Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn y blog hwn, mae Cydlynydd y Partneriaethau Leanne Price yn sôn wrthym am Wobrau’r Gwobrau 2025, sy’n dathlu gwaith ar draws sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Debbie Harvey, Leanne Price and Colette Buckley at the Accolades 2025

Braint oedd mynychu Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru ar 1 Mai 2025, digwyddiad sy’n cydnabod ac yn dathlu'r gwaith arbennig sy’n digwydd ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Cafodd y seremoni eleni ei chynnal gan Garry Owen, y cyflwynydd radio a theledu, a Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru. Roedd yn ddiwrnod llawn o ddathlu a chydnabod gwaith allweddol gofalwyr yng Nghymru.

Cafodd dros 125 o weithwyr cymdeithasol a phrosiectau eu henwebu am wobr, a chyrhaeddodd 11 prosiect a 7 unigolyn y rownd derfynol yn y chwe chategori. Cafodd chwe enillydd eu gwobrwyo yn y seremoni eleni.

Enillwyr Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2025

Teuluoedd yn Gyntaf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn y categori ‘Adeiladu Dyfodol Disglair i Blant a Theuluoedd’ - noddir gan Hugh James

Recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol Plant yn Rhyngwladol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y categori ‘Datblygu ac Ysbrydoli’r Gweithlu - noddir gan BASW Cymru

Avril Bracey, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir Gâr yn y categori ‘Gwobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig’ - noddir gan Practice Solutions

Cefnogi Pobl i Gyflawni’r Hyn sy’n Bwysig, Tîm Dilyniant Cyngor Sir y Fflint yn y categori ‘Gweithio yn unol ag Egwyddorion ymarfer sy’n Seiliedig ar Gryfderau’

Cysylltu Caerfyrddin yn y categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ - noddir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Sarah Sharpe, Gofalwr Plant Cofrestredig yn Poppins Daycare ym Mro Morgannwg yn y categori ‘Gwobr Gofalwn Cymru’ - noddir gan Gofalwn Cymru

Pleser o’r mwyaf oedd noddi’r gwobrau eto eleni a gweld Peter Max, aelod o’n Bwrdd yn cyflwyno’r wobr yn y categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth’. Mae gweithio mewn partneriaeth yn gallu cryfhau'r sector, annog sefydliadau i arloesi’n effeithiol, a gwella llesiant cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Llongyfarchiadau i Cysylltu Sir Gâr am ennill y wobr hon. Mae’r prosiect yn bartneriaeth sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Gâr, a’r nod yw helpu preswylwyr i fyw a heneiddio’n well.

Roedd neges yr enillwyr a phawb a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn gyson ac yn glir trwy'r dydd, a chafwyd cipolwg ar eu brwdfrydedd at eu gwaith, yn ogystal â'r rhan allweddol maen nhw’n ei chwarae wrth greu newid gwirioneddol i fywydau’r rhai maen nhw’n eu cefnogi. Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr ac i’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni.

Rhagor o wybodaeth am enillwyr gwobrau 2025 yma.