Cyfarfod â'n Siaradwyr
Archwiliwch y lleisiau sy'n siapio'r dyfodol yn y digwyddiad Edrych yn Fanylach ar Ddeallusrwydd Artiffisial i Wella Bywydau ar 11 Chwefror 2025.
Cyfarfod â'n Siaradwyr
Archwiliwch y lleisiau sy'n siapio'r dyfodol yn y digwyddiad Edrych yn Fanylach ar Ddeallusrwydd Artiffisial i Wella Bywydau ar 11 Chwefror 2025.
Mae Sian Lloyd yn ddarlledwraig ac yn gyflwynydd ac wedi dod yn wyneb cyfarwydd yn dilyn 25 mlynedd o yrfa ar y teledu a’r radio. Mae hi wedi cyflwyno rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys BBC Breakfast, Crimewatch Roadshow a Panorama, yn ogystal â gweithio fel uwch ohebydd ar newyddion cenedlaethol y BBC a World News.
Mae Sian wedi gweithio yn ystafelloedd newyddion y BBC yn Llundain, Salford, Birmingham a Chaerdydd ac mae wedi gwasanaethu fel Gohebydd Canolbarth Lloegr a Gohebydd Cymru, gan weithio’n bennaf i Newyddion 6 a 10 o’r gloch y BBC yn ogystal â rhaglen Today ar Radio 4, bwletin 1800 ar Radio 4 a rhaglenni ar draws Radio 5 Live.
Dechreuodd Sian ei gyrfa ar y teledu a’r radio yng Nghymru, gan gyflwyno BBC Wales Today a ‘Drive’ Radio Wales, ac mae hi wedi cyflwyno nifer o raglenni dogfen ar gyfer BBC Cymru Wales.
Cyn bod yn newyddiadurwr, hyfforddodd Sian fel cyfreithiwr yn Llundain a Hong Kong. Cafodd ei magu yn Wrecsam ac mae hi’n siarad Cymraeg.
Mae Mike wedi gweithio am dros 25 mlynedd ar draws y sector cyhoeddus yn arwain rhaglenni trawsnewid, gwella gwasanaethau, a dylunio a datblygu sefydliadol. Mae hyn wedi cynnwys rolau uwch yn y GIG ac mewn llywodraeth leol, yn ogystal â gweithio fel ymgynghorydd rheoli ar gyfer KMPG. Mae ei rôl bresennol yn cynnwys datblygu polisi, strategaeth a chyfeiriad strategol ar gyfer y system iechyd a gofal yng Nghymru. Mae Mike yn cael ei sbarduno gan y defnydd o ddata a’r technolegau a’r offer mwyaf effeithiol ar gyfer rheoli a datblygu iechyd y boblogaeth ym maes gofal cymdeithasol. Gyda deallusrwydd artiffisial, mae’n canolbwyntio ar sicrhau yr achubir ar y cyfle i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ac i ddarparu gwasanaethau er mwyn gwella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau.
Ymunodd Ian â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn 2018 fel Cyfarwyddwr Sicrwydd Rheoleiddio. Yn y swydd honno, mae’n gyfrifol am oruchwylio rhaglen Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o archwiliadau cydymffurfio diogelu data, asesu ceisiadau ar gyfer trosglwyddiadau rhyngwladol, a pharatoi ar gyfer y Bil Seiberddiogelwch a Chydnerthedd. Mae hefyd yn arwain cyfarwyddiaeth Seiber Rheoleiddio Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Rhan o bortffolio Ian yw arwain perthynas rhanddeiliaid Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth â'r sector iechyd. Mae'n cynrychioli Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar grŵp Gwirio a Herio NHS England ar gyfer y 'Federated Data Platform'.
Yn ystod y pandemig, bu’n arwain tîm traws-swyddfa gan ddarparu cyngor ac arweiniad i reolyddion data, Llywodraeth a’r sector iechyd ar faterion fel profi ac olrhain, ap COVID, a chyflwyno brechlynnau.
