Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Roedden ni’n falch iawn o fod yn bresennol a chael arddangos yng Nghynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol 2025 yn Llandudno. Man lle mae arweinwyr, ymarferwyr, academyddion, y sector preifat a'r trydydd sector yn dod at ei gilydd i rannu, herio ac ysbrydoli.  

LSHW Colleagues at the National Social Care Conference

Dros ddau ddiwrnod, roedd y digwyddiad yn cynnig nid yn unig arddangosiad o arloesedd, ond cyfle gwirioneddol i fyfyrio ar daith y sector a'i gyfeiriad yn y dyfodol. Roedd cymaint o siaradwyr, gweithdai a sgyrsiau ysbrydoledig sydd wedi gwneud i mi deimlo'n gyffrous am ddyfodol gofal cymdeithasol a'r manteision y gall arloesi eu cynnig.  

O'r cychwyn cyntaf, cafodd y naws ei gosod gan Claire Marchant, Cadeirydd ADSS Cymru, a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd cyflwyniad Claire yn cofnodi'r newidiadau mewn gofal cymdeithasol ledled Cymru dros y degawd diwethaf, y cyfnod digynsail, a'r newidiadau gwleidyddol ac economaidd sydd ar y gorwel. Er gwaethaf yr heriau hyn, fe wnaeth Claire ein hatgoffa mai ein hased mwyaf yw ein gweithlu, gan ddal gafael ar y gwerthoedd rydyn ni'n eu rhannu o dosturi, urddas a chysylltiad dynol, a chroesawu arloesedd a fydd yn gwneud ein sector yn gryf, yn gynaliadwy ac yn addas i’r dyfodol.  

“Mae ar uchelgais angen pobl a phartneriaethau sy'n sicrhau canlyniadau, oherwydd rhaid i’r gwaith o integreiddio wasanaethu pobl, nid systemau; gan feithrin perthnasoedd adeiladol a gweithio'n ddiflino i symud ein sector ymlaen. Pan fydd gennym bobl a thechnoleg sydd â phwrpas, nid darparu gwasanaethau yn unig ydyn ni, rydyn ni'n meithrin Cymru sy’n wydn ac yn cynhwysol, i bawb fyw, gofalu am eraill a chael ymdeimlad o berthyn.” 

Lansio Fframwaith Digidol mewn Gofal Cymdeithasol Cymru 

Un o'r uchafbwyntiau, a'r negeseuon allweddol drwy gydol y gynhadledd, oedd lansio Fframwaith Digidol mewn Gofal Cymdeithasol (DiSC) Cymru, dan arweiniad Lindsey Phillips, Prif Swyddog Digidol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r fframwaith yn bartneriaeth genedlaethol sydd wedi'i chynllunio i helpu sefydliadau gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddefnyddio pŵer digidol, data a thechnoleg i wella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, eu teuluoedd, gofalwyr di-dâl, a'r gweithlu. Mae'n cynnwys pedair colofn: Newid Mawr, Syniadau Gwych, Pethau Pwysig, a Datblygu Gwybodaeth, ac mae'r rhain yn darparu map ar gyfer cydweithio a chydgynhyrchu a fydd yn hanfodol wrth i'r sector symud yn ei flaen. Roedd y sgyrsiau ynghylch aeddfedrwydd digidol, deallusrwydd artiffisial ac arloesi cynhwysol yn tynnu sylw at y ffaith nad digideiddio gofal cymdeithasol yn unig yw'r nod, ond ei wneud yn ddyngarol.  

Adeiladu gweithlu sy'n barod yn ddigidol 

Roedd gweithdy Gofal Cymdeithasol Cymru, dan arweiniad Aimee Twinberrow a Stephanie Griffith, yn canolbwyntio ar y sgiliau arwain sydd eu hangen ar gyfer gweithlu sy'n barod yn ddigidol. Roedd yr Adroddiad Gofal Cymdeithasol diweddar yn dangos, er bod 55% o staff yn teimlo'n hyderus yn cefnogi pobl gydag offer digidol bob dydd, bod bylchau o hyd mewn sgiliau allweddol o ran dealltwriaeth dechnegol a deallusrwydd artiffisial.   

Roedd y gweithdy'n edrych ar sut i gefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol, gan bwysleisio'r angen i ddeall y dirwedd bresennol. Tynnwyd sylw at yr asesiad aeddfedrwydd digidol fel cam ymarferol tuag at fireinio sgiliau'r gweithlu. Mae cyhoeddi adnodd asesu aeddfedrwydd digidol Gofal Cymdeithasol Cymru, a chanllaw deallusrwydd artiffisial, yn dangos cynnydd, ond mae hefyd yn ein hatgoffa bod ffordd i fynd o hyd. Fel y nododd Stephanie, mae hyder yn gostwng wrth wynebu heriau technoleg mwy cymhleth, ac mae Deallusrwydd Artiffisial yn parhau i fod yn faes lle mae staff yn teimlo'n llai hyderus. Roedd y neges yn glir, mae cefnogaeth a datblygiad parhaus yn hanfodol i rymuso'r gweithlu. 

Grymuso annibyniaeth 

Cefais gyfle i gyflwyno gweithdy gyda Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac Olivia Howells, Arbenigwr Cyllid Grant, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Dydy 50% o bobl ddim yn cymryd eu meddyginiaethau yn unol â'r presgripsiwn, sy'n arwain at fethu dosau a phroblemau iechyd. Yn y gweithdy, fe wnaethom gyflwyno taith prosiect y dyfeisiau YourMeds a Pivotell a roddwyd ar waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi'u dylunio i helpu defnyddwyr i reoli a chymryd eu meddyginiaeth yn gywir, aros yn annibynnol, ac aros gartref am fwy o amser. 

