Roedd ein Digwyddiad Data Mawr, a ddarparwyd mewn partneriaeth ag Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, Yr Adnodd Data Cenedlaethol a Grŵp Dadansoddeg Uwch Cymru, yn gyfle gwych i glywed tystiolaeth bwerus o integreiddio data yn trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol, cyngor ymarferol ar ddefnyddio data yn ein gwaith bob dydd, ac ysbrydoliaeth ar sut i feddwl yn wahanol am ddata.
Yn ddealladwy, mae data mawr yn bwnc llosg ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni eisoes yn gweld effaith anhygoel defnyddio data i drawsnewid prosesau ym maes gofal iechyd, gan greu dangosfyrddau o wybodaeth amser real sy’n galluogi timau gofal i roi datrysiadau iechyd ar waith gartref, a symleiddio gwasanaethau i ddarparu gofal lle mae ei angen fwyaf.
Ar 29 Mawrth 2023, daeth rhai o’r prif ffigurau sy’n defnyddio data ynghyd yn Stadiwm Principality Cymru ar gyfer ein Digwyddiad Data Mawr, mewn partneriaeth ag Yr Adnodd Data Cenedlaethol a Grŵp Dadansoddeg Uwch Cymru. Drwy gydol y dydd, clywsom sut i ddefnyddio data mawr yn ymarferol i oresgyn heriau a chreu datrysiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd hyn yn amrywio o nodi cysylltiad rhwng lefelau llygredd aer lleol a phobl sy’n cael eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys gyda chymhlethdodau anadlol, i ddefnyddio Google Cloud fel llwyfan i glinigwyr optometreg nodi arferion gorau ac, o ganlyniad, lleihau derbyniadau i’r ysbyty 55%.
Sylwais ar dair thema gref a oedd yn gyson drwy gydol y dydd:
- Cynnal dull sy’n canolbwyntio ar bobl;
- Yr angen i nodi’n glir yr heriau sy’n gysylltiedig â mabwysiadu datrysiadau effeithiol sy’n seiliedig ar ddata;
- Pwysigrwydd blaenoriaethu’r materion rydym yn eu hwynebu, gan gymryd camau bach i ddysgu ac addasu a fydd yn sbarduno newidiadau mwy yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Gêm rifau yw data gyda phobl yn ganolog iddi.
Fe wnaeth Alison Knight, Arbenigwr Preifatrwydd (Data a Deallusrwydd Artiffisial) gyda’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, ein hatgoffa bod gan ddata bwrpas sy’n canolbwyntio ar bobl bob amser. O ganlyniad, mae angen i ni fuddsoddi ein hamser mewn gwaith ymchwil o ansawdd uchel sy’n sbarduno canlyniadau sy’n cael effaith fawr. Mae canlyniad hyn yn ddeublyg. Yn gyntaf, rydym yn sicrhau datrysiadau sy’n gallu cael effaith hirdymor ond, yn ail, rydym yn meithrin ymddiriedaeth gyda’r genedl bod ein hymchwil yn gweithio.
Yn y bôn, mae data yn adrodd stori am fywydau pobl fel naratif o ddigwyddiadau a gofnodir yn ystadegol. Mae angen bod yn sensitif, ac mae gennym gyfrifoldeb i gyfathrebu’n agored â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth ynghylch sut byddwn yn defnyddio eu data – gan ddod â nhw ar y daith gyda ni.
Mae Dr Zoe Webster, Cyfarwyddwr Datrysiadau Data a Deallusrwydd Artiffisial yn BT, yn dweud bod angen i ni wybod pwy sy’n cael eu heffeithio gan benderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata, gan fod hyn yn dylanwadu ar sut rydym yn defnyddio data a’n strategaeth gyfathrebu. Mae angen i ni deilwra gwybodaeth dryloyw i bawb yr effeithir arnynt, boed hynny’n glinigwyr, yn gleifion, yn ddefnyddwyr gwasanaeth, neu’n gymunedau, heb wanhau’r neges rydym ni’n ei rhannu. Mae hyn yn ein galluogi i feithrin ymddiriedaeth gyda’r genedl wrth i ni wella’r systemau sydd o fudd iddynt.
Mae heriau yn gatalydd ar gyfer cydweithio.
