Mae ein gwasanaethau gofal cymdeithasol a iechyd yn wynebu amseroedd digynsail. Mae coronafeirws wedi effeithio ar bron pob agwedd o ein bywydau - gan effeithio ar ein hiechyd a'n lles, ein heconomi, a'r normau cymdeithasol yr ydym yn eu gwerthfawrogi.

NHS worker in PPE

I'n gwasanaeth gofal iechyd, mae clefyd Covid-19 yn cyflwyno'r her iechyd fwyaf taer a mwyaf difrifol a wynebir ers cenedlaethau. Mae angen arloesi ar frys a sicrhau cadwyni cyflenwi mwy estynedig i gefnogi ymdrechion arwrol gweithwyr gofal iechyd i ymladd y pandemig ac achub bywydau.

Yn fwy nag erioed, mae angen ein cyd-gymorth ar ein GIG a'n gwasanaethau gofal. Mae cydweithio â diwydiant yn allweddol i gyflymu'r broses o ddatblygu cynhyrchion ac argaeledd cynhyrchion mewn galw, a hynny'n gyflym ac mewn niferoedd uchel.

Sut gall diwydiant helpu?

Ledled y wlad rydym yn gweld busnesau o amrywiaeth o sectorau yn addasu ac arloesi i helpu yn y frwydr yn erbyn Covid-19, gan gynnwys sefydliadau'n newid eu llinellau cynhyrchu ac yn cynnig offer a chymorth sydd eu hangen ar frys.

Mae'n wych gweld cymaint o fusnesau yn awyddus i gymryd rhan a rhoi eu cymorth. Er mwyn sicrhau'r newid cyflymaf a mwyaf effeithiol o ran cynhyrchion a gwasanaethau, mae'n bwysig bod pawb sy'n gysylltiedig yn deall y systemau, y pwysau a'r cyfyngiadau sydd ar waith pan ddaw'n fater o ddod â mentrau newydd i reng flaen y GIG yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. Yn yr un modd, rhaid inni i gyd sylweddoli na fydd modd symud ymlaen â phob cynnig cymorth.

Deall y broses gaffael

Gyda llawer o gwmnïau'n barod i fynd gyda chynigion cymorth, mae'n iawn holi'n gyson pam nad yw cynigion cynnyrch neu wasanaethau'n cael eu gweithredu'n syth. I fusnesau sydd wedi arfer â bod yn ystwyth ac ymatebol, rydym yn cydnabod y gall hyn beri rhwystredigaeth.

Wrth gwrs, mae cael cynhyrchion ac atebion newydd i'r rheng flaen yn gyflym yn flaenoriaeth i bawb ar hyn o bryd ac mae timau ar draws y Llywodraeth a'r GIG yn gweithio'n ddiflino i gyflawni her na welwyd ei thebyg o'r blaen. Mae ein cydweithwyr ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cydlynu caffael cenedlaethol ac yn addasu prosesau'n gyflym i sicrhau bod cynigion gwasanaeth perthnasol yn cyrraedd y mannau lle mae angen iddynt fod mor gyflym â phosibl.

Er bod graddfa a chyflymder yn allweddol, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn parhau i sicrhau ansawdd er mwyn diogelu diogelwch gweithwyr rheng flaen a chleifion. Mae hyn yn gofyn am wiriadau trwyadl a chadarn i sicrhau y caiff manylebau cynnyrch cywir eu bodloni a bod cyflenwadau yn ddiogel ac wedi'u hardystio i'w defnyddio.

Caiff cynhyrchion sy'n cael eu profi, megis peiriannau anadlu, masgiau llawfeddygol a diheintwyr dwylo, eu hadolygu gan y labordy profi deunyddiau llawfeddygol (STML) – rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - er mwyn galluogi gwasanaethau caffael i brynu ar sail tystiolaeth. Mae'r broses hon yn awr yn cael ei chynnal mewn 24 i 48 awr.

Rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Penodwyd Hwb Gwyddorau bywyd Cymru gan Lywodraeth Cymru fel y prif gyswllt rhwng diwydiant a GIG Cymru yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. Rhan allweddol o'n rôl yw gweithredu fel pwynt cyswllt canolog cychwynnol ar gyfer cynigion cymorth, gan wneud gwaith diwydrwydd dyladwy ar gynigion cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r GIG.

Mae hyn yn adeiladu ar ein gwaith i ddod a diwydiant, y byd academaidd a gofal iechyd yng nghyd i nodi'r heriau a wynebir gan ein gwasanaethau gofal iechyd a datblygu atebion i fynd i'r afael â hwy a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl ledled y wlad. Mae ein rôl unigryw a'n cysylltiadau â diwydiant a'r rheng flaen yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at yr ymdrechion i drechu Covid-19.

Cael datrysiadau i'r rheng flaen

Ers ein galwad wreiddiol i ddiwydiant fis diwethaf, mae mewnlifiad syfrdanol o gynigion o gymorth gan fusnesau, wedi'u derbyn a'u prosesu, yn cwmpasu amrywiaeth enfawr o sectorau o ofal iechyd a gweithgynhyrchu, i TG a bwyd a diod.

Fel enghraifft, edrychwn ar gynhyrchion diheintio dwylo. Rydym wedi gweithio'n agos gyda chyflenwyr o Gymru i'w galluogi i gynyddu eu cynhyrchiant. Mae distyllwyr Cymru hefyd wedi newid eu cynnyrch yn arloesol ac yn gyflym i greu diheintydd dwylo ac rydym wedi gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y deunyddiau a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu a dosbarthu'r cynhyrchion hyn yn ddiogel. Mae ein rôl prosesu cynigion gan ddiwydiant i Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG hefyd wedi ein galluogi i gyflymu'r cynhyrchion hyn er mwyn eu cael lle mae eu hangen ar frys.  

Y broses asesu – nid yw pob cynnig yn addas

Gyda phob cynnig a dderbyniwn, mae angen gwneud nifer o ystyriaethau cyn y gellir eu hatgyfeirio, gan gynnwys a oes gan y busnes dan sylw yr arbenigedd neu'r gallu angenrheidiol i gyflawni ar raddfa. Y gwir amdani yw, cymaint ag y byddai rhai unigolion yn hoffi helpu, na fydd pob syniad neu linell gynhyrchu yn addas i symud ymlaen. Rydym wedi llunio canllaw defnyddiol o gwestiynau cyffredin am y broses ar gyfer unrhyw fusnesau sydd gan ddiddordeb i gefnogi’r ymdrechion yn erbyn Covid-19.

Os ydych chi'n fusnes sy'n gallu helpu i gefnogi GIG Cymru drwy'r pandemig Covid-19 a gyda cynnig o gymorth i gyflwyno, gwnewch hynny drwy ymweld â'n tudalen Galwad i ddiwydiant Covid-19.