 

Prif Weithredwr

Hwb Gwyddorau Bywyd

Bywgraffiad: Cari-Anne sy’n arwain Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, busnes a noddir gan y llywodraeth sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Academia a Diwydiant er mwyn cyflymu datblygiad arloesi mewn gofal iechyd. Mae’n gweithio gyda’r gymuned busnesau gwyddorau bywyd i archwilio arloesedd i ymateb i anghenion y sector Iechyd a Gofal yng Nghymru a gweithio gyda rhanddeiliaid i wneud newid cadarnhaol er mwyn gwella iechyd a chyfoeth pobl Cymru.  

Mae Cari-Anne yn cadeirio bwrdd llywodraethu rhaglen Accelerate, rhaglen gwerth £24 miliwn a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) er mwyn datblygu prosiectau technoleg iechyd yng Nghymru.

Mae Cari-Anne wedi gweithio mewn ystod eang o rolau datblygu economaidd gan gynnwys gweithio dramor i gefnogi twf busnes, a masnach ryngwladol er mwyn cynyddu maint y sector.


S Lewis

Dr Sally Lewis

Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Sy'n Seiliedig ar Werth a Gofal Iechyd Darbodus ac Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Abertawe, Rhaglen Gwerth mewn Iechyd

Mae gan Sally brofiad rheng flaen mewn gofal sylfaenol ar ei fwyaf heriol gan iddi fod yn uwch bartner a hyfforddwr meddygon teulu mewn practis yng Nghymoedd De Cymru.

Dechreuodd ar ei gyrfa ym maes rheoli meddygol yn 2011 ac fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Gofal Seiliedig ar Werth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014. 

Mae Sally yn dal i ymarfer fel meddyg teulu ac erbyn hyn mae’n Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus a Seiliedig ar Werth yng Nghymru ac yn Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Abertawe.

Mae ei diddordebau presennol yn cynnwys defnyddio egwyddorion Seiliedig ar Werth i ddyrannu adnoddau mewn systemau a ariennir yn gyhoeddus, data canlyniadau cleifion a thrawsnewidiad digidol.


H Laing

Yr Athro Hamish Laing

Athro Arloesi ac Ymgysylltu Gwell, Busnes

Prifysgol Abertawe

Yn dilyn gyrfa fel llawfeddyg plastig adluniol a nifer o swyddi arweinyddiaeth o fewn y GIG roedd Hamish yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Phrif Swyddog Gwybodaeth Bwrdd Iechyd GIG mawr integredig yng Nghymru. Yno arweiniodd adolygiad traws-sector o strategaethau clinigol a digidol, roedd yn gyd-awdur ei strategaeth ansawdd, a sicrhaodd fuddsoddiad sylweddol ar gyfer trawsnewid digidol. Sefydlodd raglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ac arwain ar ran y GIG ym Margen Ddinesig lwyddiannus Bae Abertawe.

Penodwyd Hamish i Brifysgol Abertawe yn 2018 ac mae’n ymchwilio defnydd Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar gyfer meddyginiaethau ac yn cyflwyno rhaglenni addysg ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Trydydd Sector a’r Diwydiannau Gwyddorau Bywyd. Mae Hamish yn aelod o Fwrdd Gweithredu Cymru ar gyfer Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapi Uwch (ATMPau) ac yn Ddirprwy gadeirydd rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau digidol i’r Cyhoedd a Chleifion.


S Puntoni

Sarah Puntoni

Rheolwr Rhaglen

Rhaglen Gwerth mewn Iechyd 

Mae Sarah yn hanu’n wreiddiol o’r Eidal ac ymunodd â GIG Cymru yn 2007 pan gynorthwyodd i sefydlu a chyflawni’r Ymgyrch 1000 o Fywydau. Ers hynny mae wedi arwain ar ddatblygu a chyflawni nifer o brosiectau cenedlaethol yn canolbwyntio ar wella gwasanaeth, gofal wedi’i ganoli ar yr unigolyn, profiad y claf a llythrennedd iechyd. Ymunodd Sarah â Rhaglen PROMs, PREMs ac Effeithiolrwydd ym mis Medi 2016 a oedd y canolbwyntio ar ddarparu mecanweithiau casglu ac adrodd PROMs cyson ar draws GIG Cymru. Unodd y Rhaglen PROMs, PREMs ac Effeithiolrwydd gyda’r Rhaglen Gwerth mewn Iechyd yn ystod haf 2019.

 


Dee PuckettDee Puckett

Pennaeth Ymgysylltu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 

Mae Dee wedi gweithio ar draws sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a’r DU gan arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth a phrosiectau cenedlaethol ac Ewropeaidd i wella dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl - ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a phlismona - sy’n sicrhau’r canlyniadau a’r manteision gorau. Dee yw’r Uwch Arweinydd ar gyfer gofal iechyd seiliedig ar werth yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’n gweithio gydag Arweinwyr Cenedlaethol ym maes iechyd, caffael a’r byd academaidd, a’r sector Gwyddorau Bywyd i gefnogi a galluogi dulliau seiliedig ar werth ar gyfer arloesi ac ymyriadau iechyd a gofal ledled Cymru. Mae gan Dee ddiddordeb arbennig ym maes iechyd y cyhoedd a’r boblogaeth, gwyddorau ymddygiad, arloesi a strategaethau dylunio sy’n canolbwyntio ar y claf. 

 


M Prettyjohns

Matthew Prettyjohns

Prif Ymchwilydd

Technoleg Iechyd Cymru 

Cyn hynny, bu Matthew yn gweithio i’r Gynghrair Ganllawiau Genedlaethol, lle bu’n gweithio fel Uwch Economegydd Iechyd i geisio datblygu canllawiau ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Yn ogystal â goruchwylio ein harfarniadau technoleg, rôl Matthew fydd datblygu ein perthynas â’r diwydiant a’n swyddogaeth rhoi cyngor gwyddonol.

 

 

 


L Elston

Lauren Elston

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Technoleg Iechyd Cymru 

Yn dilyn ei PhD mewn Imiwnoleg Canser, ymunodd Lauren â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan fel Ysgrifennydd Meddygol, gan gefnogi cynnal asesiadau technoleg iechyd ar feddyginiaethau gan y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan. Mae Lauren yn frwd dros ysgrifennu a lledaenu gwaith Technoleg Iechyd Cymru yn effeithiol, mewn ffordd sy'n briodol i bob cynulleidfa. Mae'n cefnogi ein swyddogaeth cyfathrebu ac ymgysylltu. Mae cymwysterau eraill Lauren yn cynnwys BSc (Anrh) mewn Bioleg ac MSc mewn Biofeddygaeth.

 

 


A Smallwood

Andrew Smallwood

Pennaeth Cyrchu

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Andy wedi gweithio ym maes rheoli caffael yn y GIG am dros 20 mlynedd gan ganolbwyntio’n bennaf ym maes dyfeisiau meddygol. Ar ôl ymgymryd â rolau cenedlaethol yn y GIG yn Lloegr gydag Asiantaeth Prynu a Chyflenwi y GIG a Chadwyn Gyflenwi’r GIG mae Andy wedi treulio’r 9 mlynedd ddiwethaf fel Pennaeth Cyrchu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau (NWSSP) GIG Cymru.

Mae Andy yn gredwr cryf mewn, ac yn ymarfer, caffael seiliedig ar dystiolaeth ac ef yw sylfaenydd y Panel Gwerthuso Data Orthopedig ac mae’n aelod cyfetholedig o Gyd-bwyllgor Llywio’r Gofrestrfa Genedlaethol.

O fewn Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mae Andy yn arwain cyflwyniad dull Caffael Seiliedig ar Werth i gefnogi agenda Gofal Iechyd Darbodus a Seiliedig ar Werth GIG Cymru.




R Palmer

Dr Robert Palmer

Senior Healthcare Scientist

Cedar Healthcare Technology Research Centre

Dechreuodd Rob yn Cedar yn 2016 ar ôl cwblhau BSc ac MSc mewn Ffiseg, ac yna PhD mewn Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol (Dadansoddi Delweddau Meddygol) o Brifysgol Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yn Cedar mae Rob wedi bod yn aelod o dîm HOPE Cymru (Canlyniadau Iechyd a Phrofiad y Claf) sydd wedi cael ei integreiddio i’r Rhaglen Gwerth mewn Iechyd genedlaethol er mwyn darparu gallu a chefnogaeth ddadansoddi. Mae Rob wedi bod yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus Ysgol Beirianneg Caerdydd ers 2017, ac mae’n gyd-oruchwylydd nifer o hyfforddeion gwybodeg iechyd ar Raglen Hyfforddi Gwyddonwyr NSHCS.

Yn ystod ei gyfnod yn Cedar mae Rob wedi ennill profiad gwerthfawr yn gweithio gyda, ac yn dadansoddi, data a gesglir gan Blatfform PROMs, PREMs ac Effeithiolrwydd Cymru, yn ogystal â data PROMs arall, data cofrestrfa a setiau data cysylltiedig eraill. Mae hefyd wedi cyfrannu at ddilysu PROMs yn electronig ac yn y Gymraeg drwy gyfweld â chleifion ledled y wlad. Mae Rob wedi mwynhau cynhyrchu a chyfrannu at adroddiadau dadansoddi ac wedi cyhoeddi llawysgrifau, yn ogystal â rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau. Cred ei bod yn bwysig bod ein casgliadau, canlyniadau a methodolegau yn gadarn ac yn dryloyw er mwyn cynnal safonau uchel ac yn y pen draw gwella gwasanaethau drwy Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth.


C Davey

Craig Davey

Arweinydd y Rhaglen Gyllid

Gofal Iechyd ar Sail Gwerth, yr Uned Cyflenwi Cyllid

Mae Craig wedi gweithio ym maes Cyllid y GIG ers 2011, pan ymunodd â’r Adran Cyllid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn ystod ei gyfnod yn Aneurin Bevan cafodd Craig brofiad o weithio ar draws nifer o feysydd yn cynnwys Costio, Gwybodaeth Busnes a nifer o dimau Partneru Busnes Cyllid rhanbarthol.

Yn 2016 ymunodd Craig â Thîm Gwybodaeth Busnes a Gwerth y bwrdd iechyd, ac roedd rhan fawr o’i rôl yn ymwneud â chefnogi datblygiad, gweithrediad a chyflawniad Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth y bwrdd iechyd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Craig yn rhan mewn nifer o brosiectau allweddol ar draws y Rhaglen Gwerth, yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym meysydd clinigol a rheoli parthed chyflawni’r agenda costio a chyllid.

Yn 2019 ymunodd Craig â’r Uned Cyflenwi Cyllid, fel yr Arweinydd Rhaglen Cyllid ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, ac erbyn hyn mae’n gyfrifol am gefnogi datblygiad a gweithrediad y Rhaglen Gwerth Genedlaethol, fel rhan o’r tîm cenedlaethol. Mae hefyd yn rhan mewn darparu cefnogaeth leol i fyrddau iechyd yn ymwneud â datblygiad a chyflawni ffrydiau gwaith Gwerth allweddol yn lleol. 

Fel cyfrifydd cymwysedig, mae Craig yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mae ei gefndir addysgol ym maes mathemateg.


J Griffiths

James Griffiths

Rheolwr Prosiect, Caffael ar sail Gwerth

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae James wedi bod yn gweithio yn nhîm Caffael Seiliedig ar Werth Cenedlaethol GIG Cymru yn cynorthwyo i wreiddio dulliau Caffael Seiliedig ar Werth ar draws y sefydliad. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn Caffael a Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Cyn ymuno â’r GIG bu James yn gweithio ym maes Caffael a Chadwyn Gyflenwi am dros 20 mlynedd. Dechreuodd ei yrfa gynnar ym maes Cadwyn Gyflenwi yn cyflenwi a chynhyrchu gorchuddion meddygol a thapiau gludiog, yna symudodd i’r sector nwyddau defnyddwyr sy’n symud yn gyflym (cosmetigau) a datblygodd ei yrfa gyda chyfleoedd ar draws Cymru, Lloegr a Ffrainc. Mae ei brofiad hyd yma wedi ei roi mewn sefyllfa dda ar gyfer heriau hyrwyddo Caffael Seiliedig ar Werth o fewn GIG Cymru a’i sail cyflenwyr.

 


J Goodfellow

Jonathan Goodfellow

Arweinydd Clinigol Cenedlaethol

Rhwydwaith y Galon Cymru 

Ganwyd Jonathan ym Mhontypridd a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd ac Ysgol Gyfun Coed-y-lan. Hyfforddodd yng Ngholeg Meddygol Ysbyty St Bartholomew gan gymhwyso ym 1985. Derbyniodd ei hyfforddiant cardioleg ym Mryste a Chaerfaddon cyn dychwelyd i Gaerdydd i wneud gwaith ymchwil, yna fel Uwch Gofrestrydd. Ym 1999 fe’i penodwyd yn Uwch Ddarlithydd Cardioleg yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru, a hefyd fel cardiolegydd rhan amser y GIG ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn 2005 daeth ym feddyg ymgynghorol llawn amser y GIG ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn gardiolegydd arweiniol rhwng 2005-15 ac yn ystod y cyfnod hwnnw ehangodd yr adran yn sylweddol i ddarparu gwasanaeth eco cynhwysfawr, gwasanaeth rheoli’r galon a labordy catheter y galon diagnostig. Yn 2008 roedd yn rhan o’r tîm a enillodd wobr GIG Cymru am arloesedd ym maes gwasanaethau cleifion allanol y galon. Roedd yn Gyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Tywysoges Cymru rhwng 2015 a 2018. Ef yw Cyn-lywydd diweddaraf Cymdeithas Cardiofasgwlaidd Cymru a Chadeirydd presennol Cymdeithas y Meddygon yng Nghymru.


NJ Williams

Dr Natalie Joseph-Williams

Uwch Ddarlithydd mewn Gwella Gofal Cleifion

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd 

Mae Dr Natalie Joseph-Williams yn Uwch Ddarlithydd ym maes Gwella Gofal Cleifion yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ac yn gyd-arweinydd Pecyn Gwaith Gofal Iechyd wedi’i Ganoli ar yr Unigolyn Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru). Mae gan Natalie dros bedair blynedd ar ddeg o brofiad ym meysydd ymchwil, addysgu a gweithredu penderfyniadau ar y cyd, ac mae hefyd wedi gweithio’n agos gyda thimau clinigol, cleifion ac academyddion ledled y DU i wreiddio’r dull hwn mewn gofal clinigol arferol. Mae wedi datblygu a chyflawni’r rhaglen gwneud penderfyniadau ar y cyd genedlaethol a hefyd wedi arwain ar ddatblygiad safonau rhyngwladol ar gyfer gweithredu cymhorthion gwneud penderfyniadau i gleifion mewn lleoliadau clinigol arferol.  

