Dr John Boulton, Cyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG a Gwelliant Cymru, yn ystyried pwysigrwydd diwylliant sefydliadol a sut i integreiddio gwelliant ac arloesedd. 

Gap

Wrth geisio gwella canlyniadau o ran iechyd, gofal a lles, mae arloesedd a gwelliant yn chwarae rhan hollbwysig. Yn aml, mae’r meysydd gwaith hyn yn cael eu gweld yn feysydd ar wahân gan y rheini sy’n gweithio ynddynt, ond maent yn ddwy ochr i’r un geiniog mewn gwirionedd.  

Mae nifer mawr o ddiffiniadau o wella ac arloesi. Mae adran benodol yn yr adroddiad Sicrhau Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n pennu diffiniadau cyson o dermau o’r fath. A’i roi’n syml, mae gwella bob amser yn cael ei ystyried yn newid sy’n digwydd yn raddol ac ar raddfa fach, ac arloesi yn cael ei weld yn ymwneud yn fwy â newidiadau mawr ar lefel systemau mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’r ddau yn rhan o’r un nod cyffredinol o sicrhau gwell gwerth ac effeithlonrwydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. 

Pontio rhwng arloesi a gwella 

Rwy’n credu, felly, fod gennym gyfle go iawn i gysylltu’r ddau a chreu dull mwy integredig o drafod arloesi a gwella. Gwelwyd hyn yn ddiweddar mewn gwaith i gynnal ymgyngoriadau fideo â chleifion mewn ymateb i’r pandemig COVID-19. Mae offer digidol o’r fath yn wych o ran arloesi ond, drwy eu seilio ar raglen gwella effeithiol gallwn gynllunio system effeithiol a dibynadwy i sicrhau’r canlyniadau gorau.  

Mae hyn yn gweithio’r ffordd arall hefyd. Un enghraifft nodweddiadol yw rhaglenni gwella mewn ysbytai i wella gofal cleifion. Gellir trawsnewid y rhaglenni hyn er gwell drwy gymhwyso syniadau arloesol, boed y rheini ar ffurf technoleg neu arferion. 

Mae hefyd yn bwysig ystyried arloesi a gwella wrth werthuso a mesur llwyddiant. Yn ystod y pandemig COVID-19, cyflwynwyd amrywiaeth fawr o arferion a gwasanaethau newydd yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, er ei bod yn glir bod llawer o newid wedi’i weld, a allwn ni ddweud bod gwelliant wedi digwydd? Nid yw hyn wedi’i gofnodi na’i fesur eto. Bydd yn bwysig edrych yn ôl ac ystyried a oedd gwaith o’r fath yn welliant a sut roedd hynny wedi dylanwadu ar arloesedd, ac fel arall. 

Diwylliant arloesi a gwella 

Mae’n hollbwysig bod arloesi a gwella yn cael eu hintegreiddio’n effeithiol, ond rhaid sicrhau hefyd fod y sefydliadau eu hunain yn rhai ystwyth. Gallwch hyfforddi miloedd o unigolion mewn arferion gwella er mwyn iddynt allu gweld a gwneud pethau’n wahanol. Fodd bynnag, os bydd y bobl hyn yn mynd yn ôl wedyn i sefydliadau sy’n amharod i fentro, yn hierarchaidd ac yn araf wrth wneud penderfyniadau, gall hynny rwystro gwelliant. 

Gall fod yn anoddach byth i gyflwyno arloesedd. Gall sefydliadau biwrocrataidd sydd â phrosesau penderfynu araf fod yn rhwystr mawr i drawsnewid ar raddfa fawr. Gofynnir am gymeradwyo cynigion gan y weithrediaeth pan nad oes angen cael awdurdodiad ar lefel mor uchel mewn gwirionedd. Mae hyn yn llyncu amser y rheini sy’n eistedd ar bwyllgorau yn ogystal â’r rheini sy’n paratoi’r papurau i’w cymeradwyo ganddynt.  

Mae hyfforddiant mewn arloesedd yn gyfyngedig hefyd ar hyn o bryd – mae darparu gwybodaeth i droi syniad yn brototeip yn sgil naturiol sydd gan rai pobl, ond gallai llawer mwy ei ddysgu drwy hyfforddi. Byddai hyfforddiant hefyd yn gallu helpu pobl i baratoi a deall y rhwystredigaeth a brofir os na fydd cynigion arloesol yn cyrraedd y gynulleidfa arfaethedig. Hyd yn oed mewn amgylchedd delfrydol ar gyfer arloesi, ni fydd pob prototeip yn llwyddo. Bydd llawer o bobl yn rhoi cynnig ar bethau unwaith ac yn llosgi eu bysedd fel y byddant yn amharod i roi ail gynnig arni. 

Dylid darparu hyfforddiant a chymorth sy’n cwmpasu mwy na dysgu am ffyrdd i ddatblygu cysyniad cychwynnol. Mae’n hollbwysig dysgu sut i gyfleu gwybodaeth am eich syniad neu gynnyrch drwy ddod i gysylltiad â’r rhwydweithiau priodol. Ceir y syniad yn aml ar hyn o bryd fod angen i’r arloeswr fod yn llwyr gyfrifol am ddatblygu’r cysyniad o fod yn brototeip cyfyngedig hyd at ei gyflwyno ar lefel ryngwladol. 

Lledaenu 

Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig cydnabod bod rhai prosesau arloesi neu wella sydd heb fod yn addas i’w lledaenu ar lefel ryngwladol. Trafodir y pwnc allweddol hwn yn yr adroddiad ar Sicrhau Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n cymharu ymchwil sy’n dangos na fydd syniad sy’n gweithio mewn un lle yn sicr o ddod â manteision ym mhob man. Gall arloesi a gwella fod yn fwy effeithiol drwy eu trosi mewn ffordd hyblyg, yn enwedig wrth geisio eu cynnwys mewn sefydliadau cymhleth. 

Mae’n bosibl y bydd gwahanol boblogaethau o gleifion yn galw am ffyrdd gwahanol o weithio. Yn fy mhrofiad fy hun fel rhewmatolegydd, pan ofynnid i mi ledaenu arferion da, roedd yn bwysig cofio y gallai fy nghydweithwyr fod yn dilyn arferion a oedd gystal bob tamaid â’m rhai i, ond gyda chlaf a oedd ag anghenion gwahanol i’m cleifion i. 

Pa un a ydych yn ystyried arloesi neu wella, neu’n ystyried integreiddio’r ddau arfer hyn, dylid gwneud hynny o dan arweinyddiaeth sy’n meithrin diwylliant sefydliadol priodol ac yn hwyluso ffyrdd addas i’w ledaenu. Drwy feithrin y diwylliant hwn o’r brig i lawr, byddwn yn gallu sicrhau trawsnewid sy’n cynnal ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol ac sydd, yn bwysicaf oll, yn diwallu anghenion ein cleifion. 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn datblygu adnoddau ar-lein i’n helpu i sicrhau arloesi ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar yr Adnodd Cyflawni Arloesi.