Podlediad gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw Syniadau Iach. Ym mhob pennod clywn gan wahanol feddylwyr, arloeswyr a dylanwadwyr blaenllaw yn y diwydiant iechyd a gofal, i siarad am bynciau sydd o bwys heddiw.
Eisiau dechrau arni? Rydym wedi crynhoi pob un o'n penodau podlediad i roi cipolwg i chi arnynt.
Rhaglen 1 – Rhagnodi Cymdeithasol gyda Sara Thomas
Beth yw rhagnodi cymdeithasol? Mae rhagnodi cymdeithasol yn cysylltu cleifion mewn gofal sylfaenol â ffynonellau cymorth o fewn eu cymuned leol er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles.
Yn y podlediad hwn bydd Sara’n trafod y sefyllfa yng Nghymru a’i phrofiad yn arwain datblygiadau yn y maes i hwb gofal sylfaenol yng Nghwm Taf.
Gwrandewch ar y podlediad hwn.
Rhaglen 2 – Gofal iechyd Cymru'r dyfodol
Yn y rhaglen hwn o Syniadau Iach rydym yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â'r ffordd y gall arloesedd wella'r byd iechyd a gofal yng Nghymru.
Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn ymateb i’r weledigaeth hon.
Eisiau dod o hyd i fwy? Gwrandewch ar y podlediad.
Rhaglen 3 – A all meddalwedd API wella gofal i gleifion?
API: beth yw API, gellir eu defnyddio i drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru?
Yn rhaglen 3 o Syniadau Iach bydd Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn trafod API sut y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn gyda Dyfan Searell, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Elidir Health, sy’n creu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer y maes iechyd a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito.
Rhaglen 4 – Creu cymunedau iach yng Nghymru
“Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” - Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro Syr Michael Marmot.
Yn y podlediad hwn fe fydd Dr Zoe Morris Williams, meddyg teulu ym Mhontypridd a Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan, yn ymateb i sylwadau Syr Michael.
Byddan nhw’n trafod sut mae ffactorau cymdeithasol, fel cyflwr tai, gwaith a bwyd yn dylanwadu ar iechyd.
I ddod o hyd i fwy, gwrandewch ar y podlediad.
Rhaglen 5 – Hacathon Iechyd yn herio arloeswyr
Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, daeth dros gant o bobl ynghyd i greu atebion digidol neu dechnolegol i’r sialensiau maent yn wynebu – boed hynny’n apiau, prototeip neu syniad o gynnyrch newydd.
Ewch tu ôl i’r llen a gwrandewch ar y podlediad cyfan.
Rhaglen 6 – Technoleg arloesol yn newid byd gofal a iechyd yng Nghymru
Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro.
Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd.
Gwrandewch ar ei feddyliau yn y podlediad cyfan.
Dewch o hyd i fwy am Syniadau Iach a gwrandewch ar-lein.
Byddai well gennych wrando mewn ffordd arall? Dewch o hyd i’n podlediad Syniadau Iach ar Spotify, Google Podcasts, Apple Podcasts ac Y Pod.