Cyn ymuno â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, bu Ian yn gweithio ym maes rheoleiddio economaidd y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr a maes rheoleiddio gwasanaethau proffesiynol yn y sectorau cyfreithiol ac eiddo.
Swyddog Polisi i TUC Cymru yw Ceri. Mae TUC Cymru yn creu Cymru lle mae gan bawb lais drwy eu hundebau ac incwm y gallant adeiladu bywyd arno. Ymhlith meysydd diddordeb Ceri mae gwaith teg a thechnoleg. Yn flaenorol, mae Ceri wedi gweithio mewn nifer o rolau ym meysydd polisi a materion cyhoeddus mewn sectorau megis gofal cymdeithasol, ynni a datblygu economaidd.
Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste yw Philippa. Mae ei diddordebau ymchwil ym meysydd hawliau cyflogaeth, hawliau dynol ac integreiddio technoleg yn y gwaith. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi'n helaeth a hi sydd wedi ysgrifennu'r testun blaenllaw ar hawliau dynol yn y gweithle. Yn flaenorol, bu ganddi swyddi ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaerwysg, ac mae ganddi raddau o Brifysgolion Birmingham a Rhydychen.
Mae Antonio yn Uwch-bartner yn The PSC, sy'n ymgynghoriaeth gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n cynghori cleientiaid ar ddeallusrwydd artiffisial, dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a defnyddio technoleg i ailddylunio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn diwallu anghenion dinasyddion. Mae wedi gwasanaethu sefydliadau ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe. Hefyd, mae Antonio yn ymchwilydd cyswllt yn Sefydliad Bennett, Prifysgol Caergrawnt, ac ef yw awdur AI Demystified: Unleash the power of AI at work. Bu Antonio yn Uwch-gynghorydd i swyddfa Prif Weinidog y DU erbyn hyn, Syr Keir Starmer, gan gynghori ar dechnoleg a diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Diane sy'n arwain y Ganolfan Ymchwil i Ddeallusrwydd Artiffisial yng Nghanolfan Galluogi Deallusrwydd Artiffisial Fyd-eang CGI, ac mae'n gyfrifol am bennu safbwynt CGI ar bosibiliadau ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial ac arwain agweddau. Yn flaenorol, Diane oedd yn gyfrifol am Ddadansoddeg, Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol i CGI yng Nghanada, gan arwain tîm o wyddonwyr data a phenseiri data i gefnogi sefydliadau wrth iddynt roi atebion data mawr ar waith. Mae ganddi PhD mewn Rheoli Technoleg Gwybodaeth Feddygol ac mae wedi gwneud gwaith ymchwil i fodelu a mabwysiadu atebion ar gyfer systemau arbenigol/deallusrwydd artiffisial meddygol. Mae Diane wedi helpu sefydliadau i ddeall eu data'n well drwy wyddor data, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol er mwyn ehangu cwmpas prosesau gwneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth ac wedi arwain gwaith dylunio strategaethau ar y cyd a chynlluniau gweithredu ar gyfer deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg uwch ar gyfer sefydliadau mawr.
Mae hi wedi bod yn ymwneud â modelu pandemig COVID, yn ogystal â dadansoddeg a dulliau adrodd ar gyfer cyflwyno brechlynnau i Dalaith British Columbia, ac mae wedi arwain ymgysylltiadau ymchwil iechyd cydweithredol ledled Canada. Mae Diane hefyd wedi arwain y gwaith o gynllunio a gweithredu strategaeth ar y cyd ar gyfer dadansoddeg ddatblygedig a deallusrwydd artiffisial ar gyfer sefydliadau mawr ym meysydd ynni a chyfleustodau, rheilffyrdd a’r llywodraeth / sectorau gofal iechyd.
