Hidlyddion
Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Nid yw cyllid yn benodol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Dylai CoREs MRC edrych tuag allan a harneisio’r dalent orau yn y DU i ddarparu amgylchedd ysgogol i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a thechnolegwyr ynddo. Disgwylir i CoREs MRC fabwysiadu a chynnal y safonau uchaf yn y ffordd y caiff ymchwil ei gynnal a'i gyfathrebu'n agored a datblygu a meithrin llwybrau gyrfa ac amgylchedd hyfforddi sy'n cefnogi diwylliant ymchwil cadarnhaol. O’r herwydd, rhaid i geisiadau bwysleisio’r tair egwyddor allweddol ganlynol sy’n sail i ddiwylliant ymchwil cadarnhaol: Cynhelir ymchwil gydag uniondeb, yn canolbwyntio ar atgynhyrchu, arloesi cyfrifol, cydweithio, rhyngddisgyblaeth ac amlddisgyblaeth.Mae ymchwil yn cael ei chyfathrebu i sicrhau'r effaith fwyaf bosibl, wedi'i seilio ar dryloywder a didwylledd, a phartneriaeth â'r cyhoedd.Darperir llwybrau gyrfa ac amgylchedd hyfforddi i gydnabod amrywiaeth o ddoniau, sgiliau ac allbynnau, a chroesawu gwyddoniaeth tîm fel ffordd o weithio. 

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Lan i £30,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Elusen ymchwil feddygol yw Ataxia UK sy'n cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan atacsia, grŵp o gyflyrau niwrolegol prin. Yn benodol, bydd ond yn ystyried ariannu ymchwil i gyflyrau lle mai atacsia yw’r prif symptom, a lle mae’r atacsia yn debygol o gynyddu.

Dysgwch ragor:

Ataxia

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Lan i £250,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Nod y gystadleuaeth yw cryfhau gallu’r DU ym maes Gwaith Fforensig Microbaidd. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn ymateb i Strategaeth Diogelwch Biolegol y DU 2023 sy’n anelu at weithredu dull DU gyfan o ymdrin â bioddiogelwch a fydd yn cryfhau ataliaeth a gwytnwch i sbectrwm o fygythiadau biolegol.

Dysgwch ragor:

Llywodraeth y DU

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £10,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Nod y gronfa hon yw meithrin partneriaethau a darparu cyllid sbarduno i ddatblygu atebion arloesol sy’n gwella canlyniadau a phrofiadau i fenywod y mae canser yn effeithio arnynt.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £10,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Grant i gefnogi gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag ymchwil a gyflawnir gan feddygon nad ydynt ar lefel ymgynghorol, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a fferyllwyr sy'n gweithio ym maes meddygaeth geriatrig neu sy’n ymddiddori mewn heneiddio.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £20,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae Grantiau Offer BRACE yn cefnogi ymchwilwyr mewn prifysgolion yn Ne-orllewin Lloegr a De Cymru sy'n cynnal ymchwil i glefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia, gan gynnwys dementia cyrff Lewy, dementia blaen-arleisiol, a dementia fasgwlaidd. Croesewir ceisiadau o feysydd sy'n ymwneud â dementia hefyd, gan gynnwys Anaf Trawmatig i'r Ymennydd, nam gwybyddol ysgafn (MCI) a dementia cynnar. Mae ymchwil i ddementia sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwrolegol eraill, megis dementia mewn clefyd Parkinson a dementia sy'n gysylltiedig â chlefyd Huntington, hefyd yn gymwys, ar yr amod bod y prif ffocws ymchwil ar yr agweddau ar y clefyd sy'n gysylltiedig â dementia. Rhaid i bob ymchwilydd fwriadu cyhoeddi canlyniadau eu hastudiaethau.

Dysgwch ragor:

BRACE

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £250,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Gwneud cais am brawf o gysyniad i gefnogi’r gwaith o fasnacheiddio ymchwil er mwyn galluogi cwmnïau deillio neu fentrau cymdeithasol, trwyddedu neu lwybrau masnacheiddio eraill.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £300,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae grantiau prosiect Brain Research UK yn darparu cyllid o hyd at £300,000 ar gyfer prosiectau sy’n para hyd at dair blynedd. Mae'r alwad hon yn annog ceisiadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (hyd at 10 mlynedd ôl-ddoethurol), a cheisiadau am brosiectau cydweithredol (gan gynnwys cydweithrediadau rhyngwladol, os cânt eu harwain gan dîm yn y DU).