 


a Brace

Yr Athro Alan Brace

Cyfarwyddwr Cyllid, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Llywodraeth Cymru

Cafodd Alan ei eni yng Nghwm Rhondda ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghoety gyda’i wraig a’i dri phlentyn.

Ymunodd Alan â’r GIG fel Hyfforddai Rheoli Cyllid Cenedlaethol ac oni bai am gyfnod o ddwy flynedd mewn Llywodraeth Leol mae wedi treulio ei holl yrfa yn GIG Cymru. Mae Alan wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyllid ac yn Brif Swyddog Gweithredol mewn nifer o Gyrff Iechyd yng Nghymru. Yn 2016 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyllid y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.

 Hwn yw’r grŵp mwyaf yn Llywodraeth Cymru ac mae’n cwmpasu cynllunio strategol a chyflenwi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru gyfan. Yn y rôl hon mae Alan yn gweithio’n agos gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ogystal â Byrddau Iechyd yng Nghymru. Alan hefyd yw Pennaeth Cyllid Proffesiynol ar gyfer GIG Cymru gyfan.

Mae Alan hefyd wedi elwa gan gyfnodau astudio estynedig yn Ysgol Fusnes Harvard, yn astudio Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Gyffredinol yn ogystal â Mesur Gwerth mewn Gofal Iechyd, a hefyd yn Ysgol Fusnes Stanford yng Nghaliffornia yn astudio Arweinyddiaeth nid er Elw. 

Ym mis Medi 2018 fe’i gwnaed yn Athro Anrhydeddus yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe.


K Howkins

Keith Howkins

Arbenigwr Arweiniol – Gwybodaeth

Gwasanaethau Gwybodaeth

Ar ôl gweithio ym maes gwybodaeth yn y GIG ers 2004, ym mis Medi 2019 fe’m penodwyd i’r tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth er mwyn gweithio ar ddyluniad dangosfwrdd. I ddechrau gweithiais ar y dangosfwrdd Canser yr Ysgyfaint Cenedlaethol, gan ddatblygu’r cynnyrch presennol a chyflwyno’r dangosfwrdd gyda chydweithwyr i randdeiliaid ledled Cymru. Rydw i hefyd wedi bod yn brysur iawn yn datblygu dangosfwrdd strôc a dadansoddiad PROMS. Yn ystod pandemig Covid arweiniais ddyluniad Hyb Data Covid Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a chefais fy nghyfweld gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ynglŷn â rôl technoleg gwybodaeth a gwasanaethau digidol mewn gofal iechyd. Pan na fyddaf yn y gwaith rwy’n mwynhau chwaraeon ac yn chwarae pêl-droed, criced ac yn rhedeg, ac rydw i hefyd yn dysgu sgiliau syrcas megis y trapîs a jyglo.


T Adams

Thomas Adams 

Arbenigwr Arweiniol, Gwasanaethau Gwybodaeth

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Ar ôl graddio o’r brifysgol llynedd, rydw i wedi bod yn gweithio gyda’r tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth i ddatblygu dangosfyrddau clinigol. Mae’r dangosfyrddau rhyngweithiol iawn yn canolbwyntio ar adrodd am weithgarwch, Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMS) ac amrywiad. Yn aml bydd angen i ddatblygiad y dangosfyrddau hyn gael lefel uchel o ymgysylltu â rhanddeiliaid a byddaf yn cyfathrebu’n rheolaidd â rhanddeiliaid, megis meddygon a nyrsys, i gynhyrchu mewnwelediadau ystyrlon, defnyddiol ac effeithiol i’r data.

 

 


S Goodfellow

Dr Susan Goodfellow MBBS. MRCP. DRCOG. DFFP. Dip.Derm. 

Arweinydd Gwella Clinigol

Gwerth mewn Iechyd

Bywgraffiad: Dr Sue Goodfellow yw Arweinydd Gwelliant Clinigol ar gyfer y Tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Mae’r rôl hon yn cynnwys cynghori ynglŷn â dylunio a gwerthuso prosiectau Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, a gweithio gydag aelodau tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a chydweithwyr ledled Cymru i ddangos cyflawniad y nod triphlyg: darparu gwell gofal i gleifion, gwell iechyd ar gyfer poblogaethau, am gost is.

Mae wedi bod yn geithio fel meddyg teulu yng Nghaerdydd a’r Fro ers 1993, ac yn hyfforddwr meddygon teulu ers 2004, ac mae’n parhau i gynnal gwaith clinigol yn rheolaidd.

Mae gan Sue hefyd rôl fel Tiwtor Gwella Ansawdd ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn gweithio’n bennaf i ddarparu hyfforddiant Gwella Ansawdd i Gofrestryddion Meddygon Teulu a Hyfforddwyr Meddygon Teulu.

Arweiniodd Sue ei Phractis Meddyg Teulu i wobr GIG Cymru ar gyfer Gwella Ansawdd yn 2018, ac ar hyn o bryd mae wedi’i henwebu yng Ngwobrau Diogelwch Cleifion HSJ ar gyfer “Menter Gwella Ansawdd y Flwyddyn 2020”. 

Mae ganddi brofiad ym maes cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio gofal cleifion, yn arbennig ym maes darpariaeth gwasanaeth. Mae ganddi hanes da hefyd mewn mentora nifer o gydweithwyr mewn rolau clinigol ac anghlinigol sy’n ymgymryd â phrosiectau gwella, gan ddefnyddio methodoleg Gwella Ansawdd.


Generic

Melanie Thomas

Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Lymphoedema

Rhaglen Lymphoedema Genedlaethol 

Melanie yw’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol / Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Lymffoedema yng Nghymru ac mae ei chefndir ym maes ffisiotherapi. Chwaraeodd ran allweddol mewn datblygu Gwasanaethau Lymffoedema teg yng Nghymru ac mae’n gyfrifol am gynllunio a datblygiad strategol Rhwydwaith Lymffoedema Cymru ar draws GIG Cymru. Wedi’i wreiddio mewn Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth nod Rhwydwaith Lymffoedema Cymru yw lleihau gwastraff, niwed ac amrywiad yn ogystal â chyfoethogi dysgu ac felly gwella canlyniadau cleifion, profiad cleifion ac ansawdd.

Mae Melanie wedi bod yn brif ymchwilydd mewn nifer o dreialon ymchwil ym maes lymffoedema a chwblhaodd ei Doethuriaeth gyda Phrifysgol Abertawe yn 2018. Mae wedi cyflwyno a chyhoeddi’n eang ym maes arloesedd mewn gofal lymffoedema yn cynnwys gweithrediad datblygiad uwch ficrolawfeddygaeth Anastomosis Gwythiennol Lymffatig. 

Yn 2013 dyfarnwyd MBE i Melanie yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a Chymrodoriaeth gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr yn yr elusen International Lymphoedema Framework.


 

W Lewis

Wayne Lewis

Arweinydd Polisi (Cymru)

Crohn’s and Colitis UK

Mae clefydau Crohn a cholitis yn gyflyrau nad oes modd eu gwella sy’n achosi llid yn y system dreulio.  Ymhlith y symptomau cyffredin mae poenau cramp yn yr abdomen, dolur rhydd (weithiau gyda gwaed a mwcws), colli pwysau, blinder dwys, llid yn y cymalau, cyflyrau’r croen a phroblemau gyda’r llygaid (wfëwst).

