Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn ddiweddar, cynhaliwyd Conffederasiwn GIG Cymru yn stadiwm Dinas Caerdydd, a ddaeth ag arweinwyr gofal iechyd, llunwyr polisïau, a phartneriaid yn y diwydiant ynghyd i rannu a mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf enbyd sy’n wynebu system gofal iechyd Cymru ar hyn o bryd. 

Panel discussion at the NHS confed with 6 speakers on stage

Gyda’r thema o adeiladu cenedl iachach a mwy cynaliadwy, tynnodd y gynhadledd sylw at weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru.

Heriau’r system gofal iechyd ac uchelgais ar gyfer arloesi

Dechreuodd y diwrnod gyda Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn bwrw golwg ar gyflwr y system gofal iechyd. Aeth i’r afael â phryderon ynghylch amseroedd aros, amser aros hir am driniaethau cyffredin, ac anawsterau o ran cael gafael ar ofal. Er ei fod yn cydnabod yr ymdrechion sylweddol a wnaed i fynd i’r afael â’r materion hyn, pwysleisiodd nad yw amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio cystal ag y dylent fod.

Daeth galwad eang i’r amlwg am drawsnewid systemig er mwyn diwallu gofynion gofal iechyd modern yn well. Siaradodd Jeremy Miles a Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, am symud i fodel gofal rhagweithiol ac ataliol i reoli gofynion yn y dyfodol. Trafododd llawer o siaradwyr, gan gynnwys y rhai ar y panel technoleg a data, sut y gall trawsnewid digidol, cyfrifiadura cwmwl, a datblygiadau arloesol, fel Deallusrwydd Artiffisial a genomeg, yrru effeithlonrwydd a gwella canlyniadau i gleifion. Fodd bynnag, cydnabuwyd fod pobl wedi digon ar dreialon yng Nghymru, gydag arweinwyr yn galw am gynnal rhaglenni peilot llwyddiannus mewn modd cynaliadwy er mwyn cael yr effaith orau bosibl ar draws y wlad.

Tynnodd Jeremy Miles sylw hefyd at y cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar draws y system iechyd a gofal, gan bwysleisio bod gan bob bwrdd iechyd a sefydliad rywbeth gwerthfawr i’w rannu ac ysbrydoli rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd. Thema a gododd dro ar ôl tro drwy gydol y dydd oedd pwysigrwydd dysgu oddi wrth ei gilydd ac ymgorffori diwylliant o arloesi a chydweithio parhaus i greu system gofal iechyd sy’n gynaliadwy ac yn addas ar gyfer gofynion modern.

Arwain a chefnogi’r gweithlu

Wrth wraidd y trafodaethau roedd y pwyslais ar arweinyddiaeth a amlygwyd gan Jonathan Morgan, Cadeirydd, Conffederasiwn GIG Cymru, a siaradwyr allweddol eraill. Buont yn trafod rôl hanfodol arweinwyr cryf a thosturiol wrth lywio’r GIG drwy gyfnodau anodd, yn enwedig wrth i’r gwasanaeth wynebu pwysau’r gaeaf ac adferiad parhaus ar ôl y pandemig. 

Cydnabu Jeremy Miles ymroddiad anhygoel staff ac arweinwyr y GIG sy'n darparu gwasanaethau wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan dynnu sylw hefyd at y ffaith bod yn rhaid i'r GIG yng Nghymru barhau i addasu i heriau uniongyrchol a hirdymor, gydag arweinyddiaeth effeithiol yn sbardun i'r trawsnewid hwn.

Cafwyd un sgwrs amlwg am arweinyddiaeth a chymorth i’r gweithlu gan Dr Sabrina Cohen-Hatton, siaradwr ysgogol a rannodd ei stori bersonol bwerus. O fod yn berson digartref i fod yn ddiffoddwr tân, tynnodd Sabrina sylw at bŵer trawsnewidiol gwytnwch a’r cryfderau unigryw sy’n dod o gefndiroedd amrywiol. Roedd ei stori’n taro tant gydag arweinwyr gofal iechyd, gan eu hatgoffa bod yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu yn aml yn gallu bod yn sylfaen ar gyfer ein cyfleoedd mwyaf.

Mae stori Sabrina yn atgoffa arweinwyr bod cefndiroedd a safbwyntiau amrywiol pob aelod o’r tîm yn cryfhau sefydliadau, gan dynnu sylw at werth cymryd risgiau; a phan fydd arweinwyr yn modelu cymryd risgiau ystyrlon, maent yn creu gofod lle mae gweithwyr yn teimlo’n rhydd i arloesi a datblygu.

