Yn ddiweddar, cynhaliodd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant weithdy undydd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12 a 13 mewn partneriaeth â Chronfa Mullany.
Mae Cronfa Mullany yn elusen symudedd cymdeithasol sy'n gweithio i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gwyddorau bywyd, ac i ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth wedi'u teilwra i'w helpu i gyflawni eu nodau.
Roedd y gweithdy'n cynnwys cyflwyniad a thaith o amgylch cyfleusterau Glannau SA1 sydd o'r radd flaenaf, gyda sesiynau bore a phrynhawn lle cafodd y disgyblion wybodaeth a phrofiad ynghylch prototeipio 3D a phrofiad defnyddwyr (UX).
Roedd y sesiwn prototeipio 3D yn helpu disgyblion i ddeall sut y gellir defnyddio dulliau sganio 3D ac argraffu 3D i ddatblygu atebion iechyd a lles pwrpasol wedi'u teilwra'n benodol i weddu i'r defnyddiwr.
Helpodd sesiwn UX y disgyblion i ddeall a mesur profiad person wrth werthuso cynhyrchion a chyfryngau, gan ddefnyddio dulliau tracio llygaid a thechnoleg adnabod mynegiant wyneb i ddeall ymatebion dynol yn well.
Daeth diwrnod y gweithdy i ben gyda sesiwn glo, lle cafodd y disgyblion gyfle i fynd yn ôl dros yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu yn ystod y dydd a myfyrio ar sut yr ysbrydolodd y profiad hwn eu gyrfa bosibl.
Meddai cyd-drefnydd y gweithdy a Chymrawd Arloesi ATiC, Yolanda Rendón-Guerrero:
“Mae ATiC yn falch o fod wedi cynnal gweithdai blaenorol y Gronfa Mullany, gan weithio gyda disgyblion i'w helpu i gael dealltwriaeth o UX a dylunio dulliau ymchwil ar gyfer arloesi ym maes gofal iechyd .
"Roedd hi’n braf gweld disgyblion yn ymwneud â'n tîm wrth iddyn nhw wneud eu dyluniadau 3D a'u gwaith argraffu 3D eu hunain, gan fynd â rhywbeth diriaethol gyda nhw allan o'r gweithdy i'w hatgoffa o'r diwrnod.”
Meddai’r cyd-drefnydd a'r Cymrawd Arloesi AtiC Tim Stokes:
“Mae bob amser yn wych gweithio gyda phobl ifanc a dangos ein hymchwil iddyn nhw a sut rydyn ni’n datrys problemau, prototeipio a phrofi cynhyrchion iechyd yma yn ATiC.
"Efallai mai nhw fydd ymchwilwyr a chlinigwyr y dyfodol, ac roedd hi’n ddiddorol trafod sut gallai meddyginiaeth edrych yn y dyfodol gyda thechnolegau cynorthwyol newydd.”
Meddai Sioned Jenkins o Gronfa Mullany:
“Rydyn ni’n falch dros ben o gael y cyfle i bartneru gyda thîm ATiC sy'n darparu'r gweithdai gwych hyn ar gyfer ein myfyrwyr e-Fentora.
"Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd ag elfennau rhyngweithiol y gweithdai hyn ac yn dysgu llawer am broffesiynau efallai nad yw llawer ohonyn nhw erioed wedi'u hystyried o'r blaen. Mae wedi bod yn agoriad llygad iddyn nhw, yn ogystal â thîm Mullany!”
Ymhlith yr adborth gan y disgyblion a fynychodd y gweithdy roedd y canlynol:
- “Roedd yn gyfle gwych i gael gwybod am ystod ehangach o ofal iechyd, a'r gwahanol ddefnyddiau o dechnoleg argraffu VR a 3D. Ni chefais gyfle erioed i fod yn gyfarwydd â'r technolegau hynny o'r blaen, ond fe wnes i fwynhau'r agweddau arnyn nhw, ac fe'm harweiniodd i feddwl yn fwy agored.
- "Fe wnes i fwynhau'r gweithdy yn fawr iawn, ac mae wedi gwneud i mi ailfeddwl am fy llwybr gyrfa. Roedd y bobl yn hyfryd, a byddwn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol. Gallwn ni weld bod gan bawb angerdd am y swydd rwy’n gobeithio ei chael hefyd am fy swydd yn y dyfodol.”
Ac un o'r pethau mwyaf pleserus am y gweithdy i un disgybl oedd:
“Cwrdd â'r tîm a dod i wybod mwy am eu cefndiroedd unigol a sut y gwnaethant gyrraedd lle maen nhw heddiw. Roedd hi’n ddiddorol iawn bod pawb yn gwneud graddau gwahanol mewn pynciau hollol wahanol, ond mae pawb yn gweithio yn yr un tîm ac yn ategu ei gilydd mewn gwirionedd. Byddwn i wrth fy modd pe bawn i’n rhan o dîm sy'n gweithio'n dda yn y dyfodol.”
Mwy o wybodaeth:
Bethan Evans
Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
E-bost: bethan.evans@pcydds.ac.uk
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.