Mae Wayne wedi gweithio gyda’r elusen ers 2018 yn dilyn gyrfa mewn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol yn Ne a Gorllewin Cymru, mewn Addysg Bellach ac mewn sefydliadau Trydydd Sector eraill. Yn y rolau amrywiol hyn ei nod bob amser fu rhoi’r unigolyn y mae’n gweithio gydag ef/hi wrth galon y broses gwneud penderfyniadau.  

Pan nad yw’n gweithio mae’n mwynhau cerdded, coedwigo ac mae’n aelod o griw bad achub RNLI Cei Newydd.

 


Lisa Powell Lisa Powell

Pennaeth Gwybodaeth Busnes

Uned Cyflenwi Cyllid

Mae Lisa Powell wedi bod yn weithiwr cyllid proffesiynol yn GIG Cymru am dros 25 o flynyddoedd. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r GIG yn Ymddiriedolaeth GIG y Rhondda ac yna ymuno â BIP Caerdydd a’r Fro yn 2000. Yn ystod ei chyfnod yng Nghaerdydd bu Lisa yn rhan o’r tîm costio arloesol a enillodd Wobr Costio y Gymdeithas Rheoli Cyllid Gofal Iechyd flynyddol yn 2011 fel un o sefydliadau GIG cyntaf y DU i weithredu system Costio ar Lefel Cleifion.

Yn 2014 symudodd Lisa i rôl genedlaethol fel y gweithiwr cyllid proffesiynol yn arwain gwaith casglu a datblygiad Costio ar Lefel Cleifion ar draws GIG Cymru. Mae wedi rheoli prosiect y gwaith o weithredu system costio Cymru gyfan yn llwyddiannus, gan fabwysiadu egwyddorion costio a gydnabyddir yn genedlaethol ac felly darparu cymhared meincnodi cost rhwng sefydliadau yng Nghymru a hefyd cymheiriaid yn GIG Lloegr.

Cyflwynwyd Lisa i waith Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth pan ymunodd â’r Uned Cyflenwi Cyllid pan y’i ffurfiwyd yn 2018. Fel Pennaeth Gwybodaeth Busnes mae’n ymwneud â nifer o brosiectau allweddol ar draws y Rhaglen Gwerth yng Nghymru, yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr clinigol ac ym maes rheoli parthed cyflawni elfen ‘budd’ yr agenda costio a chyllid.

Fel cyfrifydd cymwysedig, mae Lisa yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) ac ar hyn o bryd hi yw arweinydd costio y Gymdeithas Rheoli Cyllid Gofal Iechyd ar gyfer Cymru.  


 

Generic

Kathleen Withers

Prif Wyddonydd Gwerthuso

CEDAR 

Mae Kathleen wedi gweithio yn y GIG am dros 20 o flynyddoedd, yn fwyaf diweddar fel Prif Wyddonydd Gwerthuso yn Cedar, Canolfan Ymchwil Technoleg Gofal Iechyd. Yn ystod ei chyfnod yn Cedar mae Kathleen wedi datblygu diddordeb penodol mewn cynnwys cleifion yn eu gofal ac mae wedi bod yn rhan yn natblygiad, dilysiad a defnydd PROMs ers 2010. Mae ganddi brofiad mewn ystod o brosiectau yn ymwneud ag economeg iechyd, gwerthuso gwasanaeth, adolygiadau systematig, hwyluso treialon clinigol a gwerthuso dyfeisiau meddygol. Mae Kathleen yn arwain tîm ymchwil a dadansoddi bach sy’n cefnogi dadansoddiad data a gesglir ar y Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a setiau data cysylltiedig. Mae hi hefyd yn hwyluso’r gwaith o nodi a thrwyddedu offer PROMs ar gyfer y rhaglen Genedlaethol a’r cyfieithiadau Cymraeg a’u dilysiad.

Mae Kathleen yn mwynhau gwaith gyda chleifion a bydd yn cynnal cyfweliadau gyda chleifion a grwpiau ffocws yn rheolaidd ar gyfer dilysiad PROM, datblygiad gwasanaeth a gwerthusiadau. Mae’n awyddus i sicrhau bod allbynnau’r rhaglen yn cael eu cyrraedd mewn modd tryloyw, eu bod yn gadarn o ran methodoleg, yn gallu gwrthsefyll craffu ac yn cael eu rhannu’n briodol gyda’r gymuned gofal iechyd.

Mae Cedar wedi arwain nifer o gyflwyniadau mewn cynadleddau a chyhoeddiadau ar ran y Rhaglen Gwerth mewn Iechyd ac mae wedi cael llwyddiant mewn digwyddiadau cenedlaethol yn cynnwys Gwobrau Cenedlaethol Rhwydwaith Profiad y Claf.


Dr Karen PardyKaren Pardy

Cyfarwyddwr Cymunedol, Clwstwr SW Caerdydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

Mae Dr Karen Pardy yn Bartner Meddyg Teulu ym Meddygfa Lansdowne, Caerdydd a hi yw’r Meddyg Teulu Arweiniol ar gyfer Clwstwr De Orllewin Caerdydd. Cymhwysodd ym 1997 yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru a chwblhaodd hyfforddiant ôl-radd mewn Pediatreg yn ogystal ag Ymarfer Cyffredinol.

Drwy ei gwaith clwstwr mae wedi cael ei hysbrydoli gan y nifer o sefydliadau cymunedol sy’n cefnogi iechyd a lles. Arweiniodd hyn at nifer o brosiectau presgripsiynu cymdeithasol yn y clwstwr a gefnogwyd gan y Gronfa Partneriaeth Gymunedol, y Gronfa Arloesi i Arbed a Chronfa Pacesetter.

Cafodd prosiectau allweddol eu cyflwyno yn y Gynhadledd Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Ryngwladol Gyntaf yn 2018. Mae Dr Pardy yn awyddus i gefnogi datblygiad presgripsiynu cymdeithasol fel rhan o fodel gofal cyfannol ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro. Ar hyn o bryd mae tîm clwstwr De Orllewin Cymru yn datblygu model o ofal integredig, gan gymryd ysbrydoliaeth gan Gymunedau Tosturiol gyda dull tîm amlddisgyblaeth wedi’i wreiddio’n gadarn mewn rhwydwaith cymorth cymunedol.


H Thomas

Helen Thomas 

Cyfarwyddwr Dros Dro

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

defnydd data ym maes gofal iechyd ac yn natblygiad yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) newydd.

Yn flaenorol bu’n Gyfarwyddwr Gwybodaeth Cynorthwyol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, gyda chyfrifoldeb am ddarparu’r wybodaeth oedd ei hangen i werthuso darpariaeth gwasanaeth a chefnogi’r gwaith o wella a thrawsnewid y gwasanaeth.

Dechreuodd Helen ei gyrfa yn y GIG 30 mlynedd yn ôl, gan weithio’n gyntaf ym maes cyllid cyn symud i faes gwybodaeth iechyd yn 2000. Mae wedi ennill profiad helaeth o wybodeg iechyd ar draws nifer o uwch rolau dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mae Helen yn angerddol ynglŷn ag ysgogi defnydd data a deallusrwydd i gefnogi gwelliant, trawsnewid gwasanaeth a chanlyniadau cleifion ac mae wedi cefnogi datblygiad y dull gwybodaeth strategol Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth cenedlaethol.




A Abdulla

Ahmed Abdulla 

Prif Swyddog Gweithredol

Digipharm

Economegydd iechyd yw Ahmed yn ôl ei grefft ac mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Economegydd Iechyd Byd-eang yn Roche lle bu’n arwain y gweithgareddau economeg iechyd byd-eang ar gyfer un o’i therapïau canser yr ysgyfaint diweddaraf. Mae Ahmed hefyd wedi gweithio mewn Grŵp Adolygu Tystiolaeth yn y DU i werthuso cyflwyniadau STA i NICE gan weithgynhyrchwyr sy’n ceisio mynediad ym marchnad y DU. Mae ganddo brofiad ar draws y piblinell fferyllol a datblygiad cyffuriau cynnar.

Mae hefyd wedi arwain Gweithgor Cadwyn Gyswllt mewn Gofal Iechyd yng Nghanolfan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Hwyluso Masnach a Busnes Electronig ac mae’n cyfranogi yn natblygiad y Bwrdd Cynghori Technolegau Uwch.


 

R Dunbar

Dr Rupert Dunbar-Rees

Prif Swyddog Gweithredol

Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Ganlyniadau

Dr Rupert Dunbar-Rees yw Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol Outcomes Based Healthcare, sefydliad dadansoddeg data iechyd sy’n darparu mewnwelediad yn ymwneud â chanlyniadau ac yn ôl segmentau ar systemau iechyd yn rhyngwladol. 

Hyfforddodd Rupert mewn Meddygaeth yng Ngholeg Imperial ac mae ganddo radd mewn Orthopedeg o UCL. Roedd yn Bartner mewn ymarfer cyffredinol am bum mlynedd cyn ymuno â’r Adran Iechyd yn Llundain fel cynghorydd clinigol arbenigol.

Mae gan Rupert MBA gyda rhagoriaeth o Ysgol Fusnes CASS, mae’n aelod o’r Bwrdd Cynghori Strategol ar gyfer y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Hirhoedledd Iach. Mae’n Aelod o’r Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, yn Gymrawd y Gyfadran Gwybodeg Glinigol, ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd.




A Carson-Stevens

Dr Andrew Carson-Stevens

Cyfarwyddwr Gwyddonol Cymru

PaRIS OECD 

Mae Andrew Carson-Stevens yn ymarferydd cyffredinol academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae’n ymgynnull y grŵp ymchwil Diogelwch Cleifion (PISA) gydag arbenigedd yn ymchwilio ansawdd a diogelwch gofal iechyd, yn arbennig amlder a’r modd i osgoi niwed sylweddol mewn gofal iechyd, dulliau dysgu drwy beiriannau (deallusrwydd artiffisial) ar gyfer awtomeiddio dadansoddiad data diogelwch cleifion, a gweithredu a gwerthuso ymyriadau er mwyn lleihau niwed i gleifion. Mae’n Arweinydd Ymchwil Diogelwch Cleifion yng Nghanolfan PRIME Cymru, yn gynghorydd hirsefydledig i Sefydliad Iechyd y Byd ac yn cyfrannu i nifer o brosiectau rhyngwladol a arweinir gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal iechyd yn fyd-eang.  




Navjot Karla

Navjot Kalra

Pennaeth Dros Dro Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, GIG, Pencadlys, Baglan, GOFAL IECHYD SEILIEDIG AR WERTH

Mae Navjot yn arwain y Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sefydliad gofal iechyd integredig mawr yn GIG Cymru. Mewn gyrfa sy’n ymestyn dros 20 mlynedd mae Navjot wedi cael profiad amrywiol ac eang o dechnoleg; yn arbennig seilwaith ar gyfer technoleg gwybodaeth, deallusrwydd busnes, gweithrediad systemau a thrawsnewid busnes. Enillodd brofiad eang drwy arwain nifer o raglenni trawsnewid busnes mawr yn fyd-eang mewn sefydliadau Top Fortune 500 cyn ymuno â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.  Mae’n arbenigwr ar reoli newid ac ail-feddwl prosesau busnes.

Enwebwyd menter Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth Bae Abertawe ym maes Methiant y Galon ar gyfer grant Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth Europe Dragon ar gyfer y flwyddyn 2020. Mae dwy o’r mentrau Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth wedi’u dewis ar gyfer crynodebau a gynhwysir yng Nghynhadledd ICHOM a’r cyflwyniadau Crynodebau yn 2020.

Ar ôl astudio peirianneg mewn Gwyddorau a Rhaglenni Cyfrifiadurol (B.Tech) ym Mhrifysgol Punjabi India, bu Navjot yn gweithio yn Norwy gyda Hewlett Packard lle arweiniodd weithrediad gwasanaethau argaeledd uchel ar gyfer y diwydiant cyllid yn y gwledydd Nordig ac Ewrop. Yna ymunodd â Maxim Integrated Products, arweinydd y farchnad mewn dyfeisiau analog a chefnogodd y sector telathrebu yn Ewrop, Y Dwyrain Canol, Affrica ac Asia. Mae wedi arwain nifer o raglenni trawsnewidiol Digidol gwerth uchel yn fyd-eang er mwyn gwella cadwyn gyflenwi ac effeithlonrwydd ym maes gweithgynhyrchu. 

Yn Qlik Norwy, arweinydd y diwydiant mewn Deallusrwydd Busnes a Dadansoddeg Weledol, bu Navjot yn gweithio gyda phartneriaid sianel megis PWC a Deloitte i roi nifer o raglenni deallusrwydd trawsnewid busnes ar waith mewn sefydliadau gofal iechyd a manwerthu. 

Mae gan Navjot MBA o Ysgol Fusnes Henley lle arweiniodd ei hymchwil ar Ffactorau Llwyddiant Hollbwysig mabwysiadu Deallusrwydd Busnes gyda 50 o ymddiriedolaethau yn y GIG at gynhyrchu papur gwyn ar gyfer Technolegau Qlik a chyhoeddiadau eraill. Mae Navjot yn Ddarlithydd Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe (Gwybodeg Iechyd). Mae wedi arwain prosiectau ymchwil sylweddol gan ddefnyddio Data Mawr ar gyfer gwneud penderfyniadau gweithredol, er mwyn gwella effeithlonrwydd a chanlyniadau cleifion. Dewiswyd ei hymchwil lefel poblogaeth arloesol ar gyfer ei gyflwyno yng Nghymdeithas Astudiaethau Poblogaeth Prydain.

Mae Navjot yn un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw ar ddatblygu gweithrediad a safonau technegol ar gyfer asesiad cydymffurfiad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yng Nghymru ac mae’n gweithio’n agos gyda’r tîm Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Chwaraeodd rôl ganolog mewn cysyniadau a datblygu’r Strategaeth Deallusrwydd Comisiynu i greu safonau gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau comisiynu yn seiliedig ar iechyd y boblogaeth

 


K Truman

Dr Kirstie Truman

Arweinydd Clinigol Gofal Sylfaenol ar gyfer Cardioleg

Bwrdd iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Cymhwysodd Dr Kirstie Truman fel Ymarferydd Cyffredinol yn 2001 ac mae wedi bod yn bartner Meddyg Teulu ym Meddygfeydd St Thomas a West Cross ers 2003.



Bu’n gweithio fel Meddyg Teulu â Diddordeb Arbennig mewn Cardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o 2006 hyd 2017 ac mae ganddi ddiploma fel ymarferydd â diddordeb arbennig mewn Cardioleg (rhagoriaeth).

Mae rôl fwyaf diweddar Dr Truman yn rôl estynedig mewn cardioleg gan arwain mewn cardioleg gofal sylfaenol ar gyfer y Bwrdd Iechyd. 

