Yn ddiweddar, bu Azize Naji, Prif Weithredwr Goggleminds i Japan fel rhan o Genhadaeth Fasnach Cymru, gan gynrychioli arloesedd yng Nghymru yn Expo'r Byd a Japan Health 2025. Yn y blog hwn ganddo, mae'n rhannu ei feddyliau a’r prif bethau a ddysgodd o'r digwyddiadau.
Ar ddiwedd Mehefin 2025, cefais y cyfle anhygoel i ymweld â Japan fel rhan o Daith Fasnach Cymru, a drefnwyd ac a arweiniwyd gan Allforio Cymru, ochr yn ochr â nifer o fusnesau eraill yng Nghymru. Mae Japan wedi bod ar fy rhestr deithio bersonol ers amser maith, felly roedd mynd fel cynrychiolydd Goggleminds yn ei wneud yn fwy arbennig. Roedd yn garreg filltir bwysig i ni: dyma'r pellaf rydw i wedi'i deithio i arddangos ein technoleg a rhannu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud.
Glaniais yn Osaka, ac un o'r pethau cyntaf wnaeth fy nharo oedd y carwsél bagiau yn y maes awyr. Roedd pob cês wedi'i gosod yn berffaith, bron fel pe baen nhw wedi cael eu gosod â llaw – ac fel y digwyddodd, roedd hynny’n wir. Roedd staff y maes awyr yn gweithio'n dawel y tu ôl i'r llenni i gadw popeth mewn trefn. Roedd y sylw hwnnw i fanylion yn sefyll allan i mi ac yn teimlo’n debyg iawn i’r holl bethau y byddwn i'n ei brofi yn Japan yn ddiweddarach.
Dros y dyddiau canlynol, cefais gyfle i gyfarfod y cwmnïau eraill o Gymru, a theithio i Ddinas Kobe, lle cawsom wneud cyflwyniadau i gwmnïau dan ofal RIKEN, sefydliad blaenllaw ym maes ymchwil a datblygu. Mae'r dechnoleg maen nhw'n ei chreu yn rhyfeddol, ac unwaith eto, roedd y sylw i fanylder yn rhywbeth roeddwn i'n ei edmygu. Roedd hyn yn cynnwys system deallusrwydd artiffisial sy'n gallu defnyddio modelu cyfrifiadurol ar gyflymder uchel, a system braich robotig a raglennwyd i gynnal arbrofion gwyddonol dro ar ôl tro. Roedd hyn yn caniatáu i arbrofion gael eu cynnal 24 awr i gyflymu gwaith labordy.
Arloesedd a chysylltiadau byd-eang
Dau ddiwrnod ar ôl cyrraedd, roeddwn ar fy ffordd i Expo’r Byd, y lle pwysig nesaf ar ein taith. Mae ’Expo'r Byd 2025 Japan yn ddigwyddiad byd-eang sy'n cael ei gynnal yn Osaka tan fis Hydref 2025, lle mae dros 150 o wledydd yn arddangos eu datblygiadau arloesol ym maes iechyd, cynaliadwyedd a thechnoleg o dan y thema "Dylunio Cymdeithas y Dyfodol ar gyfer ein Bywydau."
Y cynllun oedd arddangos ein technoleg i gynulleidfa fyd-eang, ac ymuno â phanel o siaradwyr i rannu syniadau am y dyfodol. Roedd yr ystafell ar thema Cymru yn llawn pobl o bob cefndir o ddiwydiant, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus. Diolch byth, neilltuwyd cyfieithydd i bob cwmni i hwyluso’r sgyrsiau gyda gwesteion oedd yn siarad Siapanaeg.
Cafwyd sawl sgwrs ddiddorol yn ystod y bore. Roedd un o’r cyfleoedd cyntaf i ryngweithio’n sefyll allan, sef trafod prosiectau Goggleminds gyda chwmni technoleg blaenllaw yn Japan. Roedd yn ein hatgoffa sut mae arloesedd, boed o Japan neu Gymru, yn cael ei sbarduno gan yr un uchelgais feiddgar. Roedd y diddordeb oedd ganddynt yn yr hyn rydyn ni'n ei adeiladu yn tanlinellu pa mor bell y mae arloesedd Cymru wedi dod, a'r effaith y gallwn ei chael drwy gynnal y sgyrsiau byd-eang hyn. Parhaodd hyn drwy sesiwn y bore gan gyfarfod pobl o bob cefndir a diwydiant gyda phwrpas cyffredin. Roedd trafodaethau’n canolbwyntio ar bynciau pwysig fel 'sut ydych chi'n gwneud pethau'n well i bobl?' a 'sut allwn ni wneud pethau'n well i bobl gyda'n gilydd?'
Ar ôl y drafodaeth banel yn y prynhawn ac ychydig mwy o gyflwyniadau, ymlaen â ni i’r digwyddiad rhwydweithio gyda'r nos. Gydag awyrgylch ychydig yn fwy hamddenol, roedd y sgyrsiau yn llifo. Daeth pobl o bob cwr o'r byd at ei gilydd - rhai yn rhannu syniadau dros fyrbrydau, eraill yn sgwrsio’n benodol am gydweithio yn y dyfodol. Roedd yn gyfle i gysylltu ag eraill yn hytrach na thrwy gardiau busnes, i ystyried cyfleoedd go iawn a chlywed beth oedd yn wirioneddol hybu arloesedd y tu ôl i'r llenni.
