Rhwng 1 a 12 Rhagfyr, rhannwyd deuddeg uchafbwynt o 2020 ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. 

I'r rheini ohonoch a'i collodd, rydym wedi eu crynhoi yma! 

 

Life Sciences Hub Wales logo

1 Fideo ymateb y diwydiant

Ar ddiwrnod cyntaf Hosan Hwb, rhannwyd gyda chi... ein fideo ymateb y diwydiant 2020!

Mae busnesau Cymru yn bendant ar restr dda Siôn Corn yn dilyn eu gwaith i gefnogi'r GIG a Gofal Cymdeithasol yn ystod Covid-19.

2 Sut i ledaenu

Ar ail ddiwrnod Hosan Hwb fe rannom gyda chi... pennod Syniadau Iach ysgogol!



Os ydych chi am fynd â'ch syniad neu arloesedd i'r lefel nesaf, gwrandewch ar y podlediad llawn o 'Sut i Ledaenu a Graddfa' heddiw. 

3 Sut gall Dysgu Peirianyddol roi rhyddid i chi

Mae hi'n dechrau edrych yn debyg iawn i'r Nadolig, mae blogiau ym mhobman... Darllenwch ein blog ar 'Sut gall Dysgu Peirianyddol roi rhyddid i chi' heddiw.

4 Adroddiad effaith Covid-19

Dyma adeg fwyaf bendigedig y flwyddyn!

Dysgwch fwy am ein gwaith drwy gydol pandemig Covid-19 ac edrychwch ar ein blog adroddiad effaith.

5 Sut y gall Cymru ddiogelu ei system gofal iechyd yn y dyfodol?

Ar bumed diwrnod Hosan Hwb fe rannom gyda chi... Ein blaenoriaethau ar gyfer 2021/22. Dysgwch fwy am ein pum maes effaith yn y blog hwn gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn.

6 Podlediad Arloesi

Y ffordd orau o rannu hwyl yr wyl yw i wrando ar bodlediad Syniadau Iach ddigon uchel i bawb ei glywed...

Hoffwn rannu podlediad am Cymru'n Cipio’r cyfle i arloesi mewn byd iechyd a gofal gyda chi fel rhan o Hosan Hwb.  

7 Cyfarfod EIDC

Y cyfan rydyn ni eisiau ar gyfer y Nadolig yw chi... i gael gwybod mwy am raglen EIDC! Cwrdd â'r tîm a darganfod mwy am eu gwaith.

8 Llyfryn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ar yr wythfed diwrnod o Hosan Hwb hoffwn rannu gyda chi....  Llyfryn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru! 

Darllenwch am ein hardaloedd effaith a chyfraniad byd-eang Cymru i'r sector gwyddorau bywyd  

9 Yr arfer o arloesi

Rydym yn ol gyda mwy o ddanteithion nadoligaidd... Cymrwch gip ar flog  Dr Alan Willson am 'Yr arfer o arloesi' fel rhan o Hosan Hwb a aarganfyddwch sut i weithredu dull arloesi yn gyson yma. 

10 Fideo egluro Cyflymu

Pwy sy'n dwad dros y bryn yn gyflym, gyflym iawn... 

Edrychwch ar fideo egluro Cyflymu Cymru a chael gwybod popeth am bartneriaeth Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru heddiw.

11 Pum Cyfarwyddwr Anweithredol newydd

Ar yr unarddegfed diwrnod o Hosan Hwb hoffwn rannu gyda chi... Pump Aelod Bwrdd newydd!  

Mae hi'n wych cael Len Richards, Victoria Bates, Peter Max, Erica Cassin ac Yr Athro Hamish Laing gyda ni. Dewch o hyd i fwy am eu apwyntiad.  

12 Nadolig Llawen gan bawb yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ar ddiwrnod olaf ein Hosan Hwb hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i chi gyd!