Miles Burrows, Rheolwr Gyfarwyddwr PerkinElmer yn y DU ac Iwerddon, yn ystyried sut mae’r rheini sy’n gweithio ar draws diwydiant yn gallu helpu i drawsnewid ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ar gyfer y rheini sydd yn y diwydiant gwyddorau bywyd, mae cyfoeth o gyfleoedd i gyflwyno arloesi mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r sgiliau, arbenigedd ac adnoddau sydd gan ddiwydiant yn gallu helpu i hyrwyddo gwell canlyniadau mewn gofal iechyd a lles.
Mae gennym brofiad mawr o hyn yn PerkinElmer. Rydym wedi ymrwymo i helpu i greu byd iachach drwy ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau diagnostig ar gyfer awdurdodau iechyd lleol a’r GIG. Mae arloesi o’r fath yn gallu darparu atebion i gleifion a chlinigwyr mewn ffyrdd sy’n gyflymach, yn gywirach ac yn fwy effeithlon.
Er hynny, araf a cheidwadol fu’r camau i fabwysiadu dulliau arloesol yn y DU yn hanesyddol. Er i ni ddatblygu technolegau arloesol mewn meysydd fel diagnosteg drwy gydweithio ag academwyr yn y DU, fe welsom y dulliau arloesol hynny’n cael eu mabwysiadu’n gyflymach mewn gwledydd eraill. Nid yw cyflymder yr arloesi drwy ymchwil yn y DU yn cael ei adlewyrchu yn y parodrwydd i’w fabwysiadu mewn lleoliadau clinigol. Mae diwydiant yn gorfod gweithio’n galed i gael y maen i’r wal. Mae angen model integredig, cyflymach i hwyluso hyn, a mwy o gydgysylltu rhwng rhanddeiliaid, a gwell dealltwriaeth o’r cymhlethdodau a’r rhwydweithiau o fewn systemau gofal iechyd.
Felly roedd yr adolygiad gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ‘Sicrhau Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ yn taro tant â’n persbectif sefydliadol ar arloesi. Mae’r pynciau a drafodir yn cyfateb i’r hyn a welwn yn y maes a hyd yn oed yn adlewyrchu ein dull o strwythuro i sicrhau’r ystwythder ac arloesedd mwyaf. Mae’n hollbwysig sicrhau bod y rheini sy’n gweithio mewn diwydiant yn llwyr ddeall y ffactorau hyn a bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen i ddelio â nhw.
Meithrin diwylliant arloesi
Rhaid cynnwys arloesi ym mhob agwedd ar waith y sefydliad er mwyn iddo lwyddo. Fodd bynnag, er mwyn meithrin diwylliant arloesi, rhaid i arweinwyr y sefydliad ddangos eu bod yn rhan o’r broses hon.
Mae atebolrwydd o’r brig i lawr yn bwysig. Wrth fabwysiadu arloesedd yn gynnar, wynebir risg o fethu ac mae angen i staff uwch ddangos eu bod yn barod i fentro er mwyn sicrhau newid. Mae cefnogaeth ragweithiol gan reolwyr a diogelwch seicolegol yn mynd law yn llaw, gan fod cefnogaeth gan arweinwyr uwch yn ychwanegu at ddilysrwydd y prosiect. Yn ogystal â hyn, mae arloesi yn aml yn gorfod trechu rhagfarn gynhenid yn erbyn newid a datblygiadau newydd. Mae’n bwysig bod arweinwyr yn hyrwyddo hyn, gan herio amharodrwydd i fentro o fewn y sefydliad.
Gwelir pa mor bwysig yw’r diwylliant sefydliadol wrth arloesi yn y llwyddiant a gafodd Genomics England â’i brosiect ‘100,000 Genomes’ a’r map trywydd genomeg a’i dilynodd. Maen nhw wedi llwyddo i symud yn gyflym iawn.
Cafwyd nawdd lefel uchel ar gyfer y prosiect a tharged pendant; roedd hynny’n elfen bwysig wrth sicrhau’r llwyddiannau hyn. Roedd Genomics England wedi pennu nod ac wedi cymryd camau i’w gyrraedd. Roedd y prosiectau arloesi llwyddiannus wedi creu momentwm, gan ddod â budd sylweddol i’r DU o safbwynt allanol a dangos ei bod yn cynnig un o’r amgylcheddau mwyaf blaengar ar gyfer meddyginiaethau genomeg. Mae hyn yn denu buddsoddi, fel bod y broses yn dod yn un gylchol.
Deall rhwydweithiau
Mae creu mecanweithiau clir yn bwysig hefyd wrth ymwneud â rhanddeiliaid allanol. Wrth edrych ar y broses arloesi o’r cysyniad cyntaf hyd at y cynnyrch terfynol, byddwch yn mynd drwy rwydweithiau sy’n fwyfwy cymhleth – boed y rheini’n gyrff fel byrddau iechyd, timau caffael neu awdurdodau lleol. Mae angen dod i gonsensws wrth ddangos bod dull arloesol yn gosteffeithiol a’i fod yn darparu llwybr gofal. Gall hyn fod yn anodd os yw rhanddeiliaid yn gweithredu ar wahân i’w gilydd neu os nad yw eu buddiannau’n gytûn – gall hyn arafu arloesi.
Gellir cael diffyg cyswllt rhwng ymchwilwyr academaidd a chlinigwyr. Mae modd delio â hyn drwy ddod â nhw ynghyd mewn un fforwm ar ffurf timau arloesi a thimau ariannol mewn gweithdai i lunio nodau cytûn. Drwy ddod â’r timau clinigol, technoleg a rheoli gwybodaeth at ei gilydd mewn un ystafell, gellir meithrin cydweithio a dysgu, hybu cyfranogiad a chyfyngu ar weithio ar wahân gan gysoni blaenoriaethau a nodau.
Mae mecanweithiau o’r fath, lle mae’r holl bartïon yn cael eu cymell i gymryd rhan, yn hollbwysig. Dangoswyd hyn yn yr ymateb ystwyth i’r pandemig COVID-19 gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a diwydiant. Roedd PerkinElmer yn falch iawn o helpu’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i roi Labordai Goleudy ar waith er mwyn creu gallu ychwanegol ar gyfer profion. Roedd ein sefydliad wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru hefyd drwy ddarparu pecynnau profi COVID-19 a chyfarpar labordy feiroleg er mwyn gallu datblygu cyfleusterau profi i’w gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd hwn yn fodel effeithiol lle’r oedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi gweithredu fel pwynt cyswllt canolog rhwng diwydiant a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru er mwyn darparu prosiectau a gwasanaethau ar frys. Mae’n bwysig, wrth anfon rhywun ar neges o’r fath, fod rhywun yn y pen arall sy’n gwybod am adnoddau ac yn rhannu’r un nodau. Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi darparu cyswllt o’r fath yn yr argyfwng hwn.
Wrth weithio ar draws diwydiant i ychwanegu gwerth at ofal iechyd, mae angen deall beth yn union yw arloesi yn y cyd-destun hwn, a beth yw’r arferion gorau, y peryglon cyffredin a’r heriau a wynebir. Mae’r adroddiad ‘Sicrhau Arloesi’ yn gosod y seiliau ar gyfer mecanwaith ymgysylltu rhwng sectorau drwy ddarparu’r wybodaeth hon fel adnodd hygyrch.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn datblygu adnoddau ar-lein i helpu diwydiant i ymwneud â’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol - gallwch gael rhagor o wybodaeth yn yr Adnodd Cyflawni Arloesi.