Prif Bartner y GIG

"Yr wyf yn hyderus y bydd Cymru, gyda system llai dameidiog yn y GIG a system integredig o gofnodion digidol a chleifion, mewn sefyllfa dda i arwain y ffordd." Yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ni yw prif bartner GIG Cymru. Rydym yn creu cysylltiadau amlddisgyblaeth ac aml-lefel ar draws y Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda Gweithrediaeth y GIG ac ysgogi cyfleoedd i greu cysylltiadau cryfach, craffach gyda’r diwydiant gwyddorau bywyd.

Cyflenwad o ddatrysiadau gwerth uchel ar gyfer y GIG

Rhan sylfaenol o’n gwaith yw cyflenwi cyflenwad o gynigion busnes gwerth uchel, ar gyfer y GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r cyflenwad hwn yn nodi cyfleoedd addawol drwy:

  • ymgysylltiad clinigol er mwyn nodi anghenion yn y system iechyd a gofal
  • canfod technolegau newydd ac arfer da yng Nghymru a thu hwnt
  • asesu cynigion gan brifysgolion a diwydiant.

Mae ein rôl yn cynnwys sicrhau bod datrysiadau newydd yn cyflwyno tystiolaeth glinigol a’u bod yn alinio â rheolau caffael y GIG. Un enghraifft o hyn yw Ecosystem Iechyd Digidol Cymru. Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, rydym wedi datblygu rhaglen yn gwahodd cwmnïau digidol i greu rhwydwaith o ddatrysiadau iechyd digidol i gefnogi’r GIG.

Mae pob llais yn y GIG yn cyfrif

Un o’r ffyrdd pwysicaf y gallwn helpu i wella’r GIG yw drwy wrando ar y GIG. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â’r saith Bwrdd Iechyd a’r tair Ymddiriedolaeth, a deall bod gan bob un ohonynt eu hanghenion a’u blaenoriaethau unigryw eu hunain.

Hoffem glywed gennych chi

P’un a ydych yn hyfforddi neu’n uwch feddyg ymgynghorol, os oes gennych syniad ar gyfer gwelliant, rhannwch ef gyda ni. Gwyddom y gall pethau bychain wneud gwahaniaeth mawr.

I wybod mwy am sut yr ydym yn cydweithio’n agos i ddeall anghenion y GIG yng Nghymru sydd heb eu diwallu, cysylltwch â hello@lshubwales.com