Jacob sy'n arwain busnes gwyddorau bywyd a gofal iechyd Microsoft yn y DU. Mae ganddo amrywiaeth eang o brofiad rhyngwladol yn y sectorau masnachol, cyhoeddus ac nid-er-elw. Mae Jacob yn gyn-gynghorydd i ddau o Brif Weinidogion y DU, ac mae wedi gweithio ym maes gofal iechyd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, o fewn y GIG ac mewn gwledydd tramor. Bu Jacob yn Gymrawd Harkness yn Ysgol Iechyd y Cyhoedd Harvard ac mae'n Gymrawd Ymchwil Hŷn Gwadd yn Sefydliad Polisi Cyhoeddus Coleg y Brenin, Llundain.
Mae Allister Pearson yn Brif Gynghorydd Polisi yn nhîm Cydymffurfiaeth Deallusrwydd Artiffisial Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bu'n arwain y gwaith o ddatblygu Pecyn Cymorth Risg Deallusrwydd Artiffisial a Diogelu Data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a enillodd Wobr Atebolrwydd y Cynulliad Preifatrwydd Byd-eang yn 2022. Mae Allister yn defnyddio ei arbenigedd pwnc i weithio gyda sefydliadau er mwyn sicrhau bod eu defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data.
Arshia Gratiot yw sylfaenydd Eupnoos, arloeswr yn y maes ffenoteipio sain sy’n datblygu gwasanaethau diagnostig ar ffonau clyfar ar gyfer clefydau cardioysgyfeiniol. Fel entrepreneur cyfresol mewn technoleg ddofn, roedd Arshia yn un o arloeswyr cynnar Ewrop mewn roboteg awtonomaidd yn yr awyr cyn symud i ofal iechyd. Gyda mwy na degawd o arbenigedd mewn masnacheiddio technoleg, gan gynnwys arwain lansiad byd-eang gwasanaeth mapiau digidol Nokia mewn mwy na 75 o wledydd, mae ganddi hanes o droi technolegau cymhleth yn ddatrysiadau hygyrch.
Mae cyfraniadau Arshia i'r diwydiant gofal iechyd wedi cael ei gydnabod yn eang, ac mae hi ennill sawl gwobr. Mae ei hymrwymiad i degwch ym maes iechyd yn gyrru cenhadaeth Eupnoos i ddarparu diagnosteg fforddiadwy a hygyrch i boblogaethau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Gan gyfuno ei set sgiliau unigryw mewn peirianneg, deallusrwydd artiffisial ac arloesedd digidol, mae Arshia yn arwain Eupnoos wrth ddatblygu deallusrwydd artiffisial a thechnoleg acwstig, gan ail-lunio’r modd y mae clefydau’n cael eu sgrinio a’u rheoli.
Dan ei chyfarwyddyd hi, mae Eupnoos yn gosod safonau Newydd ar gyfer canfod clefydau'n gynnar a gofal ataliol ledled y byd.
Mae Janette yn Ymgynghorydd Llythrennedd yn y Cyfryngau a hi yw sylfaenydd Be Smart Cookie Ltd, sy'n helpu rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn ddiogel ac yn ddoeth o flaen y sgrin. Camodd i fyd addysg y cyfryngau yn 2017 pan fu'n arwain prosiect y BBC ar lythrennedd yn y cyfryngau a oedd yn cynnig sgiliau i gynulleidfaoedd allu ymdrin â gwybodaeth ar-lein. Dan ei goruchwyliaeth hi, dysgodd miloedd o bobl ifanc yn y DU, Kenya, Nigeria, India a Brasil sut i adnabod ‘newyddion ffug’ a dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy. Gan gefnogi rhaglenni addysg y cyfryngau ac addysg ddigidol yn y DU a ledled y byd, mae Janette wedi gweithio i gyrff anllywodraethol, sefydliadau'r cyfryngau a darparwyr addysg gan gynnwys ysgolion, grwpiau cymunedol, y Geids, y British Council a Chanolfan Dysgu Cysylltiedig y Gymanwlad. Cyn symud i'r sector addysg, roedd Janette yn newyddiadurwr yn y BBC ac yn wneuthurwr ffilmiau dogfen a enillodd wobrau.