Dysgwch ragor:

Brain Research UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £300,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Cyllid ar gyfer prosiectau ymchwil (clinigol neu anghlinigol) sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth ym meysydd cur pen a phoen wyneb, niwro-oncoleg ac anaf i'r ymennydd a madruddyn y cefn.

Dysgwch ragor:

Brain Research UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Lan i £500,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r Gymrodoriaeth hon wedi'i llunio ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â dim mwy na chwe blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol. Dylid llunio’r cwestiwn ymchwil er mwyn deall/gwneud diagnosis/trin/lleihau’r risg o glefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £300,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae Blood Cancer UK yn cynnig Grantiau Prosiect Ymchwil i ddarparu cymorth ar gyfer cynigion ymchwil wedi’u diffinio’n glir sy’n ceisio mynd i’r afael â chwestiynau allweddol ym maes canser y gwaed yn unol â’u nodau strategol. Mae eu strategaeth ymchwil 2023-2028 yn canolbwyntio ar ddwyn ymlaen y diwrnod pan nad oes neb yn marw o ganser y gwaed na’i driniaethau. Ar gyfer yr alwad flynyddol hon gwahoddir ceisiadau am brosiectau ymchwil modd ymateb agored sy'n mynd i'r afael â chwestiynau newydd a allai helpu i gyrraedd y nod hwnnw. Nid oes unrhyw themâu ymchwil â blaenoriaeth ar gyfer y rownd hon. 

Dysgwch ragor:

Blood Cancer UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £100,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae Dyfarniad Rhydychen-Harrington i Ysgolorion Clefydau Prin yn datblygu darganfyddiadau addawol o labordai academaidd i'w cyflwyno mewn ymarfer clinigol. Mae'r dyfarniad yn cyfuno cyllid a chymorth datblygu therapiwteg arbenigol i helpu ymchwilwyr yn y DU, UDA neu Ganada.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £150,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Cyllid ar gael i ymchwilwyr yn y DU a thramor ar gyfer astudiaethau peilot sy'n anelu at archwilio a datblygu cysyniadau newydd a allai arwain at welliant sylweddol mewn canlyniadau clinigol i bobl â thiwmor ar yr ymennydd.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Lan i £300,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Unwaith eto, mae Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill (DMT) wedi gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Henoed Prydain (BGS) i gyd-ariannu un Gymrodoriaeth Hyfforddiant Doethurol i gefnogi gweithwyr iechyd rheng flaen sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â heneiddio.

Dysgwch ragor:

Dunhill Medical

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Dewisol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Cyllid ar gyfer astudiaethau ymchwil sy'n dod o fewn cylch gwaith rhaglen Ymchwil Cyflawni Iechyd a Gofal Cymdeithasol National Institute for Health and Care Research ac sy'n mynd i'r afael ag argymhellion ymchwil NICE, i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Dim terfyn
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn bwriadu ariannu ymchwil i ddatgarboneiddio’r system iechyd a gofal cymdeithasol i helpu lleihau allyriadau carbon a chyflawni sero net. Bydd y cyfle hwn i gael cyllid ar draws rhaglenni yn cael ei gynnal bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £2,500,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Bwriad y Dyfarniad Rhaglen Atal ac Ymchwil i'r Boblogaeth yw cefnogi ymchwilwyr y DU sy'n ymgymryd â phrosiectau hirdymor, eang ac amlddisgyblaethol sydd â photensial trawsnewidiol mewn ataliaeth ac ymchwil poblogaeth. Y bwriad yw rhoi rhyddid i ymgeiswyr ddilyn llwybrau ymchwil newydd. 

Dysgwch ragor:

Cancer Research UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £100,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Cyllid ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol i ddatblygu syniadau a chydweithrediadau cynnar, newydd ac arloesol i hybu’r gwaith o ganfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar. Mae Dyfarniadau Primer Canfod a Diagnosis Cancer Research UK yn darparu cyllid sbarduno i ddatblygu perthnasoedd, syniadau a llinellau ymchwil newydd, a chynhyrchu data peilot. Y nod yw annog gwyddonwyr ar bob cam gyrfa i ymgysylltu â chanfod canser yn gynnar ac i ysgogi arloesedd o ran sut a phryd y caiff canser ei ganfod. Bydd y dyfarniadau'n cefnogi syniadau ymchwil newydd ac archwiliadol a/neu astudiaethau peilot o risg wyddonol a mantais bosibl fawr. Bydd yn cefnogi datblygiad partneriaethau newydd ac archwilio cysyniadau hynod newydd, gan gynnwys ymchwilwyr o unrhyw faes ymchwil, gan gynnwys o feysydd canser anhraddodiadol. 

Dysgwch ragor:

Cancer Research UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £200,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae Grantiau Prosiect DEBRA UK yn darparu cyllid dros ddwy i dair blynedd i gefnogi ymchwilwyr o’r DU ac yn rhyngwladol sy’n cynnal prosiectau o fewn cwmpas blaenoriaethau ymchwil DEBRA UK. Rhaid i brosiectau fod â nodau ac amcanion clir i hybu dealltwriaeth wyddonol o EB ac ymyriadau therapiwtig a bod yn ymarferol ac yn gyraeddadwy o fewn y cyfnod amser a nodir. Caiff ceisiadau eu barnu ar berthnasedd i EB, teilyngdod gwyddonol a newydd-deb. 

Dysgwch ragor:

DEBRA UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £200,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Grantiau i ymchwilwyr y DU ac ymchwilwyr rhyngwladol sy'n cynnal prosiectau i wella dealltwriaeth o fecanweithiau epidermolysis bullosa (EB) a datblygu therapïau sydd o fudd i bobl ag EB.

Dysgwch ragor:

DEBRA UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £165,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r grant yn targedu arloesi o ran sgrinio a gwneud diagnosis o ganser y coluddyn - sy'n cwmpasu arloesi/dulliau newydd a gwelliannau i systemau presennol - i greu newid sylweddol yn y cam lle mae diagnosis yn digwydd i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn elwa ar ddiagnosis cynnar.

Dysgwch ragor:

Bowel Cancer UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £2,500,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r cynllun yn darparu cefnogaeth hirdymor ar gyfer prosiectau eang, amlddisgyblaethol mewn ymchwil sylfaenol a throsiadol sy'n gysylltiedig â chanser gan unigolion sefydledig. Mae rhaglen ariannu ymchwil Cancer Research UK yn dyfarnu ystod eang o gymrodoriaethau a grantiau i gefnogi ymchwilwyr, ar draws pob cam gyrfa, i gynnal ymchwil clinigol, cyn-glinigol, darganfod a throsiadol i hyrwyddo canfod, diagnosis, triniaeth, a gwellhad posibl, pob math o ganser. 

Dysgwch ragor:

