Fe wnaethom ymweld â chynhadledd Rhagoriaeth Gofal Iechyd Drwy Dechnoleg (HETT) Llundain 2023 lle daeth arloeswyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a selogion ynghyd o dan yr un to.  

HETT 2023

Canolbwyntiodd cryn dipyn o’r sgyrsiau a’r pwyntiau trafod ar ddyfodol gofal iechyd, gan dynnu sylw at themâu allweddol sy’n ail-lunio’r cyd-destun gofal cleifion. Mae’r blog hwn yn edrych ar y trafodaethau diddorol a ddatblygodd yn ystod y digwyddiad deuddydd hwn.  

Datblygu apiau digidol ym maes gofal iechyd 

Fe wnaeth sgyrsiau am gleifion sydd wedi’u grymuso’n ddigidol daro tant drwy gydol y gynhadledd. Pwysleisiodd Liz Ashall-Payne, Prif Swyddog Gweithredol Orcha, arwyddocâd apiau digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.   

Archwiliodd y sgwrs yr heriau sy’n ymwneud ag ymddiriedaeth cleifion, effeithiolrwydd apiau a fforddiadwyedd, gan dynnu sylw at y cymhlethdodau yn y cyd-destun gofal iechyd digidol. Soniodd Liz fod yn rhaid i ni chwalu’r myth o ddod o hyd i’r ‘un ap iechyd gorau’. Tynnodd sylw at amrywiaeth anghenion a dewisiadau cleifion, a bod llawer o apiau iechyd ar gael. Dim ond bod angen dod o hyd i’r hyn sy’n addas i chi a’ch anghenion, ac addysgu eich cleifion am y rhai mwyaf effeithiol a dibynadwy.  

Cododd trafodaethau ynghylch ap NHS England. Yma, mae swyddogaeth gyfathrebu’r ap yn galluogi cleifion i ddewis dewisiadau gofal. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud o hyd o ran ei gyflwyno. Roedd Shanil Mantri, cyn feddyg teulu a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol a Swyddog Diogelwch Clinigol, GIG Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, yn dadlau dros strwythurau data safonol i gefnogi’r ap, gan ragweld dyfodol agos lle mae data a gynhyrchir gan gleifion yn integreiddio’n ddi-dor â chofnodion gofal iechyd. Mae profion beta cyhoeddus wedi dechrau cael eu cynnal ar ap annibynnol GIG Cymru hefyd.  

Grymuso cleifion a gofal yn nes at adref 

Rhannodd Diane Deane-Bowers, sydd hithau’n glaf, ei thaith bersonol o reoli lefelau glwcos drwy dechnoleg arloesol, gan bwysleisio’r angen i ysbytai groesawu datblygiadau fel PIFU (apwyntiadau dilynol ar gais y claf). Mae hon yn ddyfais dechnegol arloesol sy’n cael ei dal yn erbyn eich braich chwith ac yn monitro eich lefelau glwcos. 

Fe wnaeth y drafodaeth daro tant â’r gynulleidfa, gan ysgogi cwestiynau am integreiddio technoleg â systemau gofal iechyd presennol, a pham nad yw rhai ysbytai’n defnyddio’r technolegau hyn. Byddai’n well gan gleifion gael yr adnoddau i fonitro eu cyflwr eu hunain na mynd at ymarferydd bob tro, gan fynd dim ond pan fydd angen. Bydd hyn hefyd yn arbed amser i glinigwyr ar ymgynghoriadau.  

Cymerodd Careology, sefydliad gofal canser digidol arloesol, ran flaenllaw hefyd, gan ddangos sut gall technoleg gefnogi cleifion canser gartref. Trafododd Paul Landau, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Careology, y ffaith bod ap Careology mewn cyfnod profi a dysgu 12 mis yn y ganolfan ganser.  

Canolbwyntiodd y drafodaeth hon ar bwysigrwydd ymgysylltu â chleifion a dadansoddi data mewn amser real. Mae un elfen o’r ap yn cynnwys cleifion yn cofrestru eu hwyliau a’u tymheredd gartref, gan nodi unrhyw ddigwyddiadau eraill sydd wedi digwydd ers eu hapwyntiad diwethaf. Yn dilyn hynny, gall meddygon gael gafael ar yr wybodaeth hon er mwyn mynd i’r afael yn rhagweithiol ag anghenion cleifion.  

Yma, cawsom drafodaeth arall a oedd yn canolbwyntio ar dechnoleg sy’n arbed amser clinigwyr a chleifion. Cafodd y gynulleidfa ei hudo gan y posibilrwydd o ofal rhagweithiol sy’n cael ei lywio gan ddata, gan leihau amseroedd ymgynghori, a gwella’r rhyngweithio rhwng cleifion a meddygon.  

Roedd arloesi wrth ddarparu gofal iechyd hefyd yn canolbwyntio ar y gymuned, ar draws mentrau fel monitorau pwysedd gwaed gartref a llwyfannau arloesi iechyd meddwl. Trafododd Nausheen, Meddyg Teulu ac Arweinydd Digidol PCN, hunan-ofal cleifion a monitro pwysedd gwaed mewn ap lle gall meddygon teulu a chleifion dracio a chysylltu am apwyntiad lle bo angen. Mae’r datblygiadau newydd hyn yn golygu bod cleifion yn gallu hunanreoli’n well a theimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros glefydau cronig hirdymor.  

