Mae arloesedd Technoleg Iechyd yn trawsnewid ein galluoedd ym maes gofal iechyd yn gyson, yma yng Nghymru a thu hwnt.

Image of phone and coffee - depicting listening to podcast

Mae technoleg API yn elfen allweddol o Dechnoleg Iechyd, sy’n galluogi i ddata gael ei rannu rhwng systemau er mwyn agor pob math o bosibiliadau. Fel rhan o'n cyfres Syniadau Iach, buon ni’n siarad â thri arbenigwr ym maes technoleg iechyd i ystyried sut gall APIs helpu i chwyldroi darpariaeth gofal iechyd. Gallwch wrando ar y podlediad ar-lein.

Ond, roedden ni eisiau gwneud mwy na hynny, gan fod llawer iawn mwy i’w ymchwilio ym maes technoleg API. Rydyn ni wedi llunio rhestr o'r podlediadau technoleg iechyd gorau sydd ar gael ar y we a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, yn ogystal â rhoi gwybod am dueddiadau'r diwydiant. Mwynhewch!

Health Tech GeekWire

Mae Health Tech yn bodlediad gan GeekWire sy’n ymchwilio i faes arloesol iechyd digidol, ac sy’n darparu mewnwelediad i fyd gofal iechyd newydd a chyffroes. Mae GeekWire yn cynnal trafodaethau manwl gydag arloeswyr technoleg sy’n dod â syniadau a dyfeisgarwch newydd i’r byd iechyd a lles.

Gwrandewch ar Technoleg Iechyd GeekWire.

AAMI

Mae podlediad AAMI wedi ennill gwobrau, ac mae’n trafod yr heriau sy’n wynebu’r maes technoleg iechyd heddiw, ac yn ymchwilio i ddulliau amlddisgyblaethol i geisio eu datrys. Mae'n llawn mewnwelediadau ac awgrymiadau ar bob math o dechnolegau technoleg iechyd a fydd yn berthnasol i amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Gwrandewch ar bodlediad AAMI. 

Medtech

Mae’r podlediad Medtech Talk yn canolbwyntio ar sylfaen y sector, sef pobl. Maen nhw’n siarad ag entrepreneuriaid, buddsoddwyr a swyddogion gweithredol sydd wedi ymroi eu gyrfaoedd i arloesi gofal iechyd i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl, ac i wella pobl. Peidiwch â cholli’r cyfle i wrando arno.

Rhagor o wybodaeth am bodlediad Medtech.

The HS. Health-Tech Podcast

Mae'r gyfres podlediadau hon yn cynnwys cyfweliadau ag arweinwyr a busnesau newydd ym maes technoleg iechyd i arddangos y technolegau a’r gwaith arloesi sy'n arwain y diwydiant. Os ydych yn glaf, yn arbenigwr yn y maes, neu os ydych eisiau gwybod mwy am dechnoleg iechyd, dyma'r podlediad perffaith i chi.

Gwrandewch ar bodlediad HS. Health Tech.

Awyddus i ymchwilio’n ddyfnach i'n podlediad Syniadau Iach? Gallwch wrando arno ar unrhyw un o'r prif apiau ar gyfer podlediadau, neu ar-lein.