Mae’r agenda Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn bwysig iawn i GIG Cymru a byddwn yn dathlu’r arloesedd yma yn ystod Wythnos Gwerth mewn Iechyd, sy’n cael ei chynnal rhwng 8 a 12 Tachwedd 2021.  

Wythnos Gwerth mewn Iechyd 2021

Mae’r digwyddiad wythnos o hyd a drefnwyd gan y rhaglen genedlaethol Gwerth mewn Iechyd yn cynnwys agenda helaeth o drafodaethau craff, cyflwyniadau a gweithdai ymarferol. Bydd yn darparu persbectif pwysig ar ddatblygiad a darpariaeth iechyd sy’n seiliedig ar werth yng Nghymru, ochr yn ochr ag arweinwyr byd-eang fydd yn darparu persbectif rhyngwladol.   

 Mae Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn canolbwyntio ar greu atebion gofal sy’n cynnig y gwerth gorau i’r bobl sy’n eu derbyn, am y gost isaf bosibl i systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n prysur ddod yn fwy poblogaidd ar lefel ryngwladol fel ffordd effeithiol o wella profiad cleifion, canlyniadau iechyd a defnyddio adnoddau cyfyngedig mewn modd cynaliadwy.  

Mae’r digwyddiad ar-lein am ddim, gyda sesiynau penodol yn canolbwyntio ar y gwaith Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth sy’n cael ei gyflawni gan fyrddau iechyd ledled Cymru. Dyma rai o’r digwyddiadau eraill sy’n rhan o’r rhaglen: 

  • ‘Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ledled y Byd’: Bydd arbenigwyr o Awstralia, UDA a Lloegr yn ymuno â Dr Sally Lewis (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Gofal Seiliedig ar Werth a Darbodus) i ddisgrifio sut caiff hyn ei weithredu ar draws gwahanol systemau gofal, gan gynnwys ei bwysigrwydd o ran adferiad ar ôl Covid-19.  

  • ‘Optimeiddio llythrennedd iechyd i wella canlyniadau’: Sesiwn panel yn edrych ar y cysylltiad rhwng llythrennedd iechyd, lles a chanlyniadau iechyd, a sut gallwn ni ddylunio llwybrau gofal cynaliadwy.  

  • ‘Sut allwn ni ddefnyddio data a gynhyrchir gan gleifion i gefnogi gofal?’: Bydd y sesiwn panel hwn yn edrych ar yr heriau a’r atebion o ran hygyrchedd data a gynhyrchir gan gleifion.  

  • ‘Dull gweithredu Cymru ar gyfer addysg Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth’ – Academïau Dysgu Dwys’: Bydd yr Athro Hamish Laing yn edrych ar yr hyn a ddysgwyd a’r cyfleoedd yn sgil lansio’r Academïau Dysgu Dwys arloesol, sef yr academïau ôl-radd a phroffesiynol cyntaf yng Nghymru ac yn y byd sy’n canolbwyntio ar Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth.  

I ddysgu mwy am Wythnos Gwerth mewn Iechyd a chofrestru am ddim, ewch i wefan Rhaglen Genedlaethol Gwerth mewn Iechyd.