Mae cydweithio’n bwysig ond gall fod yn heriol yn ymarferol. Gwnaeth Covid-19 ganiatáu i ni weithio mewn partneriaeth drwy ddod ag arweinwyr ac arbenigwyr data at ei gilydd. Mae un wers bwysig yn deillio o hyn: mae angen i ni nodi’r broblem er mwyn sbarduno cydweithio. Mae gwybod beth rydym yn defnyddio data ar ei gyfer yn rhoi ystyr iddo yn awtomatig.
Fe wnaeth Mike Emery, Prif Swyddog Digidol ac Arloesi Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ein hatgoffa ein bod, wrth wneud hyn, yn dechrau deall pa ddata sydd ei angen arnom a sut mae ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer ymyrryd ac atal yn gynnar. Gallwn ragweld heriau iechyd yn y dyfodol, rhoi datrysiadau ar waith i osgoi gwaethygu’r problemau presennol, a helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ar hyn o bryd, mae gennym lawer o ddata ar gael i ni heb unrhyw wybodaeth glir am beth i’w wneud ag ef. Mae nodi’r union heriau rydym ni’n eu hwynebu yn ein helpu i wybod pa setiau data i’w defnyddio i ddatrys problemau.
Fodd bynnag, ni all data ddatrys ei broblemau ei hun. Roedd Mike Emery hefyd yn argymell bod angen i ni greu isadeiledd sy’n seiliedig ar ddata a sicrhau bod gennym y bobl iawn yn yr ystafell i ddehongli’r data gyda’n harweinwyr allweddol.
Roedd y drafodaeth panel, o dan arweiniad Louisa Nolan, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymhelaethu ymhellach ar bwyntiau allweddol drwy gydol y dydd. Yn bresennol roedd Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Duncan Robertson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Clinigol ar Ehangu Mynediad at Hyfforddiant Arbenigol, gyda'r ddau ohonynt yn pwysleisio’r angen i fod yn uchelgeisiol o ran cofleidio data, gyda chydweithwyr yn gweithredu yn eu meysydd ar gyfer creu’r newid. Ar ben hynny, roedd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn argymell dylunio’n fwy manwl er mwyn gwella profiad defnyddwyr fel bod arweinwyr ac ymarferwyr yn gallu cael y wybodaeth iawn yn hawdd ar yr adeg iawn. Does dim rhaid i ddata fod yn gymhleth – ac os nad yw’n gymhleth, bydd ein hymarferwyr a’n harweinwyr eisoes yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda’r data.
Mae camau bach yn arwain at newidiadau mawr.
Yn ystod y sesiwn panel, fe wnaeth Rhidian Hurle, Cyfarwyddwr Meddygol Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ein hatgoffa bod y trawsnewid yn deillio o lawer o newidiadau bach a chyson. Mae gwneud hyn yn creu sylfaen gadarn a chyson o newid sy’n cael ei yrru gan ddata ac sy’n cynnal amgylchedd sy’n cael ei yrru gan ddata.
Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu canfod data o ansawdd da a deall yn well pa set o ddata i’w defnyddio, fel yr eglurwyd gan yr Athro Jeremy Wyatt, Athro Emeritws Gofal Iechyd Digidol ym Mhrifysgol Southampton. Gallwn ddeall ffyrdd newydd o weithio, prosesau safonol a darparu systemau cyffredinol ar gyfer defnyddio, dehongli a gweithredu data.
Roedd y Digwyddiad Data Mawr yn gyfraniad bach a allai arwain at newidiadau mawr drwy ysbrydoli arweinwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac annog cydweithio. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau graffu yn onest ar bryderon a rhwystrau a nodi’r hyn sydd ei angen er mwyn symud ymlaen.
Yr ysbrydoliaeth fwyaf o’r diwrnod oedd gwybod bod harneisio data ar gyfer datrysiadau eisoes yn digwydd a, gan fod yn optimistaidd ar sail y dystiolaeth o’r digwyddiad, mae gan ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol lawer o botensial i newid yn gyflym dros y blynyddoedd nesaf.
Mae rhaglen Yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yn fenter strategol, sy’n helpu i drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru drwy sbarduno defnydd ar y cyd o ddata. Gallwch ddarllen fwy am effaith y rhaglen a chael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy fynd i wefan NDR.