Gwrandewch ar y bennod hon o bodlediad Syniadau Iach yma:

Apple Podcasts

Spotify

Google Podcasts

Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid ddefnyddio arloesedd i wella’r sefyllfa. “Bydd arloesi’n cynnig nid yn unig ffordd i wella gofal iechyd ond bydd yn ein helpu ni ar y daith i sicrhau Cymru fwy cyfartal,” meddai.

Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn ymateb i’r weledigaeth hon.

Mae Sion o’r farn bod yr un feddylfryd sydd ganddo ni wrth ddefnyddio ffôn i archebu tacsi yn “gallu helpu ni i baratoi gwasanaethau iechyd gwell yng Nghymru.”

Treuliodd Elin lawer o'i hamser fel nyrs bediatrig yn gofalu am blant â chlefydau prin. Ar ôl teimlo bod y dulliau o fonitro’r cleifion yn aneffeithiol, fe wnaeth Elin feddwl am y syniad o fonitro cleifion o bell mewn amser real ac fe sefydlodd gwmni ei hun i wireddu’r syniad hwn.

Ond nid technoleg yn unig all fod o help i gleifion Cymru. Meddai Elin, “ Y peth mwyaf innovative  allwn ni wneud yw tynnu allan o’r sustem y practises  sydd ddim yn gweithio bellach.” 

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach. 

Healthy Thinking

Gallwch glywed Prif Weinidog Cymru, yr Athro Mark Drakeford yn sgwrsio gyda’r Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn ein podlediad Saesneg ‘Healthy Thinking’ .