Mae pob stori newyddion dda yn esbonio pwy, beth, pam, ble a phryd.
Fi yw Cadeirydd y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a dwi am ateb y cwestiynau hynny am y Comisiwn i gychwyn ein cyfres o flogiau sy’n amlinellu ble rydyn ni arni ac ar ba drywydd ydyn ni o ran deallusrwydd artiffisial (AI) ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Pryd
Ym mis Ionawr 2023, pan ‘nes i ddechrau yn fy swydd fel Prif Swyddog Digidol ac Arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru (swydd yr oeddwn i’n ei chyflawni ar y cyd â bod yn Brif Swyddog Digidol yn GIG Cymru), y cwestiwn oeddwn i’n ei gael amlaf oedd ‘Beth yw AI a beth dylen ni fod yn ei wneud am y peth?’.
Fy marn i oedd y byddai AI yn gallu trawsnewid ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ond bod angen i ni gael gwell dealltwriaeth o’i bosibiliadau a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu ymddiried ynddo pan fydd ar waith. Dydy fy marn heb newid ac ym mis Hydref 2023, roeddwn i’n falch o helpu i lansio’r Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn gwneud hynny.
Pwy
Mae cydweithredu wedi’i wreiddio yng ngweledigaeth a chenhadaeth y Comisiwn. Cafodd ei ffurfio i gasglu ynghyd yr holl bobl addas o’r meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, gwyddorau bywyd, llywodraeth a’r byd academaidd i fod yn ddylanwad cryf ar y broses o fabwysiadu AI yn ddiogel ac yn foesegol. Rydyn ni’n manteisio ar arbenigedd o bob cwr o’r sector, ac ar leisiau ac arbenigwyr annibynnol o’r tu allan i Gymru, i ddysgu o brofiadau pobl eraill.
Beth (fyddwn ni’n ei wneud)
Bydd y Comisiwn yn darparu arweiniad, safonau a chyngor clir ynghylch yr arferion gorau wrth ddefnyddio AI ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Ein prif flaenoriaethau yw mapio’r ecosystem bresennol, nodi cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau ac ymyriadau wedi’u galluogi gan AI, a galluogi AI diogel, cyfrifol a moesegol.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu sefydlu gweithgorau amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar feysydd fel diagnosteg, rheoleiddio a safonau. Rydyn ni’n nodi’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt, ac yn ystyried sut gallwn ni hybu’r arferion hyn yn y dyfodol. Rydyn ni eisoes wedi bod yn gwerthuso’r safonau a’r canllawiau perthnasol eraill sydd wedi cael eu llunio mewn rhannau eraill o’r DU er mwyn nodi lle dylen ni eu rhoi ar waith yng Nghymru.
Ble
Mae’n bwysig mabwysiadu dull gweithredu penodol o ran defnyddio arloesi yng Nghymru. Rydyn ni yn wynebu rhai heriau fel cenedl o ran mabwysiadu AI ar raddfa fawr mewn rhai meysydd.
Yn bennaf, mae angen cryfhau ein seilwaith digidol. Bydd safonau cyffredin a rhagor o seilwaith yn y cwmwl ar gyfer iechyd yn hollbwysig er mwyn datblygu atebion yn gyflym.
Yn ail, rydyn ni’n genedl fach gyda setiau data cymharol fach, er ein bod yn gwneud cynnydd rhyfeddol yn y maes hwn. Rydyn ni’n lwcus iawn bod Prifysgol Abertawe yn gartref i gronfa ddata SAIL, a bydd ein Hadnodd Data Cenedlaethol yn gam pwysig arall ymlaen. Ond dwi’n dweud yn aml bod gwell data yn golygu gwell gofal, sy’n golygu gwell bywyd. Mae hyn yn arbennig o wir wrth hyfforddi modelau AI, felly bydd rhaid i ni hefyd weithio gyda setiau data mawr a gyda sefydliadau academaidd mawr yma yng Nghymru, ac mewn rhannau eraill o’r DU.