Mae ei rolau eraill yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer cynllun hyfforddi meddygon teulu Bae Abertawe ac yn flaenorol bu’n gweithio fel arweinydd clwstwr. 

Pan nad yw’n gweithio bydd Kirstie yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu ac yn cerdded y ci!

 


B Dicken

Dr Benjamin Dicken

Cardiolegydd Ymgynghorol, Gofal Eilaidd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Cymhwysodd Dr Benjamin Dicken fel meddyg o Goleg Imperial Llundain yn 2004.

Ymunodd â Chynllun Uwch Hyfforddiant Cardioleg Cymru yn 2009 a threuliodd gyfnod o amser yn gwneud gwaith ymchwil i fethiant y galon yn yr Adran Cardioleg Academaidd ym Mhrifysgol Hull. Mae wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ac wedi cyflwyno’n rheolaidd mewn cynadleddau methiant y galon rhyngwladol.

Ers mis Mehefin 2019 mae Dr Dicken wedi bod yn Feddyg Ymgynghorol y Galon parhaol yn Ysbyty Treforys, Abertawe, a’i is-ddiddordebau arbenigol yw methiant y galon a dyfeisiau.

 


Generic

Victoria Bates

Rheolwr Gyfarwyddwr

Bates Cass Consulting Ltd

Dechreuodd Victoria ei gyrfa yn y GIG fel nyrs, bydwraig. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaeth Iechyd a’r Diwydiant Fferyllol mewn uwch rolau masnachol a gweithredol, yn datblygu a chyflwyno rhaglenni strategol yn y DU ac Ewrop i gefnogi cydweithrediadau Gwyddorau Bywyd gyda Systemau Iechyd er mwyn grymuso’n well ddinasyddion a gweithwyr Iechyd proffesiynol i wella iechyd a lles a rhoi canlyniadau sy’n bwysig i gleifion. Ar hyn o bryd mae’n cydweithio â Phrifysgol Abertawe i sefydlu Addysg Weithredol sy’n canolbwyntio ar gefnogi busnesau i roi mwy o werth a meithrin partneriaethau cydweithredol cynaliadwy.

 


A Willcaott

Amanda Willacott 

Rheolwr Rhaglen

Rhaglen Gwerth mewn Iechyd

Ymunodd Amanda â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar ôl graddio ym mis Medi 1997. Ers hynny mae wedi ymgymryd â gwahanol rolau rheoli ar draws y Bwrdd Clinigol Llawfeddygol yn cynnwys 13 o flynyddoedd gyda’r Gyfarwyddiaeth Trawma ac Orthopedeg fel Dirprwy/Rheolwr Dros Dro y Gyfarwyddiaeth.  

Pan oedd yn y rôl hon y dechreuodd Amanda ddangos diddordeb brwd yn PROMs a chyflwynodd broses casglu gwybodaeth adran gyfan wedi’i safoni o fewn arbenigeddau'r glun a’r pen-glin. Roedd hyn yn cynnwys dylunio proses lle gellid defnyddio PROMs i lywio asesiad rhithwir/o bell yn dilyn llawfeddygaeth cymalffurfiad y glun neu’r pen-glin, gan sicrhau lleihad o 95% yn y galw am apwyntiadau dilyn i fyny wyneb yn wyneb. Ers hynny mae’r dull hwn wedi cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru ac ar hyn o bryd mae’n cael ei gyflwyno ledled y wlad.

Ymunodd Amanda â Rhaglen PROMs, PREMs ac Effeithiolrwydd ym mis Medi 2016, ac integreiddiwyd y rhaglen yn ddiweddarach gyda’r Rhaglen Gwerth mewn Iechyd genedlaethol. Bydd Amanda yn canolbwyntio ar sicrhau mecanweithiau cyson ar gyfer casglu ac adrodd ar ganlyniadau er mwyn cefnogi “Cymru iachach” a ysgogir gan ganlyniadau.

 


Adele CahillAdele Cahill

Assistant Director Value Based Health Care

Aneurin Bevan University Health Board 

Mae Adele Cahill wedi bod yn uwch reolwr yn GIG Cymru am dros 36 o flynyddoedd, yn weithiwr Caffael proffesiynol yn arwain y timau Caffael ar draws GIG Cymru am 30 o flynyddoedd ac wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf mewn ystod o rolau uwch reoli yn cefnogi rhaglenni Newid Polisi a Thrawsnewid mawr ar draws gwahanol Fyrddau Iechyd Cymru.

Mae ei rolau wedi bod yn hollbwysig mewn adolygu arfer ar draws ystod o wasanaethau, gyda hanes da o reoli newid yn llwyddiannus, rheoli rhaglenni a phrosiectau a’u rhoi ar waith, drwy arweinyddiaeth strategol effeithiol. 

Cyflwynwyd Adele i waith Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ystod 2015 gan yr Athro Alan Brace, y Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, pan ymunodd â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i roi cyfeiriad i’r rhaglen strategol wrth sefydlu ac arwain y rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Erbyn hyn mae Adele yn gysylltiedig mewn darparu mewnwelediad strategol a gwybodaeth i gefnogi’r Rhaglen Gofal Iechyd Darbodus a Seiliedig ar Werth Genedlaethol. 

Mae ei rolau presennol a’i diddordebau yn cynnwys: Arweinydd Rheoli a Gweithredu ar gyfer partneriaeth strategol a mesurau canlyniadau ICHOM, Aelod o’r Asiantaeth Cyflenwadau Gofal Iechyd (HCSA), a Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS), Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a Chaffael Seiliedig ar Werth.

 


Glyn Jones Glyn Jones

Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dechreuodd Glyn yn y GIG ym 1989, gan ymuno â chynllun hyfforddi rheolaeth ariannol GIG Cymru. Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio yn y GIG yng Nghymru a De Orllewin Lloegr. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys swyddi Cyfarwyddwr Cyllid yn y Rhondda, Bryste, Sir Gaerfyrddin a Powys.

Mynychodd Ysgol Fusnes Harvard ddwywaith, lle bu’n astudio mesur perfformiad mewn sefydliadau nid-er-elw, (2005) a mesur gwerth mewn gofal iechyd (2015). 

Mae gan Glyn gydgyfrifoldeb gweithredol - ynghyd â’r Cyfarwyddwr Meddygol - am y Rhaglen Seiliedig ar Werth yn y Bwrdd Iechyd.

 


Professor Chris Jones Chris Jones

Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru

Yr Athro Chris Jones yw Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru. Ymunodd â Llywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru ym mis Mehefin 2010. Yn flaenorol bu’n Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’n feddyg a chardiolegydd ar gofrestr arbenigol y GMC ar gyfer Meddygaeth Gyffredinol a Chardioleg ac yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yn Llundain.

Chris hefyd yw’r Arweinydd Arbenigol ar gyfer Ymchwil Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru ac Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

Cymhwysodd Chris mewn meddygaeth yn Llundain ym 1981 a gwnaeth waith clinigol ac ymchwil yn Llundain, Caerdydd ac UDA. Fe’i penodwyd yn Gardiolegydd Ymgynghorol cyntaf Pen-y-bont ar Ogwr ym 1994 ac aeth ymlaen i arwain datblygiad gwasanaeth cardioleg clinigol a fyddai’n perfformio’n dda dros y 15 mlynedd ddilynol. Yn ystod y cyfnod hwn treuliodd 4 blynedd hefyd yn Uwch Ddarlithydd ym maes Cardioleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi cyhoeddi dros 80 o bapurau gwreiddiol a adolygir gan gymheiriaid.

