Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal digwyddiad cydweithio ar draws sectorau gyda'r Academi'r Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe. 

LSHW-AMS cross sector event

Roedd y digwyddiad yn llawn brwdfrydedd wrth i arloeswyr, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd amrywiol ddod at ei gilydd i ymchwilio i fyd arloesi ym maes iechyd, gan ganolbwyntio’n bennaf ar iechyd menywod.  

Mae anghenion iechyd menywod yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn ymchwil feddygol a threialon clinigol. Fodd bynnag, mae cydnabyddiaeth gynyddol yn cael ei rhoi i bwysigrwydd mynd i'r afael â gwahaniaethau a datblygu atebion wedi'u teilwra a'u personoli. Roedd y digwyddiad yn neilltuo amser a lle i ystyried a thrafod y pynciau hollbwysig sy’n effeithio’n bennaf neu’n gyfan gwbl ar iechyd menywod. 

Dan gadeiryddiaeth Cari-Anne Quinn, ein Prif Swyddog Gweithredol, fe agorwyd y digwyddiad gan Simon Denegri, sef Prif Swyddog Gweithredol Academi’r Gwyddorau Meddygol. I ddechrau, cafwyd cyfres o gyflwyniadau er mwyn gosod y llwyfan ar gyfer trafodaethau deinamig o gwmpas y bwrdd.  

Gofynnwyd un cwestiwn: ‘Sut rydych chi’n rhagweld bydd cydweithio ar draws disgyblaethau yn digwydd yn y dyfodol?’, a hynny er mwyn ysgogi cymysgedd o ymatebion gan gynrychiolwyr traws-ddisgyblaethol; gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys a myfyrwyr. Roedd y drafodaeth yn ymwneud â’r angen am ddulliau cyfathrebu symlach rhwng polisïau, y byd academaidd, a gofal iechyd, gan nodi’r effaith gadarnhaol y gallai cydweithio o’r fath ei chael ar iechyd menywod.

Bu Cari-Anne Quinn yn ymhelaethu ar y drafodaeth hon, gan feithrin gobaith ar gyfer prosiectau dylanwadol: 

“Gallwn ddefnyddio’r ddeinameg hon i ddeall ein gilydd yn well. Byddai cydweithio mewn unrhyw ffordd yn gwneud pethau’n fwy cadarnhaol. O safbwynt y diwydiant, rydyn ni’n trafod sut gallwn ni fynd i’r afael â materion iechyd ar lefel genedlaethol, yn hytrach na gyda byrddau iechyd unigol, a thrwy gydweithio rydyn ni’n mynd ati i wneud hynny. Gan wneud yn siŵr bod pawb yn cymryd rhan.” 

Roedd y digwyddiad yn cynnwys tri siaradwr allweddol a oedd yn cyflwyno eu safbwyntiau unigryw: 

Rhoi mwy o lais i gleifion i greu maes gofal mamolaeth mwy diogel 

Rhannodd Sadia Haqnawaz, cynrychiolydd yr elusen Baby Lifeline, ei phrofiad ei hun o farwolaethau babanod, gan bwysleisio'r angen hanfodol i roi llais i gleifion. Bu Sadia yn trafod ei chyfraniad at Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI), ei gradd PhD, a sut mae datblygu i fod yn llais canolog ar y tasglu marwolaethau babanod.  

Mae Baby Lifeline yn elusen unigryw sydd â’r nod o wneud gofal yn fwy diogel ac yn well i bob person beichiog a babi newydd-anedig yn y DU ac ar draws y byd. Mae’r elusen yn cefnogi ac yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol y GIG sydd wrth galon y sector gofal.  

Roedd sgwrs angerddol Sadia yn pwysleisio'r pwysigrwydd o gynrychioli cleifion a’r angen i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae profiad Sadia yn dangos yr effaith sylweddol mae ymdrechion cydweithredol yn ei chael i sicrhau bod gofal mamolaeth yn fwy diogel ac effeithiol: 

“Os ydw i’n un llais sy’n cael ei glywed, dychmygwch y posibiliadau a’r canlyniadau cadarnhaol pan mae llawer o leisiau’n cael eu clywed.” 

Llunio ymwybyddiaeth gorfforaethol o’r Menopos 

Tynnodd Jayne Woodman, Sylfaenydd The Menopause Team, sylw at y diffyg ymwybyddiaeth o’r menopos yn y byd corfforaethol. Wrth gyflwyno ystadegau syfrdanol am yr heriau a wynebir gan fenywod sy’n profi’r menopos, pwysleisiodd Jayne yr angen am addysg a dealltwriaeth.  

Mae tua 13 miliwn o fenywod yn profi'r menopos yn y DU. Mae’r rhan fwyaf o fenywod yn mynd drwy’r menopos pan maen nhw rhwng 45 a 55 oed. Bob blwyddyn, mae un o bob 10 menyw (sy’n cyfateb i 333,000 bob blwyddyn) yn gadael eu swyddi, ac mae un o bob pump yn lleihau eu horiau gwaith. Nid yw llawer o fenywod yn deall eu symptomau, sy’n golygu eu bod yn cael eu llethu, neu’n teimlo na allant ddweud wrth eu rheolwyr am eu habsenoldeb o’r gwaith oherwydd symptomau’r menopos.  

Pwysleisiodd Jayne hefyd fod gwaith ymchwil yr elusen wedi canfod nad yw doctoriaid y DU yn cael digon o addysg ar y menopos. Nid yw 41% o brifysgolion yn cynnig unrhyw hyfforddiant gorfodol ar y menopos, sy’n dangos y diffyg gwybodaeth sy’n bodoli o ran sut i reoli’r menopos. 

Roedd cenhadaeth The Menopause Team i godi ymwybyddiaeth yn tynnu sylw at yr effaith gymdeithasol ehangach o fynd i’r afael â’r menopos yn y gweithle, a sut gallant helpu cyflogwyr a gweithwyr i weithio yn ystod y menopos. 

Sbarduno iechyd menywod drwy waith ymchwil cydweithredol 

Cyflwynodd Robin Andrews, Gwyddonydd Data a chynrychiolydd Health & Her, ddull sy’n seiliedig ar ddata o gefnogi menywod yn ystod y perimenopos a’r menopos. Mae’r gwaith ar y cyd â sefydliadau academaidd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru wedi canfod gwybodaeth arloesol.  

Lansiwyd Health & Her yn 2019, gan y sylfaenwyr Kate Bache a Gervase Fay. Mae'r wefan yn cynnig cyfoeth o adnoddau, gan gynnwys erthyglau meddygol a ffordd o fyw, a phrosiectau sydd wedi'u cynllunio i leddfu symptomau'r menopos. Un nodwedd amlwg yw’r adnodd symptomau ar-lein, sy’n grymuso menywod i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddeall a rheoli eu symptomau yn ystod y perimenopos a’r menopos. 

Yn y mis cyntaf ar ôl lansio gwefan Health & Her, roedd yr adnodd symptomau wedi taro tant gyda 14,000 a mwy o fenywod. Yna, cychwynnwyd ar brosiect Cyflymu i chwilio am glystyrau o symptomau’r menopos o fewn y data hwn. Darparodd y clystyrau deilliedig doreth o wybodaeth am brofiadau gwahanol fenywod, a ganfu fod olrhain symptomau dros amser wedi dod yn gatalydd pwerus ar gyfer canlyniadau iechyd cadarnhaol, gan gynnwys: 

  • Lleihad mewn symptomau’r menopos. 

  • Mwy o ymwybyddiaeth o beth sy’n effeithio ar symptomau (h.y. straen, tywydd, deiet). 

  • Rhagor o fenywod yn gofyn am help. ​ 

  • Cyfathrebu’n well â gweithwyr meddygol proffesiynol a ffrindiau/teulu am symptomau’r menopos. ​ 

  • Gallu cynyddol i wneud penderfyniadau ar driniaethau meddygol. 

Roedd y gwaith a wnaed gyda Cyflymu wedi cyfrannu at ddatblygu’r ystod o atodiadau gwobredig sydd gan Health & Her. Gan gydnabod yr angen am ateb mwy cynhwysfawr, roedd Health & Her wedi lansio ap ym mis Hydref 2020. Mae’r ap yn cynnwys adnoddau i gofnodi symptomau, cofnodi sbardunau (straen, deiet, tywydd), olrhain mislif, gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i leddfu symptomau, ac erthyglau arbenigol i ddarparu gwybodaeth a chymorth.  

O safbwynt iechyd byd-eang, mae ymrwymiad Health & Her i gydweithio â'r byd academaidd wedi parhau i lywio gwaith ymchwil ac i wella llesiant a disgwyliad oes miliynau o fenywod.  

I grynhoi, roedd digwyddiad traws-sector Academi'r Gwyddorau Meddygol yn enghraifft wych o gydweithio, ac yn tynnu sylw at arwyddocâd ymdrechion rhyngddisgyblaethol o ran gwella iechyd menywod. Roedd y straeon a rannwyd gan siaradwyr allweddol yn pwysleisio’r pŵer trawsnewidiol o ddod â safbwyntiau, profiadau ac arbenigedd amrywiol at ei gilydd, gan ysbrydoli’r cynadleddwyr i barhau â’r daith tuag at ddyfodol iachach a mwy cyfartal i fenywod.  

Cymraeg - key outcomes

 

Os na wnaethoch chi ymuno â ni yn ddigwyddiad Traws Sector Academi'r Gwyddorau Meddygol, a’ch bod eisiau dysgu mwy am sut gallwn ni eich cefnogi i sbarduno arloesedd ar rheng flaen y sector gofal a iechyd cymdeithasol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hello@lshubwales.com.