Gwrandewch ar y bennod hon o bodlediad Syniadau Iach yma:

Apple Podcasts

Spotify

Google Podcasts

Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop archfarchnad wythnosol ar eich gliniadur, byddwch wedi defnyddio API (Rhyngwyneb Rhaglenni Cymhwysiad). Mae'n god sy'n caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo o un defnyddiwr i'r llall - a hebddo, byddai'r rhyngrwyd fel y gwyddom, yn ei chael hi'n anod bodoli.

Mae APIs eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG ond a ellid eu defnyddio'n fwy helaeth i helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu?

Yn y podlediad hwn bydd Dyfan Searell, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Elidir Health, sy’n creu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer y maes iechyd a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn trafod sut y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn. Meddai Elin, “ Mae gennym ni gyfle anhygoel i fod yn flaengar…. mae angen i ni beidio bod yn ofnus ond yn fwy uchelgeisiol.” 

Mae Dyfan, sydd wedi bod yn gweithio gydag arloeswyr blaengar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn datblygu system cofnodion cleifion ddi-bapur, yn credo bod angen addysgu pawb am botensial y dechnoleg hon er mwyn datrys problemau gofal iechyd. "Mae'r gwasanaeth iechyd wedi dechrau yng Nghymrua nawr mae modd i'r gwasanaeth iechyd digidol hefyd gychwyn yng Nghymru - da ni o'r maint iawn a'r gennym ni'r modd I hynny ddigwydd." Mae Elin yr un mor bositif. "Rwy'n teimlo'n gyffrous a hyderus bod gobaith mawr yma."

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

 

Healthy Thinking

Gallwch glywed tri arbennigwr sy'n cynllunio a defynddio APIau yn sgwrsio gyda Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Weithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn ein podlediad Saesneg 'Healthy Thinking' ar gael yma.