Rhian yw Pennaeth Ymchwil Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys rheoli'r Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc, sef Cyfleuster Ymchwil Clinigol Pediatrig cyntaf Cymru. Nid yn unig y gwnaeth Rhian helpu i sefydlu'r uned hon yn 2017, ond mae hefyd yn defnyddio ei brwdfrydedd dros waith ymchwil ac arloesi er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i lwyddo. Rhian sydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu partneriaethau a chysylltiadau allanol er mwyn helpu i ddatblygu a chyflawni gwaith ymchwil ac arloesi yn yr Ysbyty. Ar ben hynny, mae Rhian yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae'n ymchwilio i effaith modelau busnes ar ddatblygu cyffuriau ar gyfer plant.
Patholegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw Muhammad. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn defnyddio llwyfannau deallusrwydd artiffisial a phatholeg ddigidol i wella'r gwasanaethau ym mhob un o'r arbenigeddau. Mae wedi arwain timau'n llwyddiannus i gyflawni prosiectau arloesol fel defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn patholeg brostadig drwy Gymru gyfan ac yna brosiect deallusrwydd artiffisial ar gyfer y fron. Hefyd, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau rheoli yn y GIG a bydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i raglenni gwaith cenedlaethol yn rheolaidd. Ar hyn o bryd, ef yw arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gefnogi prosiectau sy'n rhoi patholeg ddigidol a deallusrwydd artiffisial ar waith.
Bydd Phil yn rhannu ei amser rhwng bod yn Gyfarwyddwr yn Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ac yn Radiolegydd Cyhyrysgerbydol Ymgynghorol yn BIPCTM. Mae wedi dal nifer o swyddi arwain ar lefel leol a chenedlaethol gan gynnwys Arweinydd Clinigol ar gyfer Datblygu Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru, Arweinydd Clinigol ar gyfer dyfarniad MSc Uwchsain Feddygol ym Mhrifysgol De Cymru, Cyfarwyddwr Clinigol (Radioleg) a Chyd-gadeirydd Grŵp Gwasanaethau Hanfodol Delweddu GIG Cymru yn ystod pandemig COVID-19. Mae ganddo ddiddordebau clinigol a hyfforddi brwd mewn uwchsain gyhyrysgerbydol, anafiadau chwaraeon ac ymyriadau dan arweiniad, ac mae hefyd yn mynd ar drywydd datblygiadau arloesol mewn gwasanaethau radioleg.
Mae Chris yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol, yn Athro Anrhydeddus yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn Athro Anrhydeddus yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Chelf Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n Bennaeth TriTech ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn Ddarpar Lywydd Academi Gwyddor Gofal Iechyd y DU ac yn Gyfarwyddwr Clinigol yng Nghanolfan arloesi a thechnolegau cynorthwyol Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.
Gyda chymrodoriaethau gan yr AHCS ac IPEM, mae hefyd yn Wyddonydd Siartredig ac yn Beiriannydd Siartredig. Mae’n aelod o’r pwyllgor cynghori arbenigol yn MHRA, yn aelod o banel arfarnu Technoleg Iechyd Cymru, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Ymchwil ac Arloesi @ IPEM, a chafodd y Wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd Prif Swyddog Gwyddonol NHS England 2022.
Mae David yn rhan o dîm y Gwasanaeth Cynghori yn NICE sy'n rhoi cyngor manwl i gwmnïau ar gynhyrchu tystiolaeth ac economeg iechyd. Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn gweithio gyda sefydliadau sy'n ceisio ymuno â marchnad y GIG, gan roi cyngor iddynt ar sut i gynhyrchu tystiolaeth i gefnogi hyn. Hefyd, mae David wedi gweithio ledled Cymru mewn nifer o rolau gan gynnwys fel Uwch-ymchwilydd yn Technoleg Iechyd Cymru a Dadansoddwr Technoleg Iechyd yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan.
