Yr wythnos diwethaf teithiodd ein tîm i Lerpwl, gan chwifio’r faner dros Gymru yn nigwyddiad ConfedExpo y GIG eleni. Yma, roedd yn bleser gennyf roi sgwrs yn Stondin Arloesi AHSN, gan gyflwyno persbectif Cymreig ar arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Cari-Anne Quinn

Tra roedden ni yno, cawsom hefyd glywed gan arweinwyr sy’n gweithio ar flaen y gad ym maes gofal iechyd a deall mwy am eu blaenoriaethau a’u heriau. Hefyd, cawsom gyfle wyneb yn wyneb i feithrin cysylltiadau newydd a chryfhau hen rai. Roedd yr amrywiaeth o weithdai, cyflwyniadau a chyfleoedd rhwydweithio yn dangos y datblygiadau arloesol amrywiol sy’n cael eu datblygu, eu treialu a’u mabwysiadu ar hyn o bryd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 



Yn sicr, cawsom syniadau a negeseuon allweddol yn y digwyddiad, a fydd yn ein helpu i lunio ein strategaethau ar gyfer ymgysylltu â’r diwydiant a chefnogi systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Pwysigrwydd profiad cleifion

Mae ein sefydliad wedi canolbwyntio ers tro byd ar roi canlyniadau a phrofiadau cleifion ar flaen y gad wrth arloesi ym maes gofal iechyd. Mae llawer o’n prosiectau a’n strategaeth trawsnewid ehangach yn canolbwyntio ar Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth – rhywbeth sydd wedi cael ei flaenoriaethu yng Nghymru drwy gydweithio rhwng sefydliadau fel Pfizer a Phrifysgol Abertawe. 

Roedd yn wych gweld yr angen hwn i ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion yn cael ei amlygu mewn sgyrsiau a thrafodaethau drwy gydol y gynhadledd. Mae creu system gofal iechyd sy’n adlewyrchu hyn nid yn unig yn gwella profiad cleifion ond hefyd gall helpu darparwyr i ddarparu gwasanaethau’n fwy cost-effeithiol a chynaliadwy. Yn wir, trafododd Prif Swyddog Gweithredol y GIG, Amanda Pritchard, bwysigrwydd gofyn “beth sy’n bwysig i chi, yn hytrach na beth sy’n bod arnoch chi.”

Mae angen i ni greu system fwy cynaliadwy

Roedd pwysigrwydd creu system gofal iechyd fwy gwyrdd yn codi mewn llawer o sgyrsiau a chyflwyniadau. Fel y pumed cyfrannwr mwyaf at newid yn yr hinsawdd, mae gan y sector gofal iechyd byd-eang rôl i’w chwarae o ran lleihau ei effaith, yn sicr.

Tynnwyd sylw at hyn ar draws yr agenda gyda thrafodaethau fel sesiwn “Cynaliadwyedd mewn iechyd a gofal” Rhwydwaith AHSN. Roedd hwn yn edrych ar sut gallwn roi prosiectau gwyrdd ar waith a chael gofal iechyd i leihau ei ôl troed carbon go iawn, gan ganolbwyntio ar themâu fel pŵer ymgysylltu â staff, defnyddio dulliau rheoli data trylwyr i adrodd a gwneud cynaliadwyedd yn brif fetrig ym maes caffael.

Harneisio pŵer technoleg ddigidol

Mae arloesedd digidol yn un ffordd o leihau ein hôl troed carbon. Mae’r ymateb cychwynnol a hirdymor i Covid-19 wedi helpu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau o bell ac i osgoi cleifion a staff yn teithio. 

Tynnodd y gynhadledd sylw at hyn, a ffyrdd eraill y gall arloesedd digidol gefnogi trawsnewid ar draws y system. Clywsom sut mae’r dangosfwrdd Population and Person Insight (PaPI) yn defnyddio prosesau dadansoddi arloesol ar gyfer data segmentu poblogaeth i helpu i ddatblygu dull gofal iechyd ataliol drwy ddatblygu modelau gofal newydd, deall cyd-afiachedd yn well a chefnogi pwysau adnoddau drwy ragweld a chynllunio. 

Enghraifft arall oedd y cydweithio rhwng Novartis, Cievert ac ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr sy’n defnyddio system rheoli cleifion i fynd i’r afael â materion sydd wedi cronni drwy asesu a blaenoriaethu’n gyflym. Yma, roeddem yn ddigon ffodus i glywed gan glaf offthalmoleg am yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar ei fywyd, gan ei fod wedi gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch ei ddewisiadau gofal ei hun.

Mae pobl eisiau arloesi yng Nghymru

Roeddem wrth ein bodd yn cael gwahoddiad gan Rwydwaith AHSN i arddangos yn eu Parth Arloesi a rhoi sgwrs am y cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae llu o resymau pam mae arloesi yng Nghymru’n ddymunol: ein system gofal iechyd gydgysylltiedig, cryfder ein hymchwil ym maes gwyddorau bywyd a maint y boblogaeth i enwi dim ond rhai.

Roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno ein sgwrs i ystafell lawn o gynadleddwyr a oedd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cryfderau a’r cyfleoedd hyn. Roedd y cyflwyniad hwn a’r rhwydweithio a wnaeth ein tîm yn y digwyddiad yn dangos yn union faint o bobl sydd â diddordeb mewn cyflwyno eu syniadau arloesol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru. Edrychwn ymlaen at fynd ar drywydd y sgyrsiau hyn a’u cefnogi ar eu taith i arloesi yng Nghymru.

Gwneud pethau’n wahanol

Drwy gydol y gynhadledd, doedd neb yn osgoi sôn am yr heriau y mae ein systemau gofal iechyd yn eu hwynebu. Tynnodd Matthew Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Cydffederasiwn y GIG, sylw at hyn yn ei araith agoriadol. Siaradodd am bwysigrwydd parhau i gydnabod yn gyhoeddus a derbyn bod pwysau o’r fath yn bodoli.

Bu Matthew Taylor ac Amanda Pritchard yn trafod pwysigrwydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’r cyswllt cynhenid rhwng iechyd a chyfoeth – gan ddangos pam mae trawsnewid y system gyfan ac integreiddio gwasanaethau, systemau a pholisïau sy’n mynd y tu hwnt i iechyd mor bwysig.

Tynnwyd sylw drwy gydol y gynhadledd at bŵer arloesi pan gaiff ei fabwysiadu ar lefel y system gyfan fel ffordd o annog trawsnewid ar raddfa fawr. Roedd yn galonogol ac yn ysbrydoledig clywed am yr holl atebion gwych sy’n cael eu cyflwyno i’n helpu i gyflawni hyn.

Mae ein sefydliad ein hunain wrth law i helpu systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i gyflawni’r weledigaeth feiddgar hon. Gallwn hefyd gefnogi’r diwydiant i ddatblygu a mabwysiadu eu prosiectau arloesi yn ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os na wnaethoch chi gwrdd â ni yn nigwyddiad ConfedExpo y GIG ac yr hoffech ddysgu mwy am sut gallwn ni eich cefnogi chi, anfonwch e-bost at hello@lshubwales.com