Cancer Research UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Dewisol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae gan yr alwad am gyllid ddiddordeb mewn cynigion sy’n ymwneud â gwerthuso therapïau sy’n ystyriol o drawma. Gall therapïau a werthusir gynnwys y rhai sydd ar waith mewn systemau gofal cymdeithasol lleol neu sy’n cael eu darparu drwy waith aml-asiantaeth. Gall therapïau gynnwys gwasanaethau’r GIG, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r rhain.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £17,000,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Yn benodol, nod y cyfle ariannu hwn yw hyfforddi criw newydd o fiolegwyr peirianneg sydd â sgiliau uwch i ddatblygu ein dealltwriaeth ac i wneud ymchwil sy'n mynd i'r afael â heriau a ysbrydolir gan ddarganfyddiadau.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £25,324
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r alwad hon yn seilwaith ymchwil ledled Ewrop mewn bioleg strwythurol a gellir cyflwyno prosiectau ym maes datblygu 'Offer Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Bioleg Strwythurol Integredig'.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Dim terfyn
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’n cylch gwaith i wella iechyd pobl. Gall hyn amrywio o astudiaethau sylfaenol sy'n berthnasol i fecanweithiau clefydau, i ymchwil glinigol drosiadol a datblygiadol, astudiaethau sylfaenol sy'n berthnasol i fecanweithiau clefydau, i ymchwil glinigol drosiadol a datblygiadol.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £2,000,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Nod pennaf y dyfarniad hwn yw cynorthwyo darlithwyr newydd mewn prifysgolion, ymchwilwyr mewn sefydliadau cyngor ymchwil (ar lefel sy'n cyfateb i ddarlithydd), a chymrodorion (ar lefel sy'n cyfateb i ddarlithydd) i sicrhau eu helfen fawr gyntaf o gyllid cefnogi ymchwil.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £100,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae grantiau ar gael i ymchwilwyr y GIG ac ymchwilwyr academaidd ar gyfer prosiectau ymchwil penodol sy'n cynnwys cymhwyso gwyddoniaeth sylfaenol a/neu glinigol i anesthesia, gofal critigol neu reoli poen.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Nid yw cyllid yn benodol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae cymrodoriaethau datblygu gyrfa ôl-ddoethurol y Sefydliad yn rhoi cyfle i glinigwyr ôl-ddoethurol eithriadol atgyfnerthu eu profiad ymchwil. Gall clinigwyr ôl-ddoethurol wneud cais am gyllid i dreulio blwyddyn yn amser llawn neu ddwy flynedd yn rhan-amser yn gweithio mewn grŵp ymchwil Crick, ar brosiect y cytunwyd arno rhwng y cymrawd ac arweinydd grŵp Crick. Nod y cynllun yw: Meithrin cysylltiadau a chydweithrediadau clinigol hirdymor.Rhoi estyniad ôl-ddoethurol o'u profiad ymchwil i glinigwyr, a chyfleoedd rhwydweithio gwyddonol, hyfforddiant a datblygu gyrfa yn y Crick.Darparu llwyfan y gall cymrodyr wneud cais ohono am gyllid allanol fel cymrodoriaethau gwyddonwyr clinigwyr, i'w cynnal yn y Crick neu yn rhywle arall. 

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £3 miliwn
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r Wobr Arloeswr Gofal Cleifion yn darparu cyllid yn benodol ar gyfer ymchwil gymhwysol sy'n canolbwyntio ar y claf sy'n uniongyrchol berthnasol i lewcemia a/neu glefydau cysylltiedig. Mae’r cyllid yn cefnogi prosiectau arloesol sy’n canolbwyntio ar y claf sy’n ceisio archwilio dulliau ymarferol newydd i wella triniaethau/ôl-driniaethau, gofal ac ansawdd bywyd unigolion sy’n byw gyda lewcemia.

Dysgwch ragor:

Leukaemia UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Dewisol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r cynllun cymrodoriaethau yn cynnig cymorth i ymchwilwyr sy'n dymuno ymgymryd ag ymchwil annibynnol a meithrin sgiliau arwain. Maent yn ategu’r broses o drosglwyddo ymchwilwyr cyfnod cynnar i arweinwyr ymchwil cwbl annibynnol.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Nid yw cyllid yn benodol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r Cyhoeddiad Cyfle Ariannu hwn yn annog ceisiadau sy'n ymchwilio i fioleg a mecanweithiau sylfaenol canser y bledren. Mae canser y bledren yn broblem iechyd sylweddol yn fyd-eang. Oherwydd y mynychder uchel a thiwmorau yn ailddigwydd yn aml, mae canser y bledren yn faich meddygol mawr iawn. Er bod cynnydd diweddar wedi'i wneud o ran proffilio moleciwlaidd canserau'r bledren ac adnabod genynnau wedi'u mwtanu, cymharol ychydig a wyddys am y mecanweithiau moleciwlaidd sy'n ysgogi cychwyn, dilyniant a malaenedd canser y bledren. Ymhellach, mae dealltwriaeth o brosesau biolegol y bledren arferol ar y lefelau moleciwlaidd, celloedd ac organau yn gyfyngedig. Bydd gwybodaeth sylfaenol am sut mae swyddogaethau moleciwlaidd a chellol y bledren yn cael eu newid mewn canser yn helpu i ddeall bioleg canser y bledren ac yn cyfrannu at ddatblygiad ymyriadau newydd yn y dyfodol. 