Mae Genevieve yn Athro’r Clasuron a Chymrawd Turing ym Mhrifysgol Bryste. Mae hi’n arbenigo mewn cyfuno safbwyntiau rhyngddisgyblaethol yn ei hymchwil a’i gwaith. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd y mae naratifau diwylliannol am dechnoleg a risg yn gallu ein helpu ni i ddeall y cymhlethdodau sydd ynghlwm â thechnolegau fel Deallusrwydd Artiffisial. Mae Genevieve wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, erthyglau ac adroddiadau ar y pynciau hyn. Drwy gyfuno ei phrofiad hi o adrodd stori gyda’i brwdfrydedd dros dechnoleg, mae hi’n gallu darparu safbwynt newydd sy’n gwneud y byd digidol yn fwy hygyrch a dealladwy i bawb.
Rob yw Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Early Ideas Limited ac mae'n Athro Cynorthwyol Clinigol yn LSHTM. Mae ganddo raddau mewn Meddygaeth, Iechyd Rhyngwladol ac Iechyd y Cyhoedd, a PhD mewn Iechyd a Datblygiad Plant. Yn ystod ei yrfa, mae Rob wedi gweithio ym meysydd ymarfer clinigol, datblygu rhyngwladol, academia a diwydiant. Mae wedi gweithio gydag Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol y DU a'r Children's Investment Fund Foundation, ac wedi cynghori amrywiaeth o sefydliadau. Yn LSHTM, mae'n addysgu ac yn ymchwilio i effaith amgylcheddau ar iechyd plant. Yn 2023, cyd-sylfaenodd Early Ideas Limited er mwyn creu adnoddau digidol ar gyfer plentyndod cynnar, gan ganolbwyntio ar gymunedau llai breintiedig. Mae Rob hefyd yn gwasanaethu ar y Comisiwn Chwarae.
Matthew sy’n arwain y tîm Iechyd Byd-eang ar Ddeallusrwydd Artiffisial a dadansoddeg nid-er-elw yn AWS. Mae’r tîm yn edrych ar y ffordd y mae data, dadansoddeg, dysgu peirianyddol, a deallusrwydd artiffisial yn gallu trawsnewid systemau iechyd a chyflawni canlyniadau gwell i gleifion. Mae ei dîm o arbenigwyr ym maes arloesi, penseiri datrysiadau, a gwyddonwyr data yn gweithio’n agos â chwsmeriaid i gyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau dadansoddeg, Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchiol. Mae ei brosiectau diweddar i gwsmeriaid yn cynnwys haenu cleifion canser drwy amlddulliau, adolygiadau awtomatig o lenyddiaeth, a darpariaeth gwybodaeth feddygol. Yn y gorffennol, mae Matthew wedi gweithio fel cyfarwyddwr Deallusrwydd Artiffisial gyda Deloitte UK, ac fel Pennaeth Ewropeaidd Watson Health yn IBM, lle’r oedd yn gyfrifol am arwain ar ddadansoddeg pan-Ewropeaidd a llwyfannau tystiolaeth ar lawr gwlad, yn ogystal â datrysiadau brysbennu Deallusrwydd Artiffisial. Yn y swydd honno, bu’n gweithio â llywodraethau rhyngwladol ar strategaethau data cenedlaethol ac ar y broses o roi Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau newydd ar waith wrth lunio a datblygu polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Bu Dr. James Peake, M.D., yn ysgrifennydd ar Faterion Cyn-filwyr (VA) yr UDA ac yn Llawfeddyg yn y Fyddin. Erbyn hyn mae’n Uwch Is Lywydd ar CGI Federal, ac ef sy’n gyfrifol am oruchwylio rhaglenni gofal iechyd. Ef oedd eiriolwr pennaf y cyn-filwyr yn Llywodraeth yr UDA, a bu’n cyfarwyddo’r ail adran gabinet fwyaf. Yn ystod ei gyfnod yno, roedd yr adran yn cyflogi dros 280,000 o bobl ac roedd ganddynt gyllideb o $97.5 biliwn yn 2009. Mae’n dod yn wreiddiol o St,Louis, a graddiodd o Academi Filwrol yr UDA yn West Point yn 1966. Gwasanaethodd yn Fietnam, ac enillodd ddoethuriaeth mewn meddygaeth o Brifysgol Cornell yn 1972. Mae wedi ennill Seren Arian, a Seren Efydd â chredyd V, yn ogystal â Chalon Borffor gyda Chlwstwr o ddail derw. Gwasanaethodd fel Llawfeddyg yn y Fyddin rhwng 2000 a 2004.