Dechreuodd gyrfa Chris mewn rheolaeth feddygol yn 2003 pan ddaeth yn Aelod Bwrdd Cyswllt Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg. Wedyn bu’n gweithio yno fel Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth ac yna Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Ymddiriedolaeth Prifysgol ABM cyn symud i Gaerdydd. 

Fel Dirprwy Brif Swyddog Meddygol a Dirprwy Gyfarwyddwr Isadran Gofal Iechyd y Boblogaeth, bydd Chris yn cefnogi gwaith i wella iechyd a lles y boblogaeth a datblygiad gwasanaethau gofal iechyd sy’n rhoi gwerth uchel i gleifion o ran canlyniadau a phrofiad

 


Stephen Frith Stephen Frith

Mae Stephen Frith wedi gweithio ym maes gwybodeg y GIG am dros 30 o flynyddoedd. Ar ôl gyrfa yn y GIG, gan ddod i uchafbwynt mewn rhedeg yr adran wybodeg yn Ysbyty Oxford Radcliffe, treuliodd Stephen beth amser yn gweithio gyda chwmni i sefydlu platfformau negeseua y GIG yn seiliedig ar XML cyn symud i Awdurdod Gwybodaeth y GIG. Wedi hynny mae Stephen wedi gweithio ar nifer o raglenni TG mawr iawn y llywodraeth, yn cynnwys bod yn arweinydd masnachol ar gyfer negodi rhwydwaith y GIG, N3 a’r cyd-blatfform rhwydweithio Cymru gyfan, PSBA.

Mae ei brofiad yn cynnwys gweithio ar raglenni cofnod sengl yng Nghymru a Lloegr, datblygiad y rhaglen beilot ar gyfer My Heath on Line, dylunio a chyflenwi rhaglenni newid TG cymhleth a chyflenwi rhaglenni seilwaith sector cyhoeddus mawr iawn.

Mae prif ddiddordebau presennol Stephen yn canolbwyntio ar gynorthwyo’r sector cyhoeddus i drefnu ei hun a dod yn gleient deallus iawn, gan ailosod y cydbwysedd gyda’r sector masnachol. Ysgogir hyn gan gred gadarn bod trefniadau masnachol wedi’u strwythuro’n dda yn rhoi buddiannau gwirioneddol i bartneriaid masnachol a’r sector cyhoeddus yn ehangach. Mae cydweithredu a syniadaeth cyd-gysylltiedig o fewn y sector cyhoeddus yn allweddol i greu rhaglenni lle gall diwydiant arloesi o ddod â gwerth cyflym a lle gall y sector cyhoeddus sicrhau gwerth gwirioneddol ar gyfer pwrs y wlad. Oherwydd hyn, bydd Stephen wastad yn barod i siarad am ymgysylltu cynhwysol â rhandaliad a llywodraethu rhaglen sy’n gynrychioliadol gadarn.

Mae Stephen yn ffodus i fod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Gwasanaethau Digidol Cymru ar gyfer y rhaglen Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP), gan gynnig y cyfle a’r cyfrifoldeb iddo roi dros ugain mlynedd o baratoi manwl ar waith mewn maes sydd o ddiddordeb personol iawn. Yn y rôl hon mae’r angen i gydbwyso arloesedd a’r cynnydd y gellir ei gyflawni gyda data iechyd agored ar un llaw, gydag anghenion yr un mor sylfaenol uniondeb data a diogelu data personol ar gyfer unigolion ar y llall, yn diffinio’r ffin denau y mae angen gwneud cynnydd arni.

Mae Stephen yn byw gyda’i bartner yng Ngorllewin Cymru lle mae tri bachgen ifanc a phrosiect DIY sydd allan o reolaeth i adnewyddu ffermdy yn Sir Benfro yn golygu nad oes ganddo fawr o amser i fynd i’r afael â’i ddiddordebau eraill sef hwylio a cheir clasurol. Mae’n llwyddo fodd bynnag i ddilyn cwrs a hunan-ddyfeisiodd i astudio popeth yn ymwneud â gwinoedd, cwrs sydd wedi’i seilio’n bennaf ar ymchwil profiad.


Hywel Jones Hywel Jones

Cyfarwyddwr – Yr Uned Cyflenwi Cyllid

GIG Cymru

Hywel yw Cyfarwyddwr Uned Cyflenwi Cyllid GIG Cymru, Uned a sefydlwyd ym mis Ionawr 2018 fel cyfrwng i arwain datblygiad arfer gorau mewn rheolaeth ariannol, deallusrwydd ariannol strategol, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, a gwelliant ariannol ar draws GIG Cymru. 

Graddiodd mewn seicoleg ac ymunodd â’r GIG yn 2003 fel rhan o’r Cynllun Hyfforddi Rheolaeth Ariannol Cenedlaethol a chyn cael ei rôl bresennol bu ganddo nifer o uwch rolau ym Myrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan.

Ar hyn o bryd mae Hywel yn Is-gadeirydd Academi Gyllid GIG Cymru ac mae ganddo ddiddordeb brwd ym maes datblygiad personol a phroffesiynol, gan sicrhau bod pobl a systemau yn manteisio i’r eithaf ar eu potensial. Mae’n Gymro balch gyda’i galon yng Ngorllewin Cymru ac yn briod gyda dau o blant.


Antony Chuter FRCGP (Anrh) Antony Chuter

Claf a Chyd-aelod Lleyg

Claf yn helpu mewn ymchwil gofal iechyd

Treuliodd Antony ei ieuenctid ar arfordir de Lloegr ac ar un adeg byddai’n hwylio, dringo mynyddoedd ac yn byw bywyd egnïol dros ben. Ym 1991 dechreuodd ddatblygu poen hirdymor a bu mewn man tywyll am gryn amser. Collodd ei swydd, ei gartref, ei bartner a gyda hynny ei obeithion a’i freuddwydion ar gyfer y dyfodol.

Yn 2004 canfu Antony y Rhaglen Cleifion Arbenigol a chafodd fudd mawd o’r cwrs a dysgu hunan-reoli ei gyflyrau. Gwirfoddolodd ar gyfer Rhaglen Cleifion Arbenigol a dechreuodd ail-gydio yn ei fywyd. Gwnaeth gais am swydd gyda’r Rhaglen a bu’n llwyddiannus – hwn oedd ei waith gyda thâl cyntaf mewn 12 mlynedd. Dechreuodd Antony hefyd ymwneud â’i awdurdod iechyd lleol, yna ar lefel ranbarthol ac yna gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Roedd wastad wrth ei fodd yn gallu gwneud gwahaniaeth a fyddai’n helpu llawer, ac felly y mae o hyd. Dechreuodd ymwneud ym maes ymchwil gofal iechyd, yn canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelwch cleifion. Cafodd ei swydd gyda’r Rhaglen Cleifion Arbenigol ei dileu a daeth yn hunangyflogedig yn gwneud gwaith ymchwil fel aelod lleyg. 

Antony yw Cadeirydd elusen Pain UK ac mae wedi cadeirio’r grwpiau cleifion yng Nghymdeithas Poen Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol - dyfarnwyd cymrodoriaeth anrhydeddus iddo gan y Coleg am ei waith.

