Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r Gwasanaeth Deallusrwydd Artiffisial a Rheoleiddio Digidol (AIDRS). 

Woman sitting at a laptop

Mae AIDRS yn darparu canllawiau, arferion gorau a rheoliadau sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial a thechnolegau iechyd digidol. 

Nod y gwasanaeth hwn yw symleiddio gofynion rheoleiddiol a helpu mabwysiadwyr a datblygwyr deallusrwydd artiffisial i lywio’r dirwedd o dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n esblygu’n gyson.

Mae AIDRS wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gan bedwar rheoleiddiwr iechyd a gofal cymdeithasol allweddol:

Mae’r sefydliadau hyn wedi cydweithio i ddarparu crynodeb o reoliadau a chanllawiau sy’n berthnasol i fabwysiadu technoleg deallusrwydd artiffisial, yn ogystal ag astudiaethau achos, a chyngor a sylwebaeth arbenigol er mwyn helpu pobl i ddeall a defnyddio deallusrwydd artiffisial. 

Cefnogaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol: 

Mae’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i gydweithio ag NHS England a phartneriaid eraill yn y DU i gefnogi AIDRS, er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru. Mae gweithwyr proffesiynol yn GIG Cymru ac ym maes Gofal Cymdeithasol sydd ag anghenion rheoleiddio penodol yn cael eu hannog i gysylltu â’r sefydliadau perthnasol yng Nghymru i gael cymorth ychwanegol. 

I gael gwybodaeth fanylach am ddefnyddio AIDRS, ewch i wefan AIDRS yma.

Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial, cefnogir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.