Mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio er lles iechyd a gofal yng Nghymru, gyda rhaglenni trawsnewidiol cyffrous yn dod i’r amlwg ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd.

Mae ein Rhaglenni Meddyginiaethau Digidol yn chwyldroi’r gwaith o reoli meddyginiaethau i wneud pethau’n haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion ac i weithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy ddefnyddio technoleg ddigidol, ac rydym wedi cyrraedd cerrig milltir pwysig yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.
Un o’r rhaglenni hyn yw’r Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ym maes Gofal Sylfaenol, cynllun uchelgeisiol i gyflwyno proses ddigidol yn lle’r ffurflen bresgripsiwn draddodiadol ar bapur gwyrdd. Rydym yn falch o fod wedi cydweithio â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ers y cyfnod cyn lansio Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS), ac mae’n dangos sut y gellir sicrhau llwyddiant drwy feddwl mewn ffordd arloesol, cydweithio, a rhannu’r un gwerthoedd. Mae EPS yn galluogi rhai sy’n rhoi presgripsiynau mewn practisau meddygon teulu i anfon presgripsiynau’n electronig i’r fferyllfa neu’r dosbarthwr o ddewis y claf. Nid oes angen i’r ffurflen bapur gael ei hargraffu a’i chasglu o’r feddygfa, a gall staff gofal iechyd gadw llygad ar hynt presgripsiwn unrhyw bryd. Mae’n rhyddhau amser gwerthfawr i ofalu am gleifion ac yn ceisio lleihau swm y papur a argraffir gan GIG Cymru.
Efallai ei bod yn teimlo ein bod wedi bod yn aros yn hir i gael EPS yng Nghymru, ond mae’n broses gymhleth sy’n cynnwys nifer o bartneriaid. Hyd yma, cafodd saith cyflenwr systemau fferyllfeydd ac un cyflenwr meddygon teulu eu haswirio i gyflwyno eu meddalwedd EPS yma. I gyrraedd y man hwn, bu’n rhaid ymgymryd â llawer o waith datblygu a phrofi i sicrhau bod pob system yn bodloni safonau a gofynion cydymffurfiaeth GIG Cymru.
Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF) (y Gronfa), a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, wedi bod yn ganolog i’r broses o roi EPS ar waith. Agorodd y Gronfa ym mis Ebrill 2023 i ddarparu grantiau i gynorthwyo cyflenwyr systemau fferyllfeydd cymunedol i ddatblygu eu meddalwedd er mwyn defnyddio EPS.
Bwriedir i’r Gronfa feithrin arloesedd a chymell cyflenwyr drwy ei system grantiau sy’n seiliedig ar haenau. Mae’r cymhelliad mwyaf yn ymwneud â rhoi EPS ar waith – y prif ganlyniad – tra mae cymhellion eraill yn ymwneud â’r canlyniadau eilaidd o ddangos taith presgripsiwn di-bapur a galluogi hysbysiadau ‘presgripsiwn yn barod’ i gael eu hanfon drwy ap GIG Cymru.
Y tair haen yw:
- Haen 1: Rhoi EPS ar waith – gweithgareddau sy’n ofynnol i roi EPS ar waith mewn fferyllfeydd cymunedol a chyda chontractwyr dosbarthu cyfarpar yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr holl swyddogaethau sydd eisoes ar gael yn Lloegr, ynghyd â gofynion sy’n benodol i Gymru. Prosesu sgript EPS byw yn llwyddiannus yng Nghymru a chwblhau proses aswirio EPS Cymru yn llwyddiannus oedd yn nodi bod yr haen hon wedi’i chwblhau.
- Haen 2: Taith presgripsiwn di-bapur – datblygiadau y bwriedir iddynt leihau swm y papur a ddefnyddir mewn fferyllfeydd, gan arwain at daith presgripsiwn di-bapur, gan gynnwys opsiwn lle y gall cleifion ofyn am docyn dosbarthu papur. Taith presgripsiwn di-bapur sy’n dangos bod yr haen hon wedi’i chwblhau.
- Haen 3: Hysbysiad gwthio – datblygu dull o anfon hysbysiadau gwthio drwy ap GIG Cymru o fewn y system Cofnodion Meddyginiaethau Cleifion sydd ar waith mewn fferyllfeydd cymunedol, a hynny er mwyn rhoi gwybod i gleifion bod eu meddyginiaethau’n barod. Dangosir bod yr haen hon wedi’i chwblhau drwy i neges sy’n cydymffurfio fod ar gael ar ryngwyneb rhaglennu cymwysiadau ap GIG Cymru.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy’n ymdrin â’r gwaith gweinyddol, yn rheoli’r arian, ac yn rhoi adroddiadau i Lywodraeth Cymru ynghylch rhoi’r cynllun grant ar waith. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru’n goruchwylio’r gofynion technegol, yn monitro’r modd y mae’r allbynnau a ariannwyd yn cael eu defnyddio, ac yn gwerthuso’r canlyniadau ar ôl i’r prosiectau ddod i ben.
Yn 2023, dyfarnodd y Gronfa ei grantiau cyntaf, gyda chyfanswm o chwe chyflenwr yn cael grant Haen 1. Ar ôl cynnal profion manwl, cymeradwywyd tri o’r cyflenwyr systemau hyn i gyflwyno’u meddalwedd yng Nghymru, cyn i dri arall gael eu cymeradwyo ym mis Ionawr 2025 drwy Haen 1.
Mae’r dull cydweithredol o weithio rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi sicrhau bod y cynllun ariannu wedi’i reoli’n effeithlon, gan sicrhau buddion i gleifion ac i staff gofal iechyd mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Mae’r Gronfa wedi chwarae rhan hollbwysig o ran annog cyflenwyr systemau i ddiweddaru eu meddalwedd i’w defnyddio yng Nghymru, gan beri bod nifer o gerrig milltir pwysig wedi’u cyrraedd cyn pen dwy flynedd ar ôl ei hagor. Erbyn mis Hydref 2024, roedd EPS ar gael i gymunedau ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru ac, erbyn canol mis Chwefror 2025, roedd dros filiwn o eitemau presgripsiwn wedi’u dosbarthu drwy EPS. Erbyn diwedd mis Mai 2025, roedd y ffigur hwn wedi cynyddu i bron i 2.5 miliwn. Ar adeg ysgrifennu’r blog hwn, mae EPS ar gael mewn 66 practis meddyg teulu a thros 370 fferyllfa gymunedol yng Nghymru, ac mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan bob contractwr dosbarthu cyfarpar (DAC).
Drwy gydweithio â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddarparu arian, dangoswyd sut y gellir gwireddu trawsnewid digidol ym maes gofal iechyd, gan bennu safon newydd ar gyfer rheoli meddyginiaethau yng Nghymru. Mae ffenestr ariannu Haen 1 wedi cau, ond rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar Haenau 2 a 3 drwy gydol blwyddyn ariannol 2025-26, gan symud tuag at daith ddi-bapur yng Nghymru ac annog pob cyflenwr i ddatblygu hysbysiadau gwthio drwy ap GIG Cymru i roi gwybod i gleifion bod eu presgripsiynau’n barod, rhywbeth a fydd yn gwella profiad cleifion. Mae cryn ffordd i fynd o hyd ar ein taith ddigidol, ond wrth inni symud drwy chwarter cyntaf blwyddyn ariannol newydd, mae’n gyfle da i oedi ac ystyried cymaint yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.
Gallwch ddod i wybod mwy am y Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol yma.