Cynrychioli Cymru yn Japan Health
Ar ôl diwrnod hir ond cynhyrchiol iawn yn Expo’r Byd, treuliwyd y tri diwrnod nesaf yn Japan Health, arddangosfa gofal iechyd ryngwladol fawr yn Osaka.
Gyda phedwar cwmni arall o Gymru, roeddem yn falch o gynrychioli Cymru ar y stondin bwrpasol. Roedd ein stondin ni wedi'i lleoli yn un o ddwy neuadd arddangos enfawr oedd yn llawn cwmnïau arloesol o bob cwr o'r byd. Roedd cymysgedd deinamig o fusnesau bach oedd yn cychwyn a chorfforaethau mawr, pob un yn arddangos technolegau a datrysiadau gofal iechyd arloesol.
Roedd yn ysbrydoledig gweld cymaint o bobl yn chwilio am ddatrysiadau newydd i heriau gofal iechyd heddiw, gan ei wneud yn brofiad gwirioneddol werthfawr ar gyfer rhwydweithio a dysgu am y datblygiadau diweddaraf sy'n siapio dyfodol iechyd. I mi, roedd yn gyfle gwych nid yn unig i arddangos ein gwaith ond i gysylltu â phobl angerddol sy'n gwthio ffiniau. Manteisiais ar y cyfle hefyd i grwydro o gwmpas yr arddangosfeydd. Un o fy ffefrynnau i oedd system robotig i helpu pobl sydd wedi colli braich i allu symud unwaith eto gyda braich robotig artiffisial. Roedd gweld datblygiad arloesol fel yna yn agos yn ysbrydoledig ac yn ffordd bwerus i’n hatgoffa o sut y gall technoleg newid bywydau mewn gwirionedd.
Cydweithredu rhyngwladol: cefnogi Myfyrwyr i Gyfarfod drwy Realiti Rhithwir - Caerdydd-Tokyo
Ar ôl tri diwrnod anhygoel yn Japan Health, ymlaen â ni wedyn i Tokyo. Yn ddiweddar, mae Goggleminds wedi cefnogi myfyrwyr i gyfarfod drwy realiti rhithwir (VR) rhyngwladol rhwng Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Tokyo. Roedd y myfyrwyr nyrsio a'n partneriaid mor falch ag yr oeddwn i i gyfarfod wyneb yn wyneb o'r diwedd. Daeth y digwyddiad hwn â myfyrwyr nyrsio o bob prifysgol ynghyd drwy gyfrwng VR a hwyluswyd gan Goggleminds, i ddysgu am ddiwylliant ei gilydd yng nghyd-destun darparu gofal iechyd. Cawsom gyfarfod ein partneriaid o Japan wyneb yn wyneb ar ôl misoedd o gydweithio ar-lein - mae rhywbeth arbennig iawn am y sgyrsiau cyntaf hynny wyneb yn wyneb. Roedden nhw’n fwy agos atoch, yn fwy hamddenol, a’r ddwy ochr yn llawn chwilfrydedd. Fe wnaethon ni gyfnewid straeon, trafod effaith y cyfnewid rhwng myfyrwyr, a dechreuwyd archwilio sut y gallem adeiladu ar y momentwm hwn ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Roedd yn teimlo fel dechrau rhywbeth hyd yn oed yn fwy.
Drannoeth ar ôl ffarwelio â phawb, roeddwn yn ôl ar y trên bwled ar fy ffordd yn ôl i Osaka i hedfan adref. Wrth i mi wneud fy ffordd yn ôl i'r DU, roeddwn i'n teimlo'n hynod falch o'r hyn yr oedd Goggleminds wedi'i gyflawni ac yn gyffrous am yr hyn sydd o'n blaenau. O arddangos ein technoleg ar y llwyfan byd-eang i gryfhau partneriaethau a chael eich ysbrydoli gan y datblygiadau arloesol o'n cwmpas, roedd y daith yn ein hatgoffa pam rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud.
Tynnodd y daith sylw hefyd at gryfder ecosystem arloesi Cymru a sut mae gan rywfaint o'r gwaith anhygoel sy'n deillio o’n gwlad y potensial i newid bywydau a gwella gofal iechyd ar lwyfan byd-eang. Mae yna bethau hynod gyffrous yn dod o Gymru ac mae'n anrhydedd bod yn rhan o hyn.
Roedd mwy i Japan Health 2025 a'n hamser yn Tokyo na dim ond busnes, roedd a wnelo â chysylltiad, chwilfrydedd, a'r uchelgais a rennir i lunio dyfodol gwell ym maes gofal iechyd. Fe wnes i adael gyda syniadau newydd, ffrindiau newydd, ac ymdeimlad newydd o bwrpas. Sayonara am y tro, ond nid am hir.
Dysgwch fwy am un o brosiectau VR Goggleminds yma, neu cewch ragor o wybodaeth ar wefan Goggleminds.