Trydydd parti

Roedd Liz Thomas, prifathrawes wedi ymddeol o Gas-gwent yn ne Cymru, yn wynebu problemau iechyd difrifol a fyddai wedi gallu arwain at driniaeth echdoriad y coluddyn. Ar y pryd, nid oedd y driniaeth arbenigol oedd ei angen arni, sef Speedboat™ , ar gael drwy’r GIG yng Nghymru.  

A photo of Liz Thomas

Yn ffodus iawn, bu Jim ei gŵr yn gweithio i Creo Medical , ac roedd yn ymwybodol y gallai’r driniaeth Speedboat™ fod yn opsiwn, felly aeth ati i helpu Liz i gael gafael ar y driniaeth yn breifat drwy Creo Medical.  Diolch i’r ymyrraeth amserol hwn, fe gafodd Liz osgoi llawdriniaeth fawr ac fe lwyddodd i wella’n gyflym.  

Y daith at ddiagnosis

Cafodd Liz boen rhyfedd yn ei hochr ac fe aeth at arbenigwr yng Nghasnewydd yn ne Cymru yn ei gylch. Fe drefnodd yr arbenigwr iddi gael sgan domograffeg gyfrifiadurol (CT). Dangosodd y sgan bod ganddi garreg fechan yn nwythell ei bustl ac roedd arwydd o dewychu yn ei choluddyn pengaead, sef rhan cyntaf y coluddyn mawr. Roedd hyn achos pryder.  Cadarnhaodd yr ail Sgan CT bod ganddi nam ac argymhellwyd bod angen cynnal colonosgopi er mwyn gwneud biopsi.  

Fe drefnodd Liz apwyntiad preifat gyda Dr Tsiamoulos Tsiamoulos yn ysbyty Queen Elizabeth The Queen Mother (QEQM) yng Nghaint am ei bod hi a’i gŵr yn ymwybodol o’r driniaeth Speedboat™ oedd ar gael drwy Creo Medical. Er i’r meddyg ymgynghorol yng Nghasnewydd awgrymu bod angen cynnal triniaeth echdoriad y coluddyn, fe benderfynodd Liz ymddiried yn Dr Tsiamoulos, oedd o'r farn mai cynnal triniaeth anymwthiol Speedboat™ fyddai orau. 

“Cysylltodd y meddyg ymgynghorol yng Nghasnewydd â’m Meddyg Teulu yn gofyn i fy ngweld i. Eglurais i fy mod i’n ymwybodol o'r driniaeth Speedboat, ond roedd hi’n dal yn argymell y dylwn i gael triniaeth echdoriad y coluddyn. Byddai hynny yn golygu cael triniaeth fawr i gael gwared â rhan o’m coluddyn.  Roedd hi’n meddwl y byddai hynny’n ffordd well o sicrhau bod y nam wedi mynd.  Ond roeddwn i eisoes wedi siarad gyda Zach ac yn hyderus mai triniaeth anymwthiol Speedboat oedd yr opsiwn gorau i mi.  Wrth edrych yn ôl, rwyf i mor falch mai dyna oedd fy mhenderfyniad.” 

Triniaeth Speedboat Creo Medical, a’r adferiad 

Cafodd y driniaeth Speedboat™ ei threfnu ar gyfer tri mis yn ddiweddarach. Doedd gan Liz ddim symptomau, felly roedd yn lwcus iawn bod y broblem wedi’i chanfod mor gyflym, yn enwedig o ystyried yr hanes teuluol o ganser y coluddyn oedd yn ei theulu. Aeth y driniaeth yn dda, ac fe lwyddodd Dr Tsiamoulos i gael gwared â'r nam i gyd ar unwaith. Roedd adferiad Liz yn arbennig hefyd, doedd dim angen cadw at ddiet penodol ac roedd yr effaith ar ei bywyd bob dydd yn fechan iawn.  

“Fe wnes i wella’n dda iawn. Doedd dim angen i mi gadw at ddiet arbennig, oni bai am fwyta bwydydd meddal am ddiwrnod neu ddau, a doeddwn i ddim mewn poen difrifol nac yn gorfod aros am gyfnod sylweddol i wella chwaith. Ar ôl ychydig ddiwrnodau, roeddwn i’n gwarchod fy wyrion eto. Fe bobais i gacen ben-blwydd i’m ŵyr y noson ar ôl i mi ddod adref hyd yn oed! Aeth pethau yn ôl i drefn yn gyflym iawn.” 

Fe wnaeth y biopsi gadarnhau mai adonema tiwbaidd di-goes oedd y nam, sef polyp siâp tiwb fflat ac eang yn y coluddyn mawr. Nid yw’n ganser, ond fe allai ddatblygu’n ganser petai’n cael ei adael heb ei drin, a dyna pam fod meddygon fel arfer yn argymell ei dynnu. Bydd Liz yn cael colonosgopïau dilynol er mwyn sicrhau ei bod hi’n parhau’n iach.  

Cafodd Liz brofiad cadarnhaol dros ben o driniaeth Speedboat™. Fe gafodd osgoi cael llawdriniaeth fawr, ac roedd y cyfnod gwella’n fyr iawn. Cafodd ofal arbennig gan Dr Tsiamoulos a’r tîm yn yr ysbyty.  

“Roedd Dr Tsiamoulos yn ardderchog. Roeddwn i’n ymddiried yn llwyr ynddo o'r cychwyn cyntaf. Roedd yr holl dîm yn arbennig, ac ni allaf ganmol digon ar y gofal ges i.  Roedd popeth am y driniaeth yn wych - doedd dim rhaid i mi gael llawer o bwythau ac fe wnes i wella’n gyflym iawn.” 

Cliciwch yma i wylio cyfweliad Liz, ac i ddysgu rhagor am ei stori.  

Ers i Liz gael ei diagnosis a derbyn triniaeth, mae technoleg Speedboat™ wedi ei fabwysiadu yng Nghymru i drin cleifion fel Liz. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.