Mae Cymru'n harneisio potensial arloesedd Therapïau Datblygiedig. Darganfyddwch sut y gall sefydliadau sy'n gweithio ar draws tirwedd y gadwyn glinigol a chyflenwi helpu i lunio ei dyfodol.

Image showing collaboration between healthcare and industry

Mae Therapïau Datblygedig, sy’n ymwneud â therapi celloedd a genynnau ac adeiladu meinweoedd, yn bodoli ers ychydig dros 20 mlynedd: cymeradwywyd y cynnyrch therapi meinwe cyntaf, Apligraf, yn America ym 1998. Mae gan y triniaethau chwyldroadol hyn y potensial i drawsnewid y dirwedd gofal iechyd a meddyginiaethol, gan na fyddem yn cael ein cyfyngu mwyach i drin symptomau clefyd yn unig ond yn hytrach gwella gwraidd y broblem. Drwy drwsio, adnewyddu ac ail-adeiladu, gallwn adfer genynnau, celloedd a meinweoedd ar gyfer gweithrediad arferol - a chynnig y potensial i ddarparu canlyniadau parhaus ac iachaol.

Fel gydag unrhyw gyfle newydd, mae heriau a rhwystrau. Sut mae’r therapïau newydd hyn yn cyd-fynd â’r llwybrau gofal presennol ac o fewn y seilwaith presennol, a gafodd eu hadeiladu i raddau helaeth cyn i’r therapïau hyn ddod i fodolaeth hyd yn oed? Mae hefyd angen newidiadau sylweddol o ran y llwybr o’r ‘fainc i ochr y gwely a thu hwnt’ er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad teg o fewn GIG Cymru.

Mae hwn yn faes cyffrous o feddygaeth i fod yn gweithio ynddo ym mhob cwr o’r byd; gyda buddsoddiad gwerth ychydig yn llai nag $16 biliwn yn cael ei godi yn America yn ystod tri chwarter cyntaf 2020, wedi’i rannu’n gyfartal rhwng buddsoddiad preifat a chyhoeddus, sef cynnydd o 76% ers 2019. Ewrop yw’r ail ranbarth mwyaf o ddatblygwyr Therapïau Datblygedig sy’n weithredol ledled y byd, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn y DU.

Dyma’r amser i adeiladu ar hyn. Credwn fod gan Gymru'r potensial i osod ei hun ar flaen y gad yn y maes hwn a dod yn arweinydd byd-eang yn y sector Therapïau Datblygedig.

Pam Cymru ar gyfer Therapïau Datblygedig?

Mae Cymru’n fwrlwm o ymchwil Therapïau Datblygedig, gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal o ochr y gwely i’r fainc. Mae’r Athro Thomas Connor yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn Uned Genomeg Pathogenau Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Phartneriaeth Genomeg Cymru. Enghraifft arall yw’r Athro Steve Conlan, sy’n datblygu Cyfieuau Cyffuriau Gwrthgorff. Gallwn hefyd gyfeirio at yr Athro Duncan Baird, a’i ymchwil sy’n canolbwyntio ar fioleg telomer, yn ogystal â’r Athro Alan Parker a’i ymchwil i fectorau adenofirol “oncolytig”.

Mae cwmnïau fel TrakCel yng Nghymru yn arbenigwyr yn sector gwybodeg y gadwyn gyflenwi. Yn ogystal â TeloNostiX, sy’n gweithio gyda chwmnïau sy’n datblygu imiwnotherapi i helpu i weithgynhyrchu cynnyrch a dewis cleifion.

Un o’r heriau niferus yn y sector hwn yw’r buddsoddiad sydd ei angen i ddod â chynnyrch i’r farchnad, a sut mae’r mathau hyn o dreialon clinigol yn amrywio i therapïau confensiynol. Fodd bynnag, rydym yn ffodus yng Nghymru i gael Banc Datblygu Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n gallu cynnig cymorth a chyngor i oresgyn y rhwystrau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i Therapïau Datblygedig, drwy’r ‘rhaglenni Meddygaeth Fanwl’ a ‘Datganiad o Fwriad Therapïau Uwch’. 

Mae Cymru eisoes wedi dechrau darparu rhai o’r triniaethau hyn, er enghraifft mae therapi CAR-T wedi bod ar gael ers mis Rhagfyr 2019, i drin lymffoma celloedd B mawr ymledol. Triniaeth arall a gynigir yn fuan yw Spherox, sef mewnblaniad chondrocyte awtologaidd gan ddefnyddio condrosffer ar gyfer diffygion cartilag articwlaidd symptomatig yn y ben-glin. Bydd yr enghreifftiau hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer nodi rhwystrau allweddol sy’n cyfyngu ar fynediad i’r farchnad.

Sut ydym ni’n cefnogi arloesi ym maes Therapïau Datblygedig?

Cenhadaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflymu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i sicrhau gwell iechyd a lles. Dim ond drwy gynnull rhanddeiliaid a defnyddio dull ‘Cymru’n Un’ y byddwn yn cyflawni hyn. Yma, bydd partneriaid amlddisgyblaethol yn gweithio’n ddi-dor gyda’i gilydd, yn cydnabod cryfder cydweithio, yn osgoi cystadleuaeth fewnol, ac yn adeiladu ar gryfderau’r cydrannau presennol. Bydd hyn yn helpu Cymru i gyflymu a datblygu’r broses arloesi yn ôl yr angen.

Rydyn ni wedi gwneud Therapïau Datblygedig yn un o flaenoriaethau'r sefydliad i helpu i gyflawni hyn, lle rydyn ni eisiau cryfhau rhwydweithiau ar draws y biblinell arloesi lawn. Rydyn ni’n gweithio gyda Therapïau Datblygedig Cymru (Saesneg yn unig) i ddatblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid sy’n cwmpasu ymchwil, y byd academaidd, iechyd a gofal cymdeithasol. P’un ai a yw eich cefndir yn un clinigol, academaidd, gweithgynhyrchu, cadwyn gyflenwi neu logisteg, gallwch chi helpu i lunio dyfodol arloesi ym maes Therapïau Datblygedig yng Nghymru.

Cysylltwch â ni!

Felly, os oes gennych chi syniad neu brosiect arloesol sy’n berthnasol i Therapïau Datblygedig ac yn awyddus i roi hwb i’ch rhaglen waith, dywedwch fwy wrthym amdano, gan ddefnyddio ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Bydd ein tîm Therapïau Datblygedig wedyn yn cysylltu â chi.

Rydym hefyd yn bwriadu lansio Grŵp Diddordeb Arbennig sy’n canolbwyntio ar arloesi ym maes Therapïau Datblygedig. Cofnodwch ddiddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith hwn drwy anfon e-bost at: hello@lsubwales.com