Mae Said yn arweinydd trawsnewid digidol sydd â thros 30 mlynedd o weithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'n arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio prosesau robotig, a rhyngweithio rhwng pobl a meddalwedd gyfrifiadurol, gan ysgogi effeithlonrwydd ac arloesedd. Gyda brwdfrydedd dros bartneriaethau strategol, mae'n mentora timau trawsddisgyblaethol er mwyn iddynt ddelio â newid trawsnewidiol digidol. Mae gan Said ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd, a gafodd am waith ymchwil i awtomeiddio prosesau deallus a dyfodol gwaith, ac MBA Gweithredol o Brifysgol Abertawe. Mae'n arbenigo ym meysydd deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, a methodolegau Lean/Six Sigma Black Belt, sy'n golygu ei fod yn llais allweddol yn y trawsnewid sy'n cael ei arwain gan ddeallusrwydd artiffisial.
Mae gan Peter dros 20 mlynedd o brofiad ym maes data a dadansoddeg o fewn GIG Cymru. Yn rhinwedd ei rôl fel Dirprwy Gyfarwyddwr Data a Dadansoddeg yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, mae Peter yn arwain tîm ymroddedig sy'n gyfrifol am roi cyngor, cymorth a dadansoddiadau hollbwysig ar flaenoriaethau gweinidogol ar gyfer Llywodraeth Cymru, cydweithwyr yng Ngweithrediaeth y GIG, a'r GIG yng Nghymru yn ehangach. Yr hyn y mae fwyaf brwd drosto yw cymhwyso modelau mathemategol er mwyn helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG. Yn ychwanegol at ei brif rôl, mae Peter wedi ymgymryd â chyfrifoldebau Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth cyswllt yn ddiweddar. Ar hyn o bryd, mae'n archwilio ffyrdd diogel ac effeithiol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial o fewn ei sefydliad.
Katie yw Arweinydd Digidol y Digital Care Hub. Mae'r Digital Care Hub, a gaiff ei redeg gan ddarparwyr gofal cymdeithasol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol, yn cynnig arweiniad a chymorth am ddim i sefydliadau gofal ynghylch technoleg, diogelu data a seiberddiogelwch. Mae Katie'n un o gydgynllunwyr Prosiect Rhydychen ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn Gyfrifol mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gan weithio'n agos gyda'r Sefydliad Moeseg mewn Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Prosiect Rhydychen Fframwaith drafft ar gyfer Moeseg mewn Deallusrwydd Artiffisial, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd ac mae Katie wedi bod yn rhan o'r broses honno. Mae Kate yn frwd dros gefnogi gwelliannau digidol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol.
Mae Alisha yn Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus yn y GIG ac yn Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n arweinydd strategol mewn datblygu a chyflawni gwaith ymchwil i iechyd y cyhoedd a'i werthuso er mwyn llywio polisi ac ymarfer ym maes iechyd; ac mae ei gwaith yn ymestyn i degwch mewn iechyd digidol a deallusrwydd artiffisial. Alisha oedd Arweinydd y Thema Iechyd ar gyfer rhaglen Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Gwyddoniaeth a'r Llywodraeth yn Sefydliad Alan Turing ac mae'n cyd-gadeirio'r Grŵp Buddiant Deallusrwydd Artiffisial Clinigol. Mae ganddi PhD mewn epidemioleg ac mae'n Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Alisha'n aelod o Bwyllgor Blaenoriaethu Ymchwil Iechyd Cyhoeddus NIHR, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Iechyd y Boblogaeth yng Nghymru, ac mae'n arwain Labordy Data Rhwydweithiol Cymru. Ffocws ei gwaith ymchwil yw anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd, a defnyddio deallusrwydd artiffisial a gwyddor data i lywio penderfyniadau ynghylch polisi ac ymarfer.