Roedd rhai o ganlyniadau allweddol y prosiect yn taro tant gyda phobl yn yr ystafell. Roedd y rhain yn cynnwys llai o dderbyniadau i'r ysbyty, llai o oriau gofal cartref, gwell effeithlonrwydd tîm, mwy o gydymffurfio â meddyginiaethau, a gwell llesiant i ddefnyddwyr. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar gael adborth parhaus gan ddefnyddwyr, eu teuluoedd/gofalwyr di-dâl a staff, gan greu dyluniad a chydweithrediad wedi'u cyd-gynhyrchu sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws rhanddeiliaid, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, a'r Ganolfan Derbyn Larwm Teleofal. Fe wnaethom bwysleisio y dylai offer digidol gynorthwyo pobl, nid eu disodli.  

Mae parhau i rannu gwybodaeth am y prosiect ledled Cymru yn annog trafodaeth ynghylch sut y gall unigolion eraill ddefnyddio dyfeisiau meddyginiaeth yn eu gwasanaethau eu hunain.  Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'r prosiect yn parhau i ehangu, gan weithio gyda llwybrau eraill fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd partneriaethau â fferyllfeydd cymunedol a rhanddeiliaid eraill. Mae dull cydweithredol yn hollbwysig. Mae gweithio a chysoni drwy integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant mewn ffordd mor gydlynol, yn brawf ei bod yn bosibl gweithio ar y cyd i wella bywydau a newid canlyniadau.  

Trawsnewid hyfforddiant drwy Realiti Rhithwir 

Cefais gyfle i gyflwyno ail weithdy yn cefnogi Azize Naji, Prif Swyddog Gweithredol/Sylfaenydd, Goggleminds, a Sheiladen Aquino, Therapydd Iaith a Lleferydd Arweiniol Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan arddangos y modiwl hyfforddiant Realiti Rhithwir i staff cartrefi gofal.  Mae'r efelychiad trochi hwn yn fwy na dim ond defnyddio technoleg rithwir a throchol, mae'n ymwneud â phobl, a sut y gallwn ddarparu gwell hyfforddiant i'n gweithlu gofal cymdeithasol. 

Mae prinder staff, bylchau mewn hyfforddiant, ac oedi digidol yn rhwystrau gwirioneddol, ond drwy gyd-ddylunio gyda staff cartrefi gofal, cynorthwywyr therapi, a gweithwyr iechyd proffesiynol, creodd y tîm adnodd sydd â sail glinigol ac sy'n berthnasol mewn bywyd go iawn. Gan gydnabod bod llawer o staff yn poeni am dechnoleg, roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar gynnig hyfforddiant nad yw'n fygythiol ond yn hytrach yn pontio'r bwlch rhwng gwybodaeth a chymhwyso ymarferol. Drwy ddefnyddio hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu, gall staff ymarfer senarios realistig, fel ymateb i asesiadau llyncu rhithwir, neu reoli camgymeriadau wrth feddyginiaethu, gan helpu staff i fagu hyder a chymhwysedd.  

Roedd y dull cydweithredol ar draws diwydiant, iechyd, y byd academaidd ac awdurdodau lleol yn allweddol i yrru'r rhaglen yn ei blaen. Nododd staff fwy o hyder, llai o straen, a mwy o barodrwydd ar gyfer asesiadau integredig o bell. Fe wnaethom hefyd rannu cynlluniau cyffrous ar gyfer ehangu yn y dyfodol - gan gyflwyno'r model ar draws Pen-y-bont ar Ogwr ac ardaloedd eraill, fel atal codymau, a disgyblaethau eraill. Dangosodd y gweithdy y gall hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu bontio'r bwlch rhwng gwybodaeth a chymhwyso bywyd go iawn, gan wneud dysgu'n fwy diogel, yn fwy realistig ac yn ddiddorol yn emosiynol.  

Edrych tua’r dyfodol  

Wrth i'r gynhadledd ddirwyn i ben, roedd yn amlwg bod cydweithio, arweinyddiaeth a phartneriaeth yn allweddol i drawsnewid digidol. Fel y pwysleisiodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, "Ni ellir cyflawni uchelgais ar ei ben ei hun." Bob dydd, mae gweithredoedd ac angerdd y gweithlu yn siapio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.  

Mae myfyrdodau #CGGC25 yn ein hatgoffa bod dyfodol gofal cymdeithasol yn cael ei lunio nid yn unig gan bolisi neu dechnoleg, ond hefyd gan angerdd, ymrwymiad a chreadigrwydd y rhai sy'n gweithio ynddo. Roedd hyn yn amlwg drwy gydol y gynhadledd, o lansio Fframwaith DiSC Cymru a datblygu sgiliau digidol i weithredu offer arloesol fel peiriannau dosbarthu meddyginiaethau, Hyfforddiant Realiti Rhithwir, a llawer mwy.  

Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, yr her yw parhau i feithrin perthnasoedd adeiladol a manteisio ar gyfleoedd i gysylltu, ysbrydoli a bod yn ddewr i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella dyfodol ein gweithlu a'r bobl yn ein cymunedau. Mae'r daith yn parhau, ond mae'r gynhadledd wedi dangos, gyda dewrder a chydweithrediad, y gall gofal cymdeithasol yng Nghymru symud ymlaen yn bwrpasol, gan adeiladu system sy'n wir adlewyrchu'r gwerthoedd sydd gennym.  

Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma.