Yr Athro Syr Mansel Aylward

Cynghorydd Arbennig, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Yr Athro Syr Mansel Aylward, CB MD DSc FFOM FRCP FLSW

Penodwyd yr Athro Syr Mansel Aylward yn Gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Hydref 2017. Yn Awst 2021 bu yr Athro Syr Mansel Aylward gamu i lawr o rôl y cadeirydd ond bydd yn parhau i fod yn Cynghorydd Arbennig ar y bwrdd. Mae’r Athro Syr Mansel yn llais blaenllaw ym maes iechyd cyhoeddus, ac mae hefyd yn Gadeirydd (Emeritws) Comisiwn Bevan.

Yn ystod ei yrfa ddisglair, bu’r Athro Syr Mansel yn Brif Swyddog Meddygol, yn Gyfarwyddwr Meddygol ac yn Brif Wyddonydd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llundain. Ef oedd Cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac roedd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus ar lefel genedlaethol, leol a chymunedol yng Nghymru. Mae hefyd yn gyn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd ei urddo yn rhestr Anrhydeddau’r Frenhines yn y Flwyddyn Newydd yn 2010 am ei wasanaethau i iechyd a gofal iechyd. Cafodd ei ethol i gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2016.