Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio mewn iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, y byd academaidd neu lywodraeth yn cydnabod nad yw arloesi’n rhywbeth syml! Bydd y sawl sydd wedi dilyn y llwybr hwnnw’n ddigon cyfarwydd â’r rhwystrau: ofni mentro, cam-alinio blaenoriaethau neu rwydweithiau traws-sector cyfyngedig rhag bwrw ymlaen â phrosiectau. 

Arloesi

Byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio mewn iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, y byd academaidd neu lywodraeth yn cydnabod nad yw arloesi’n rhywbeth syml! Bydd y sawl sydd wedi dilyn y llwybr hwnnw’n ddigon cyfarwydd â’r rhwystrau: ofni mentro, cam-alinio blaenoriaethau neu rwydweithiau traws-sector cyfyngedig rhag bwrw ymlaen â phrosiectau. 

Mae sefydliadau, ymchwil ac adnoddau a all helpu rhai sy’n cychwyn neu sydd ar ganol eu siwrnai arloesi. Fodd bynnag, gyda chymaint o wybodaeth ar gael, lle mae dechrau? Y llynedd, mi fues i’n gweithio i Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru ac ystod o arweinyddion syniadaeth traws-sector mewn ymdrech i geisio gwneud y broses hon yn haws. 

Y canlyniad yw adnodd Cyflawni Arloesedd, sydd â’r nod o helpu’r sawl sy’n dymuno arloesi yng Nghymru drwy gynnig gwybodaeth a’u cyfeirio mewn ffordd hygyrch. Mae’n cynnwys tystiolaeth hawdd ei darllen, adolygiadau polisi, cyfeiriadur hwylus, a llu o flogiau, ynghyd â chynnwys allweddol arall. 

A beth wnes i ei ddysgu drwy fy ngwaith i helpu i’w ddatblygu? Wel, y neges a glywais dro ar ôl tro wrth siarad â’r sawl sy’n cynllunio neu’n ymgymryd ag arloesi oedd pwysigrwydd arweinyddiaeth, diwylliant a strwythur sefydliadol wrth arloesi. Yn bwysig iawn, roedd y rhain i gyd yn themâu allweddol yn Sicrhau Arloesedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: adolygiad naratif – adolygiad o dystiolaeth yn ymwneud ag arloesi ym mhob un o’r systemau allweddol hyn.  

Arweinyddiaeth, diwylliant a sefydliad 

Dysgais nad unig nod arloesi yw mwy o fentrau arloesol ond yn hytrach mwy o arloesi. Fel y dywed Chris Subbe, mae “sefydlu’r arfer o arloesi” yn hanfodol i sicrhau bod arloesi’n llwyddiannus. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad i arloesi ddydd ar ôl dydd, lle mae’r unigolyn a’r sefydliad yn ei wneud yn arfer drwy ei ymgorffori arferion gweithio beunyddiol. Mae Jo Ferris, Rheolwr Gweithrediadau Cymru gyda Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), wedi disgrifio rhywbeth tebyg yn ei blog, lle bu’n sôn am bwysigrwydd meddylfryd y sefydliad a’r unigolyn. Yma, mae wedi trafod sut y gall cymysgedd amrywiol staff ABPI helpu i hybu ffyrdd newydd ac arloesol o feddwl, ynghyd ag effaith y meddylfryd hwnnw ar ddiwylliant gweithio ac agweddau tuag at risg.  

Mi ddysgais hefyd nad yw sefydlu’r diwylliant yn rhwydd: mae angen tipyn o ymdrech ar sawl lefel. Mae’n ymwneud llawn cymaint â chrafu i ffwrdd ymddygiad o’r brig i lawr ac osgoi risgiau, yn enwedig yn y GIG, ag ydyw ag ychwanegu ffyrdd newydd o weithio. Yn fras, rhaid inni feddwl sut yr ydym yn rhedeg ein sefydliadau. I ddyfynnu Paul Batalden “Mae pob system wedi’u dylunio’n berffaith i gael y canlyniadau mae hi’n eu cael.” Os na wnawn ni newid ein systemau, wnawn ni byth ddysgu bod yn arloesol. Felly, rhaid i uwch arweinyddion ymrwymo i greu systemau lle gall arloeswyr ffynnu: sy’n cyfateb yn union i gyngor Trisha Greenhalgh ar yr hyn sy’n bwysig mewn arloesi.  

Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys cyfraniad Miles Burrows, Rheolwr Gyfarwyddwr, DU ac Iwerddon PerkinElmer, a roddodd bersbectif y diwydiant. Roedd ei syniadau’n dangos sut y gall atebolrwydd priodol o’r brig i lawr mewn sefydliad helpu i leihau risg a’r gogwydd cynhenid yn erbyn y newydd a newid.  

Adnodd arloesi ystyrlon  

Fel academydd sy’n gweithio mewn prifysgol, roeddwn yn awyddus nad oedd y gwaith hwn yn dweud wrth ymarferwyr beth i’w wneud. Yn hytrach, drwy wefan Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym wedi sicrhau bod tystiolaeth ac arferion da ar gael i gynulleidfa eang fel y gallant addasu gwybodaeth ar gyfer eu sefyllfaoedd eu hunain. Rydym wedi defnyddio cyfleoedd i drafod â rhanddeiliaid sut y byddant yn ei gymhwyso yn eu hymarfer eu hunain. 

Ar nodyn personol rwyf yn edrych ymlaen at barhau â’r sgyrsiau hyn gyda Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru a’u partneriaid, ac yn yr Academïau Dysgu Dwys. Mae’r cynnwys yn cael ei ddefnyddio yn yr amgylcheddau hyn fel y gallwn barhau i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth a rhannu profiad o’r hyn sy’n gweithio. 

Mae adnodd ar-lein Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dangos sut y gallwn arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol.