Ym mis Ionawr, fe sefydlodd Concentric ei bencadlys newydd yng Nghaerdydd. Busnes newydd ym maes gwyddorau bywyd yw Concentric, sydd â chynlluniau i drawsnewid y broses o wneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar gleifion. Mae gan y busnes syniadau mawr, ac mae’n bwriadu gweithio ar y cyd â’n rhaglen Cyflymu er mwyn gwireddu’r syniadau hynny. Buom yn siarad â Dafydd Loughran, y Prif Weithredwr, er mwyn darganfod mwy am gynlluniau Concentric ar gyfer y dyfodol.

Concentric logo

Beth yw Concentric?

Busnes newydd technoleg iechyd yw Concentric, sy’n mynd i'r afael â'r broses o wneud penderfyniadau o fewn y byd iechyd. Rydym wedi ein lleoli yn TramshedTech, a’n nod yw rhoi’r grym i gleifion wneud eu penderfyniadau eu hunain am y gofal maent yn ei gael, ac i arwain newid tuag at ddefnyddio proses o wneud penderfyniadau ar y cyd sy’n seiliedig ar ddata.

Yn wreiddiol, dechreuom edrych ar y broses gydsynio sy’n digwydd cyn i glaf gael llawdriniaeth, gan ymchwilio’r buddion o gefnogi cleifion a chlinigwyr drwy ddefnyddio system ddigidol, yn hytrach na defnyddio ffurflenni papur. Roeddwn i’n arfer bod yn llawfeddyg dan hyfforddiant yma yng Nghymru, ac felly roeddwn yn gwybod bod cyfleoedd ar gael i wella’r broses.

Dechreuom adeiladu prototeip sylfaenol o gydsynio’n ddigidol, a buom yn gweithio mewn partneriaeth â Imperial College Healthcare NHS Trust er mwyn ei beilota. Roeddem yn gweld gwerth yn y platfform, hyd yn oed yn ystod y cam cynnar hwn. Roedd llai o gamgymeriadau, ac roedd yn gwella’r wybodaeth roedd clinigwyr yn ei rhannu â chleifion - rydym wedi cyhoeddi’r canlyniadau hyn.

Roeddem yn ymwybodol o'r gwaith cynnar hwn, ac o waith arall o wneud penderfyniadau ar y cyd, y gallai iteriad gwell roi grym i gleifion, cefnogi clinigwyr â data, a rhoi tawelwch meddwl i fyrddau iechyd, gan ddangos llwybr archwilio o'r sgyrsiau a gafwyd, a’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud. Yn y pen draw, byddai hyn yn arwain at wneud penderfyniadau gwell, sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i’r unigolyn.

Rydym eisiau cefnogi cleifion wrth wneud penderfyniadau, boed hynny ar gyfrifiadur neu dabled mewn clinig, neu ar y ward, neu ar y porth cleifion sy’n cael ei ddefnyddio o gartref.

Pam fod gwneud penderfyniadau ar y cyd yn bwysig?

Mae gwneud penderfyniadau ar y cyd yn gwneud synnwyr. Mae’n allweddol ein bod ni’n cydnabod bod dau arbenigwr yn yr ystafell: y clinigydd, sy’n arbenigwr ym maes iechyd, a’r claf, sy’n arbenigwr ar beth sydd orau iddo, ac ar ei flaenoriaethau.

Ar hyn o bryd, yng Nghymru a thu hwnt, mae tua 50% o gleifion yn dweud y byddent wedi hoffi cael mwy o lais yn y broses o wneud penderfyniadau am y gofal roeddent wedi ei gael. Mae’r dystiolaeth yno: wrth i ni gynyddu mewnbwn claf yn y broses o wneud penderfyniadau, mae safon y penderfyniadau’n gwella, ac mae canlyniadau i gleifion yn cyd-fynd yn well â’r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae costau esgeulustod tua £600m y flwyddyn yn y DU, ac mae tua £46m ohono’n gysylltiedig yn uniongyrchol â phroblemau sy’n ymwneud â chydsynio. Wrth i gleifion gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, mae mwy o ymdeimlad mai eu penderfyniad nhw ydyw hefyd. Mae hyn yn arwain at lai o gleifion yn difaru am eu penderfyniad os oes cymhlethdodau’n codi, ac yn y pen draw, mae’n arwain at lai o bwyntio bys.

Yn ogystal â lleihau’r risg cyfreithiol a chael gwared â chopïau papur o dudalennau, bydd tystiolaeth Concentric, o safbwynt clinigydd, yn cefnogi trafodaethau gwybodus â chleifion ynglŷn â’u dewisiadau a’r canlyniadau tebygol, yn hytrach na gorfod dibynnu ar eu profiadau’n unig.

Bwysicaf oll, mae gwneud penderfyniadau ar y cyd yn helpu cleifion i ddeall y dewisiadau sydd ar gael iddynt – gan gyflwyno’r dewisiadau hynny iddynt yn ddigidol, mewn ffordd sy’n ddeniadol ac yn ddealladwy – gan roi’r grym i gleifion drafod eu dewisiadau ar y cyd â chlinigwyr a’u teuluoedd, ac i benderfynu beth sydd orau iddynt.

Mae Concentric, a’r broses ehangach o wneud penderfyniadau ar y cyd, yn gyrru'r agenda Gofal Iechyd Darbodus: gan sicrhau ein bod ni ond yn rhoi llawdriniaeth i gleifion sy’n deall eu dewisiadau, ac sydd wedi gwneud penderfyniad darbodus i gael llawdriniaeth – yn ogystal â defnyddio tystiolaeth i leihau anghysondebau, ac osgoi defnyddio adnoddau iechyd yn ddiangen.

Sut fydd Concentric yn gweithio gyda Cyflymu er mwyn mynd i'r afael â'r broses o wneud penderfyniadau gofal iechyd?

Megis dechrau ydym ni, ond mae’r rhaglen Cyflymu yn cynnig amrywiaeth o arbenigedd, sy’n amhrisiadwy i fusnesau newydd fel Concentric. Rwy’n edrych ymlaen at weithio â’r partneriaid er mwyn cyflymu ein datblygiad, ac i sicrhau y gallwn ddod â'r budd mwyaf posibl i system gofal iechyd Cymru.

Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i sut allwn ni gydweithio. Mae ATiC ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dod ag arbenigedd o ran meddwl am ddylunio, ac mae ganddynt lu o dechnolegau i ddeall sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â chynnyrch – rydym yn archwilio sut y gallwn, gyda'n gilydd, ddatblygu platfform gwneud penderfyniadau, sydd wirioneddol yn ddeinamig y bydd cleifion a chlinigwyr am ei ddefnyddio. Mae gan HTC Prifysgol Abertawe’r arbenigedd mewn gwyddor data i gefnogi ein gwaith o gyflwyno rhagfynegiadau unigol, yn seiliedig ar ganlyniadau a adroddir gan gleifion, ac fe allai CIA Prifysgol Caerdydd werthuso ein platfform yn glinigol yn annibynnol, gan ddarparu tystiolaeth o’i effeithiolrwydd, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gwelliannau pellach.

Mae’n adeg gyffrous iawn i fod yn rhan o arloesi Technoleg Iechyd yng Nghymru.

Pam fod rhaglenni partneriaeth fel Cyflymu yn bwysig ar gyfer arloesi llwyddiannus?

Mae heriau mawr o ran capasiti mewn gofal iechyd, sy'n ei gwneud hi’n anodd i glinigwyr rheng flaen roi digon o amser i ddatrys problemau cymhleth. Ond, yn ffodus, mae’r gwelliannau sydd angen eu gwneud yn esgor ar ddiwydiannau sydd eisiau helpu. Yr her yw gweithio gyda’r partneriaid diwydiant cywir, rhai sydd wirioneddol yn deall yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau iechyd.

Mae sefydliadau fel Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a rhaglenni fel Cyflymu yn cynnig system gymorth hanfodol i fusnesau newydd, gan ddod o hyd i bartneriaethau sy’n gwneud synnwyr, a hwyluso’r partneriaethau hynny, ar draws gofal iechyd, academia, a diwydiannau. Mae partneriaethau academaidd yn amhrisiadwy – maent yn cyflwyno arbenigwr sydd â gwybodaeth eang o faes arbennig, sy’n golygu y gallwn fod yn hyderus ein bod ni’n datblygu’r peth cywir.

Pam fod arloesedd yn bwysig i Gymru?

Mae’r dybiaeth fod gofal iechyd Cymru ar ei hôl hi o’i gymharu â chanolfannau arloesi eraill yn newid. Bellach, nid yw penderfynu sefydlu busnes Technoleg Iechyd yng Nghymru’n benderfyniad anodd – mae’n ddewis amlwg. Mae yna glwstwr o sefydliadau sy'n gallu partneru, cydweithio a chefnogi ei gilydd, er budd diwydiant, swyddi, a'r economi. Gyda rhywfaint o hwb, gall byrddau iechyd yng Nghymru barhau i fod yn flaenllaw wrth dorri tir newydd, gan adeiladu eu proffiliau a gwella gofal cleifion. Bydd yn creu cylch, gan ddod â mwy o fuddsoddiad, ac yn ei dro, denu mwy o arloesedd.