Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn noddi Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2025, sy’n dathlu cyfraniadau eithriadol i ofal cymdeithasol ledled Cymru.

Mae Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn dathlu gwaith amhrisiadwy timau, grwpiau, sefydliadau ac unigolion sy’n cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng Ngwesty Mercure Cardiff Holland House ar 1 Mai 2025.
Mae’r categorïau gwobrau yn cynnwys:
Categorïau ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
- Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
- Datblygu ac ysbrydoli'r gweithlu
- Gweithio mewn partneriaeth
- Gweithio i egwyddorion arfer sy'n seiliedig ar gryfderau
Categorïau ar gyfer gweithwyr unigol
- Gwobr arweinyddiaeth ysbrydoledig
- Gwobr Gofalwn Cymru
Eleni, rydym yn falch o noddi’r categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth’, sy’n amlygu rôl hollbwysig cydweithredu wrth ysgogi gwelliannau ystyrlon mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i helpu ein partneriaid mewn gofal cymdeithasol i ddarparu atebion arloesol sy'n mynd i'r afael â'u hanghenion mwyaf argyfyngus.
Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydym yn falch o gefnogi Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru unwaith eto, gan noddi’r categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth’. Mae cydweithredu wrth wraidd y gwaith o ysgogi arloesedd effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau y gall syniadau a dulliau newydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Drwy hyrwyddo partneriaethau, gallwn helpu i gryfhau’r sector a gwella llesiant cymunedau ledled Cymru.”
Dywedodd Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau:
“Rydyn ni’n falch iawn o noddi’r categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2025. Mae’r wobr hon yn dathlu llwyddiannau ac ymroddiad anhygoel y rheini sy’n cydweithio i sbarduno newid cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol. Drwy gydnabod y cyfraniadau eithriadol hyn, rydyn ni’n anrhydeddu’r ymrwymiad a’r arloesi sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau anhygoel pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr yn y seremoni Wobrwyo.”
Edrychwn ymlaen at ddathlu llwyddiannau rhyfeddol pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr yn y seremoni Wobrwyo.