Yn olaf, bydd angen newid diwylliant i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd arloesi. Gallwn fod yn fwy uchelgeisiol ac arloesol yng Nghymru. Yr unig beth sy’n ein dal ni’n ôl ydy ni ein hunain, a dwi’n gobeithio bydd y Comisiwn yn helpu i fagu’r hyder y gallwn ni yng Nghymru fod yn arloesol iawn mewn ffordd gyfrifol iawn.
Pam
Fel erioed, mae pethau’n mynd yn ddiddorol iawn wrth i ni ofyn ‘Pam?’.
Hyd yma, mae delwedd llawer ohonom ni o AI yn deillio o ddiwylliant poblogaidd. Mae ffilmiau ffugwyddonol yn portreadu AI fel technoleg sydd â’i bryd ar reoli’r byd, felly mae’n ddealladwy bod pobl yn wyliadwrus.
Ond mae’r achosion defnydd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer AI ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn hynod gyffrous ac yn edrych yn addawol iawn o ran creu newid cadarnhaol.
Y gallu i AI gyflawni tasgau gweinyddol sylfaenol i roi mwy o amser i staff. Y potensial i ddadansoddi delweddau gydag AI er mwyn gallu cael diagnosis cyflymach o diwmorau canseraidd.
Yn ogystal â meysydd mwy datblygedig, fel y gwaith mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn ei wneud i fapio genomeg ar gyfer cynlluniau triniaeth canser personol. Byddai dadansoddi cyflymach, mwy cymhleth drwy AI yn gallu bod yn allweddol ar gyfer cyflymu datblygiadau fel y rhain.
Wrth gwrs mae heriau moesegol mawr i’w hystyried.
Roedd rhai o’r pryderon cynnar ynglŷn ag AI yn seiliedig ar y ffaith fod modelau’n cael eu hyfforddi ar setiau data cyfyngedig iawn. Yn lwcus, mae amrywiaeth data hyfforddi yn fater sy’n cael mwy o sylw o lawer gennym ni bellach, ond mae’n dal yn ffactor risg. Yn yr un modd, rydyn ni’n gwybod bod diffyg amrywiaeth yn y diwydiant technoleg – gan gynnwys y rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu adnoddau AI – yn broblem. Byddwn yn ystyried hynny yn y Comisiwn AI ac o’n hochr ni, rydyn ni’n canolbwyntio ar gynnwys nifer mawr o wahanol gefndiroedd yn y sgwrs.
Ar wahân i ddatblygu adnoddau, ystyriaeth foesegol arall yw sut rydyn ni’n hyfforddi pobl i ddefnyddio AI. Yn debyg i ddefnyddio satnav, dylai neb ddilyn AI yn ddall, a bydd angen archwiliadau priodol. Hefyd bydd angen i ni ystyried a fyddai AI yn gallu ein hannog i ymyrryd yn rhy fuan yn nhriniaeth claf, a sut gallai hynny effeithio ar fywyd pobl.
Mae’r rhain yn gwestiynau mawr a phwysig, a bydd gan aelodaeth eang y Comisiwn rôl hollbwysig yn rhoi sylw beirniadol i syniadau ac yn herio ffyrdd o feddwl.
Mae gallu technoleg, gwyddoniaeth a data i drawsnewid a moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus er budd pobl a chymunedau yn agos iawn at fy nghalon. Mae AI yn creu cyfleoedd enfawr yn hynny o beth.
Bydd angen canllawiau priodol ar gyfer gwahanol achosion defnydd. Bydd y protocolau ar gyfer defnyddio AI i drosglwyddo data ariannol yn wahanol i’r rhai ar gyfer defnyddio AI mewn penderfyniadau clinigol. Beth bynnag yw’r defnydd, ein nod ni yw tanio arloesedd gan ddangos ar yr un pryd sut gallwn ni wneud hynny mewn ffordd ddiogel sydd dan reolaeth.
Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am AI ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, e-bostiwch helo@hwbgbcymru.com i gofrestru ar gyfer cylchlythyr y Comisiwn AI.