Mae Llywodraeth Cymru, Pfizer, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi llofnodi siarter arloesol sy’n adlewyrchu’r gred gytûn y dylai Cymru fabwysiadu a darparu Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth.

Value Based Health Care

Fel yr Aelodau Sefydlu, mae pob parti wedi cadarnhau gweledigaeth y siarter o ymgorffori’r dull gweddnewidiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob system berthnasol.

Mae’r siarter yn adlewyrchu bwriad cytûn y partïon:

  • i ddatblygu modelau gofal iechyd oedd yn seiliedig ar lefel gweithgarwch yn draddodiadol yn ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cydnabod y gwerth llawn mae gofal iechyd yn ei gynnig i gleifion, cymdeithas a diwydiant cynaliadwy; ac

     
  • i wella canlyniadau iechyd ar gyfer pobl Cymru ac i wneud GIG Cymru yn llwyfan byd-eang ar gyfer gwyddorau iechyd, arloesedd technoleg, ac iechyd a gofal digidol.

Mae canfod modelau newydd ar gyfer iechyd y boblogaeth yn hanfodol ar gyfer diogelu dyfodol iechyd, gofal a lles. Mae Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth yn prysur ddatblygu fel ffordd o ddiwallu’r anghenion esblygol hynny gan lywodraethau a sefydliadau’n fyd-eang.

Mae Cymru eisoes ar flaen y gad o ran y datblygiad byd-eang yma, ac mae’r pedwar llofnodwr wedi buddsoddi adnoddau helaeth er mwyn helpu i roi Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth ar waith yn genedlaethol – sy’n cyd-fynd ag ymrwymiadau presennol Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Bydd y weledigaeth sydd wedi’i chynnwys yn y siarter nodedig yma’n helpu i wreiddio safle Cymru fel arweinydd byd-eang ar Ofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i iechyd, lles a’r economi.

Mae cael dull integredig sy’n cynnwys rhanddeiliaid o faes iechyd a gofal cymdeithasol, y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd yn hanfodol i wireddu nodau Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth. Mae’r siarter yn dod â grŵp o sefydliadau amlddisgyblaethol blaenllaw at ei gilydd fel Aelodau Sefydlu sy’n hyrwyddo gweledigaeth Llywodraeth Cymru o fabwysiadu Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth.

Meddai’r Athro Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol a Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Iechyd Poblogaethau, wrth lofnodi’r cytundeb ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o fod yn llofnodi’r siarter yma ar y cyd â phartneriaid o’r sectorau fferyllol, academaidd a gwyddorau iechyd, gan ei fod yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i egwyddorion Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth, sy’n elfen allweddol yn ein strategaeth Cymru Iachach. Bydd gosod gwerth wrth wraidd cynllunio a darparu gwasanaeth iechyd yn cyfrannu at well canlyniadau ar gyfer cleifion a chreu gwasanaeth iechyd mwy cynaliadwy yn y dyfodol."

Meddai Ben Osborn, Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolwr Gwlad, Pfizer UK, wrth lofnodi’r cytundeb ar ran y sefydliad:

“Diben Pfizer yw datblygu dulliau arloesol sy’n newid bywydau cleifion. Ond dim ond un rhan o’r darlun yw triniaethau arloesol. Er mwyn newid bywydau, mae angen i’r holl system iechyd weithio ar y cyd – i archwilio ffyrdd newydd o ddarparu triniaethau, rheoli clefydau ac atal afiechydon.

Mae’r weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yn rhannu’r egwyddorion yma, ac yn darparu amgylchedd polisi arloesol sy’n galluogi sefydliadau gwyddorau iechyd byd-eang, fel Pfizer, i feithrin cydberthnasau gweddnewidiol gyda’r system gofal iechyd.

Mae Pfizer yn falch o fod yn datblygu’r bartneriaeth lwyddiannus a oedd gyda ni eisoes â Phrifysgol Abertawe; fu erioed amser mwy cyffrous i weld sut all gwyddoniaeth, data a thechnoleg ddod ynghyd i weddnewid iechyd a chynnig gwell canlyniadau i gleifion.”

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, wrth lofnodi’r cytundeb ar ran y sefydliad:

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn llofnodi’r siarter yma, sy’n adeiladu ar ein partneriaeth bresennol â chwmni Pfizer. Ers 2018, rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu ein dealltwriaeth o Ofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth a’i bwysigrwydd i gynaliadwyedd systemau iechyd a gofal ledled y byd.

Cafodd ein Prifysgol ei sefydlu gan ddiwydiant i fynd i’r afael â phroblemau sy’n wynebu dinasyddion Cymru, a does yr un broblem sy’n fwy na’r angen am wella canlyniadau iechyd.

Bydd ein hacademi newydd, yr Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth, sef partner academaidd i’r rhaglen genedlaethol, Gwerth mewn Iechyd, yn ogystal â’n gwaith gyda Pfizer yn Efrog Newydd a Phrydain, yn sicrhau bod ein rhaglenni ymchwil ac addysg yn parhau i fod â chyrhaeddiad byd-eang. Mae’r memorandwm yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe, ynghyd â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn ymrwymo i gydweithio’n agos gyda’r sector gwyddorau iechyd yn rhyngwladol er mwyn cynnal rôl flaenllaw Cymru ym maes Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth.”

Meddai’r Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wrth lofnodi’r cytundeb ar ran y sefydliad:

“Mae gan Ofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth y grym i weddnewid ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol er gwell – a chreu canlyniadau sy’n cynnig gwerth i bobl Cymru a thu hwnt. Rydyn ni’n falch o fod yn cydweithio â phob un o’r Aelodau Sefydlu er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i arwain ar y gwaith o arloesi yn y maes. Yng nghyd-destun gofal iechyd darbodus, mae’r siarter yn cefnogi gweledigaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru o wneud Cymru yn wlad o ddewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a lles drwy feysydd effaith allweddol fel Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth.”

Mae’r pedwar Aelod Sefydlu’n gobeithio y bydd llofnodi’r siarter yma’n gosod sail er mwyn galluogi sefydliadau eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant, i gefnogi’r broses o roi Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ar waith. I gofrestru eich diddordeb mewn ymuno â’r weledigaeth gytûn yma, cysylltwch â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy e-bostio: hello@lifescienceshubwales.com.