Mae Isobel yn gweithio ym maes Iechyd a Gofal Digidol i Lywodraeth yr Alban. Ffocws ei rôl yw deallusrwydd artiffisial, arloesi a datblygu. Mae hyn yn cynnwys datblygu fframwaith polisi i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol ei ddefnyddio, gan helpu i greu amodau ar gyfer mabwysiadu deallusrwydd artiffisial cyfrifol yn y sector a sicrhau bod agendâu diwygio gwasanaethau yn canolbwyntio ar ddefnyddio data a thechnoleg yn well.
Cafodd Glyn ei benodi'n Brif Swyddog Digidol ac yn Gyfarwyddwr Dadansoddeg i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020. Yn rhinwedd ei rôl fel Prif Swyddog Digidol, mae'n goruchwylio gwasanaethau digidol mewnol Llywodraeth Cymru ac yn cydweithio â'r sector cyhoeddus ehangach i feithrin diwylliant o newid digidol, gwasanaethau cyhoeddus sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r defnyddwyr, a defnyddio data er budd y cyhoedd. Ymhlith ei gyfrifoldebau diweddar mae archwilio cyfleoedd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial o fewn Llywodraeth Cymru a gweithio gyda'r sector cyhoeddus i gynnig arweiniad ar roi deallusrwydd artiffisial ar waith. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys arwain y proffesiwn digidol, data a thechnoleg o fewn Llywodraeth Cymru.
Rupa sy'n arwain y portffolio arloesi a gwyddorau bywyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan alluogi gwelliannau bach a newid trawsnewidiol drwy ddatblygiadau arloesol cymdeithasol, digidol, data, technoleg feddygol a deallusrwydd artiffisial, a'r gwyddorau bywyd yn ehangach. Mae'n frwd dros rôl datblygiadau arloesol yn y presennol a'r dyfodol o ran ailddiffinio'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu a phrofiad pobl ohonynt. Graddiodd Rupa mewn Seicoleg o Brifysgol Bangor, cwblhaodd PhD mewn Polisi Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (LSHTM) ac mae'n hyfforddi i fod yn Seicolegydd Iechyd cymwysedig. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithio ym meysydd polisi, strategaeth, lleoliadau ymarfer ac ymchwil yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Peter Bannister yn ffigwr medrus sydd â phrofiad ym maes gwyddorau bywyd ac arloesi. Peter yw Rheolwr Gyfarwyddwr Romilly Life Sciences Ltd, sy’n arbenigo mewn ymgynghoriaeth strategaeth cynnyrch digidol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Fel Peiriannydd Siartredig a Chymrawd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), mae gan Peter DPhil mewn delweddu meddygol o Brifysgol Rhydychen, lle bu hefyd yn arloesi datblygiad masnachol technolegau deallusrwydd artiffisial byd-eang ar gyfer Rolls Royce Plc.
Mae portffolio trawiadol Peter yn ymestyn i'w rôl fel Athro Anrhydeddus yng Nghanolfan Gwyddoniaeth ac Arloesedd Rheoleiddio Prifysgol Birmingham. Mae’n Gymrawd ac yn Gadeirydd Gofal Iechyd yn yr IET ac mae ganddo deitl nodedig Arweinydd y Dyfodol Academi’r Gwyddorau Meddygol mewn Menter ac Ymchwil Arloesi (FLIER). Ar ben hynny, mae’n cydweithio â sefydliadau fel HDRUK a NIHR i gefnogi'r broses o ddatblygu arweinyddiaeth a rhaglenni cyllido Ymchwil a Datblygu.
Mae effaith Peter yn y maes yn cynnwys ei gyfraniad at nifer o fusnesau biofeddygol twf uchel, gan sbarduno’r gwaith o fasnacheiddio cynhyrchion arloesol ar gyfer llawdriniaethau, diagnosteg a llwybrau triniaeth ddigidol.