Gwrandewch ar y bennod hon o bodlediad Syniadau Iach yma:

Apple Podcasts

Spotify

Google Podcasts

Pan fydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynd at y meddyg, byddan nhw’n disgwyl mynd o’r syrjeri gyda phresgripsiwn am foddion neu gyffuriau. Ond mae rhagnodi cymdeithasol yn golygu bod y meddyg a’r claf yn edrych tu hwnt i’r symptomau meddygol ac yn yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pobl mewn ffordd holistaidd.

Yn ôl Sara Thomas, ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

Mae’n synnwyr cyffredin bod ni’n mynd at wraidd y broblem.Ar ôl trafod gyda’r claf, gall y doctor alw ar wasanaethau eraill, proffesiynol neu wirfoddol, er mwyn dod o hyd i ddatrysiad.  “ Mae’n rhoi hyder i unigolion i wneud rhywbeth drostyn nhw’u hunain,”

Gall hwn  gynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel gwirfoddoli, gweithgareddau celfyddydol, garddio, ac ystod o chwaraeon.

Yn y podlediad hwn mae Sara’n trafod y sefyllfa yng Nghymru a’i phrofiad yn arwain datblygiadau yn y maes i hwb gofal sylfaenol yng Nghwm Taf.

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach. 

Fe glywn ni hefyd gan Syr Sam Everington arbenigwr ar ragnodi cymdeithasol.

In our English language sister podcast, Healthy Thinking, Sir Sam Everington speaks to Chair of Life Sciences Hub Wales, Professor Sir Mansel Aylward on social prescribing.