Mae cadw gofal yn nes at adref yn rhywbeth pwysig iawn i’n gwaith hefyd, fel ein gwaith yn cefnogi prosiect monitro o bell ar gyfer cleifion sydd â methiant y galon. Trafododd Sarah Kendrick, Cyfarwyddwr Clinigol yn Mental Health Innovations, bwysigrwydd hyn ar eu llwyfan arloesi iechyd meddwl, lle mae dros 2,000 o bobl yn siarad bob dydd ar eu ap testun i bobl sy’n cael trafferth ymdopi neu sy’n meddwl am hunanladdiad. Mae’n rhoi cysylltiad i’r unigolyn a chyfle iddo ymlacio. Roedd integreiddio technolegau digidol a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok yn agor llwybrau newydd ar gyfer ymgysylltu â chleifion, yn enwedig ymysg y demograffig iau.  

Roedd y sesiynau hyn nid yn unig yn tynnu sylw at y datblygiadau anhygoel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd yn tynnu sylw at ddyfodol sy’n canolbwyntio ar y claf, lle mae arloesi digidol wrth ei wraidd. Nawr, yr her yw sicrhau bod y datblygiadau hyn yn cyrraedd y rheng flaen ledled y DU.  

Chat GPT ym maes iechyd a gofal cymdeithasol 

Fe wnaeth effaith drawsnewidiol Chat GPT, y model iaith deallusrwydd artiffisial uwch, atseinio drwy gydol y gynhadledd. Gan fod bron i flwyddyn ers ei lansio, gwelwyd arloeswyr fel Ross O’Brien, Gweithgor HETT, Robin Carpenter, Arweinydd Llywodraethu’r Ganolfan LMI ac AI ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, James Teo, Athro Niwroleg a Chyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Data a Deallusrwydd Artiffisial yn Ymddiriedolaeth GIG King’s College Hospital, a Sobath Premaratne, Llawfeddyg Fasgwlaidd ac Endofasgwlaidd yn Ymddiriedolaeth GIG Barts Health, yn mynd ati i ymchwilio i’w gymwysiadau ymarferol ym maes gofal iechyd.  

Trafododd James enghreifftiau ymarferol o ymgorffori Chat GPT ym maes gofal iechyd, o rybuddio ac ymchwil arsylwadol, i ddiogelwch cleifion. Nodwyd bod Chat GPT yn adnodd gwerthfawr, gan gynnig ‘pumed farn’ wrth wneud penderfyniadau meddygol.  

Roedd y drafodaeth yn pwysleisio bod angen llythrennedd digidol mewn ysbytai ac yn tynnu sylw at yr angen am ganllawiau o’r brig i lawr, er mwyn eu hintegreiddio’n ddiogel ac yn effeithiol mewn arferion gofal iechyd. Mae technoleg fel Chat GPT yma i aros, ac mae hynny’n anochel. Felly, mae angen canllawiau nawr i fwrw ymlaen â hyn er mwyn i weithwyr rheng flaen fod mewn sefyllfa dda. Pwysleisiwyd hefyd nad yw Chat GPT yn mynd i gymryd swyddi drosodd, er y bydd yn sicr yn helpu i gefnogi llwyth gwaith a thasgau ym maes gofal iechyd. Yr unig beth sydd ei angen arnom yw ecosystem sy’n ei gefnogi’n well.  

Cododd cwestiwn allweddol o’r gynulleidfa, sef nawr bod Chat GPT ar gael i bawb, sy’n golygu y bydd cleifion yn dod yn gyfarwydd â defnyddio deallusrwydd artiffisial, sut gall meddygon ddal i fyny? Roedd yr atebion allweddol yn cydnabod bod angen i feddygon a chlinigwyr ddysgu mor gyflym â nhw, ac ymuno yn y daith. Nid yw’r ffaith bod y ddwy ochr yn ei ddefnyddio yn golygu eu bod yn ei ddefnyddio’n dda. Mae angen canllawiau ar weithwyr ym maes gofal iechyd ar sut i’w ddefnyddio’n briodol a manteisio arno’n llawn. Dylid creu llwybr ar gyfer israddedigion ac amgylchedd dysgu sy’n eu cefnogi i addasu a defnyddio deallusrwydd artiffisial, fel bod clinigwyr y dyfodol yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso gan y technolegau hyn. Tynnodd HETT 2023 sylw at effaith technoleg gofal iechyd ac arloesi digidol. Dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol blaengar a thechnoleg arloesol sy’n dangos y cynnydd aruthrol a wnaed yn y sector gofal iechyd. Mae’n amlwg bod gan y cydweithio rhwng gofal iechyd a thechnoleg botensial unigryw.  

Newidiadau trawsnewidiol o ran darparu gofal iechyd, gyda phwyslais enfawr ar ddulliau sy’n canolbwyntio ar y claf a’r angen am ecosystem gofal iechyd fwy cynhwysol. Edrychwn ymlaen at weld effaith y syniadau a gyfnewidiwyd, a’r partneriaethau a ddatblygwyd, wrth iddynt barhau i lunio dyfodol gofal iechyd, gydag arloesi digidol ar flaen y gad.   

Os na wnaethoch chi gwrdd â ni yn HETT 2023 a hoffech ddysgu mwy am sut gallwn eich cefnogi chi i sbarduno arloesedd ar reng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, anfonwch e-bost at hello@lshubwales.com.