Mae Antony wrth ei fodd gyda’i waith, a daw ei angerdd o helpu i wella gofal iechyd ar gyfer pawb sy’n gorfod defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n dal i fyw gyda phoen a nifer o gyflyrau iechyd eraill ond caiff gysur o’i waith ac wrth goginio. 

 


Judith Paget CBE Judith Pagent

Prif Weithredwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Penodwyd Judith yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Hydref 2014. Ymunodd â’r Bwrdd Iechyd fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau ar 1 Hydref 2009 ac wedi hynny daeth yn Brif Swyddog Gweithredu/Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr. 

Mae Judith wedi gweithio yn y GIG ers 1980 ac mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gweithredol, cynllunio a chomisiynu mewn nifer o sefydliadau’r GIG ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru. Penodwyd Judith i’w rôl Prif Swyddog Gweithredol gyntaf ym mis Ebrill 2003. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn gweithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus; datblygu gofal sylfaenol a chymunedol; gofal iechyd seiliedig ar werth a datblygiad staff ac ymgysylltu. 

Dyfarnwyd Cwmnïaeth Sefydliad Rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd i Judith yn 2012 ac ym mis Mehefin 2014 enillodd Wobr Cyfarwyddwr mewn Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Ym mis Mehefin 2019 dyfarnwyd CBE i Judith yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i gyflenwi a rheoli yn GIG Cymru.


Rebecca Richards Rebecca Richards

Cyfarwyddwr

Academi Gyllid GIG Cymru

Wedi ymuno â GIG Cymru ym 1990 fel Hyfforddai Cyfrifyddiaeth a Rheolaeth Ariannol, mae Rebecca wedi cael nifer o swyddi ar draws De Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Cyfarwyddwr Cyllid dau Fwrdd Iechyd dros gyfnod o bedair blynedd ar ddeg.

Am 18 mis, o fis Gorffennaf 2014, bu Rebecca yn Gadeirydd Cyfarwyddwyr Cyllid Cymru Gyfan ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n weithgar yn cefnogi’r gwaith o greu Academi Gyllid GIG Cymru, gan gymryd arweinyddiaeth bersonol o’r Rhaglen Partneriaethau.

Ym mis Ebrill 2016 manteisiodd Rebecca ar gyfle datblygiad personol unigryw i weithio ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan fel Cyfarwyddwr Cyswllt am flwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwn cwblhaodd y Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn Ysgol Fusnes Harvard.

Penodwyd Rebecca yn Gyfarwyddwr Academi Gyllid GIG Cymru ym mis Mawrth 2017, ac mae’n awyddus dros ben i’r Academi fod yn flaenllaw yn natblygiad pobl a swyddogaethau cyllid a’r uchelgais yw bod holl staff cyllid GIG Cymru yn ychwanegu gwerth yn barhaus i’r sefydliadau rydym yn eu cefnogi a’r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu yng Nghymru.

Mae ei huchafbwyntiau nodedig ers iddi fod yn y swydd wedi cynnwys cyflwyno’r brif araith yn lansiad Academi Gyllid Rolls-Royce plc a chefnogi Academi Gyllid GIG Cymru i ennill Gwobr Sefydliadol Arwain Cymru 2018 am Ysbrydoli Arweinyddiaeth Gwych a Gwobr Cyllid Cyhoeddus y DU 2019 am Fenter Hyfforddiant a Datblygiad Cyllid. Yr elfen o’r rôl y mae Rebecca wedi’i mwynhau fwyaf yw’r broses ymchwilio, creu a goruchwylio cyflawniad nifer o raglenni datblygu uchel eu proffil ar gyfer staff cyllid yn GIG Cymru.

Mae gan Rebecca nifer o ddiddordebau y tu allan i’w gwaith, sy’n cynnwys bod yn aelod o Glwb Sglefrio Iâ Cenedlaethol Caerdydd a chwarae amrywiaeth o offerynnau cerddorol. Yn fwy diweddar dechreuodd Rebecca fenter casglu ar gyfer y banc bwyd “TIN ON THE WALL” gyda’i phentref lleol i ddarparu cefnogaeth i bobl yn ystod y pandemig.


Michelle PriceMichelle Price

Therapydd Ymgynghorol ar gyfer Strôc a Niwroadsefydlu, Arweinydd Clinigol i Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer y Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol

Ffisiotherapydd yn ôl proffesiwn yw Michelle. Mae wedi arbenigo mewn strôc a chyflyrau niwrolegol ers dros 25 mlynedd, gan weithio mewn nifer o sefydliadau yn Leeds, Llundain ac wedi’i leoli yng Nghymru ers 20 mlynedd.

Bu’n reolwr rhaglen gydag NLIAH (Gwella Cymru erbyn hyn) ar raglan gydweithredol i wella strôc Cymru ers 2 flynedd ac mae wedi bod yn ei rôl bresennol ym Mhowys ers 9 mlynedd. 

 

 

 


Claire Green Claire Green

Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Uned Cyflenwi Cyllid 

Mae Claire yn uwch arweinydd cyllid yn Uned Cyflenwi Cyllid GIG Cymru, sefydliad annibynnol o fewn GIG Cymru a sefydlwyd i ysgogi gwelliant a chyflawniad ariannol. Mae rhan fwyaf o’r briff hwnnw’n cynnwys cefnogi sefydliadau i nodi a darparu gwelliannau effeithlonrwydd a chynhyrchedd, lleihau gwastraff, niwed ac amrywiad direswm, ac yn y pen draw trawsnewid gwasanaethau trwy symud o dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd, gan ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn seiliedig ar ganlyniadau sydd o bwys i gleifion. 

Mae gan Claire brofiad sylweddol mewn rheolaeth ariannol ar wasanaethau aciwt, gofal eilaidd a chynhyrchedd ag effeithlonrwydd o fewn GIG Cymru, a hi yw arweinydd Fframwaith Effeithlonrwydd ac Amrywio Cenedlaethol yr Uned. Y Fframwaith yw’r ffynhonnell wybodaeth graidd i wneud y defnydd gorau o adnoddau o fewn GIG Cymru, a Claire yw’r arweinydd ar gyfer datblygu a gweithredu’r fframweithiau. 

Un o flaenoriaethau’r Uned yw cefnogi Llywodraeth Cymru a’r Arewinydd Clinigol Cenedlaethol wrth ddatblygu Gofal Iechyd Seiliedig Werth ledled Cymru, yn benodol datblygu deallusrwydd a mewnwelediad cenedlaethol, a darparu gallu a gallu i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol. Mae Claire yn chwarae rhan arweiniol yn y maes hwn yn cefnogi datblygiad Rhaglen y Bwrdd Iechyd lleol ochr yn ochr â gweithredu ac ehangu’r cynllun cenedlaethol. 


Jenni Washington Jenni Washington

Arbenigwr Gwybodaeth

Technoleg Iechyd Cymru

Yn dilyn gradd mewn Mathemateg, arweiniodd cariad Jenni at ddarllen hi ar lwybr Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth. Mae ei dealltwriaeth o ddamcaniaeth setiau a’i meddwl rhesymegol yn ei gwneud hi'n ddelfrydol ar gyfer chwilio ar-lein. Bu’n gweithio fel Gwyddonydd Gwybodaeth ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn, y diwydiant nwyddau defnyddwyr a Rhwydwaith Canllawiau Rhyng-golegol yr Alban, cyn cael swydd yn Technoleg Iechyd Cymru.

 

 

 




 

Archebwch eich lle ar gyfer Wythnos Gwerth mewn Iechyd