Un neges ganolog a bwysleisiodd Sabrina oedd pwysigrwydd diogelwch seicolegol, gan nodi bod gweithleoedd yn dueddol o ffynnu pan fydd pobl yn ddigon parod i ddweud eu bod yn ansicr am unrhyw beth, i gyfaddef eu camgymeriadau, ac i rannu syniadau heb ofni beirniadaeth. Daeth Sabrina a’i sgwrs i ben drwy dynnu sylw at bŵer rhyngweithio dyddiol wrth siapio diwylliant y gweithle, ac nad yw amgylcheddau cynhwysol, seicolegol ddiogel yn cael eu creu dros nos; maent yn cael eu hadeiladu drwy gyfathrebu cyson, agored ac empathig. Roedd neges Sabrina yn glir: drwy feithrin amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, mae arweinwyr yn gosod y sylfaen ar gyfer timau cydlynol, arloesol a grymus.  

Data a thryloywder

Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio’n sylweddol ar ddefnyddio data’n effeithiol, yn enwedig o ran cynyddu tryloywder a defnyddio data ar gyfer gwneud penderfyniadau a gwella gofal cleifion. Tynnodd Jeremy Miles sylw at bwysigrwydd cyhoeddi data perfformiad y GIG yn rheolaidd i hybu atebolrwydd a dysgu. Hefyd, tynnodd sylw at brosiect ‘cofnod iechyd gydol oes’ Iechyd a Gofal Digidol Cymru i uno data cleifion, gan wella’r integreiddio ar draws byrddau iechyd. Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar ddata, fel y gwelir mewn prosiectau fel dangosfyrddau gofal lliniarol, yn caniatáu ar gyfer rheoli adnoddau’n well ac yn llywio addasiadau i lwybrau gofal cleifion.

Roedd arloesedd yn cael ei gydnabod yn gyson fel llwybr hanfodol at ofal iechyd cynaliadwy, yn enwedig yng nghyd-destun datblygiadau technolegol a datrysiadau digidol. Mae cofleidio Deallusrwydd Artiffisial a chymwysiadau digidol yn cael ei ystyried yn hanfodol i fodloni gofynion sy’n esblygu, gyda phwyslais cryf ar ddatrysiadau data yn y cwmwl. Yn ystod sesiwn grŵp AWS, bu’r drafodaeth yn tynnu sylw at yr uchelgais i harneisio data ar gyfer sicrhau canlyniadau gwell a phrosesau mwy effeithlon. Roedd ffocws canolog yn parhau ar wella profiad y claf, gan ganiatáu mwy o ymgysylltu â gofal iechyd drwy ddatblygiadau technolegol. 

Partneriaethau cydweithredol a gofal sy’n canolbwyntio ar gleifion 

Trafodwyd gofal sy’n canolbwyntio ar y claf mewn llawer o sgyrsiau, yn enwedig drwy fwy o dryloywder data a thrwy rannu’r arferion gorau ar draws byrddau iechyd. Amlygodd y gwaith o weithredu prosiectau fel QuicDNA, a oedd yn cyflymu’r llwybr diagnostig ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint, sut y gall dull tryloyw sy’n cael ei yrru gan ddata fod o fudd uniongyrchol i gleifion drwy leihau amseroedd aros a phersonoli gofal.

Roedd ataliaeth yn bwnc trafod amlwg, gyda siaradwyr yn cynnwys Matthew Taylor, Prif Swyddog Gweithredol, Conffederasiwn y GIG yn pwysleisio’r angen i symud tuag at ofal ataliol sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae mynd i’r afael â heriau iechyd y cyhoedd hirdymor yn gofyn am flaenoriaethu ymyriadau cynnar ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy sbarduno strategaethau ataliol a’u gwreiddio mewn gwasanaethau cymunedol, gall y GIG leddfu ychydig o’r pwysau ar ysbytai, gan greu system iechyd fwy gwydn.

I gloi, roedd cynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru yn atgyfnerthu pwysigrwydd arweinyddiaeth, cydweithio ac arloesi beiddgar wrth adeiladu system gofal iechyd gadarn. Er bod heriau’n parhau, pwysleisiodd trafodaethau’r dydd fod dull rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n seiliedig ar ddysgu ar y cyd, a gweithredu ar y cyd, yn allweddol i greu Cymru iachach sy’n fwy hyblyg.

Os nad oeddech chi’n bresennol yn y gynhadledd, ond yr hoffech chi ddysgu sut gallwn ni eich helpu chi i chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth drwy yrru eich arloesedd i flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni.