Hidlyddion
Tracio RFID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae EIDC wedi gweithio gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg i gynnal peilot yn profi tracio RFID. Mae tagiau goddefol wedi cael eu rhoi ar sganwyr bledren, cadeiriau olwyn a gwelyau rhent ledled yr ysbyty, ynghyd â meddalwedd i roi gwybodaeth amser go-iawn i staff ar ble mae offer.

Datblygu Hwb Peirianneg Ddigidol a Ffisegol Uwch (ADPE)

Mae argyfwng COVID-19 wedi tynnu sylw at yr angen i allu ymateb i ddau fater; ail-osod offer sydd wedi'i silffio mewn siopau, a ystyrir allan o drefn oherwydd diffyg rhannau gan gyflenwyr, a, chyfleoedd i brototeipio syniadau arloesol.

Educating RiTTA

Roedd cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn aml yn cael trafferth cael gafael ar wybodaeth ddefnyddiol o safon uchel i ategu eu dewisiadau a’u penderfyniadau am eu llesiant emosiynol, seicolegol a chorfforol.

EIDC yn Cydweithio â Patients Know Best a DrDoctor

Fel rhan o'r prosiect hwn, roedd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Patients Know Best (PKB) a Dr Doctor (DrDr) yn cydweithio i wella’r broses o gasglu a storio data PROMs.

Y Mullany Fund â ATiC

Mae ATiC, un o'r partneriaid Cyflymu, yn gweithio gyda myfyrwyr i ddysgu am ymchwil profiad defnyddwyr a'r sector gwyddorau bywyd.

Trawsnewid Gofal Cleifion trwy Gyfathrebu Ward Gweledol

Mae partneriaid Cyflymu, y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Phrifysgol Abertawe (HTC), yn cydweithredu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB) i ddatblygu system arddangos ddigidol ryngweithiol newydd i'w defnyddio ar wardiau mewn pedair o ysbytai’r bwrdd iechyd

eHealth Digital Media: Byw gyda Dementia

Helpodd tîm ATiC gyda tracio llygaid symudol mewn arbrawf gyda rhieni Kimberley, y mae’r ddau ohonynt yn byw gyda dementia. Allwn ni gefnogi oedolion yn well i fyw yn annibynnol?

Cydweithrediad rhwng Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a Concentric Health

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC), cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wedi cydweithredu gyda sefydliad newydd technoleg iechyd Cymru sef Concentric Health ar brosiect i ddatblygu ac i ddeall y potensial ar gyfer rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (APIau) yn y system gofal iechyd yng Nghymru.