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £99,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae HIS yn cynnig grantiau ymchwil i gynorthwyo prosiectau ymchwil ym maes heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI) ac atal a rheoli heintiau yn y Deyrnas Unedig neu Iwerddon. Mae’r ffocws thematig ar ymchwil drosi.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: £200,000
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Nod y dyfarniad hwn yw cyflymu a sbarduno datblygiad cyffuriau newydd ar gyfer trin clefyd Parkinson. Dylai'r fenter roi cyfle i ymchwilwyr gynhyrchu data hanfodol a helpu i bontio'r bylchau angenrheidiol i sicrhau bod eu prosiectau/cwmnïau'n barod i ddechrau darganfod cyffuriau ar raddfa lawn gyda phartner yn y diwydiant.

Dysgwch ragor:

Parkinson's UK

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Nid yw cyllid yn benodol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r Cyhoeddiad Cyfle Ariannu (FOA) hwn yn cefnogi prosiectau ar wahân, wedi'u diffinio'n dda mewn unrhyw faes ymchwil canser gan ddefnyddio mecanwaith grantiau bach National Institutes of Health R03. Mae mecanwaith grantiau bach National Institutes of Health R03 yn cefnogi prosiectau ar wahân, wedi'u diffinio'n dda y gellir yn realistig eu cwblhau mewn dwy flynedd ac sydd angen lefelau cyfyngedig o gyllid. Mae enghreifftiau o’r mathau o brosiectau y mae mecanwaith grant R03 yn eu cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, fel a ganlyn: Astudiaethau peilot neu ddichonoldeb.Dadansoddiad eilaidd o ddata presennol.Prosiectau ymchwil bach, hunangynhwysol.Datblygu methodoleg ymchwil.Datblygu technoleg ymchwil newydd.

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Nid yw cyllid yn benodol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Mae'r Hysbysiad o Gyfle Ariannu hwn (NOFO) yn gwahodd ymchwil fecanistig sy'n ceisio deall sut a pham mae effeithiau disgwyliadau yn digwydd mewn cyd-destun canser, egluro eu rôl mewn rheoli symptomau canser, a nodi cleifion, symptomau, safleoedd canser a chyd-destunau lle gall effeithiau disgwyliadau gael eu trosoleddi i wella canlyniadau canser. Diffinnir disgwyliadau yn y cyd-destun hwn fel credoau am ganlyniadau yn y dyfodol, gan gynnwys ymateb rhywun i ganser neu driniaeth canser. Gall ffactorau cymdeithasol, seicolegol, amgylcheddol a systemig ysgogi disgwyliadau. Effeithiau disgwyliadau yw'r canlyniadau gwybyddol, ymddygiadol a biolegol a achosir gan ddisgwyliadau. Gall effeithiau disgwyliadau gael eu creu gan ddisgwyliadau cleifion, clinigwyr, aelodau o'r teulu, rhoddwyr gofal a/neu rwydweithiau deuol/cymdeithasol. 

Uchafswm y cyllid sydd ar gael: Nid yw cyllid yn benodol
Dyddiad cau:
Trosolwg o'r cyllid:

Trwy'r Hysbysiad o Gyfle Ariannu hwn (NOFO), mae'r Sefydliad Canser Cenedlaethol (NCI) yn gwahodd prosiectau ymchwil sy'n gweithredu treialon clinigol cyfnod cynnar (Cam 0, I a II) a gychwynnir gan ymchwilwyr sy'n canolbwyntio ar ymyriadau diagnostig a therapiwtig wedi'u targedu at ganser sy'n uniongyrchol berthnasol i genhadaeth ymchwil Is-adran Triniaeth a Diagnosis Canser yr NCI (DCTD) a Swyddfa Malaeneddau HIV ac AIDS (OHAM). Rhaid i'r prosiect arfaethedig gynnwys o leiaf un treial clinigol sy'n ymwneud â diddordebau gwyddonol un neu fwy o'r rhaglenni ymchwil canlynol: Rhaglen Werthuso Therapi Canser, Rhaglen Delweddu Canser, Rhaglen Diagnosis Canser, Rhaglen Ymchwil Ymbelydredd, Rhaglen Meddygaeth Gyflenwol ac Amgen, a/neu Raglenni Ymchwil Malaeneddau HIV ac AIDS.