Mae buddsoddiad gwerth £1.5miliwn gan gwmni Hardshell wedi arwain at sefydlu'r cyfleuster gweithgynhyrchu masgiau wyneb o safon feddygol cyntaf yn y Deyrnas Unedig, a hynny yng Nghymru, gan greu dros 40 o swyddi a rhoi hwb i gyfleoedd busnes yn yr ardal.

Man in white scrubs

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi Hardshell, sy'n arweinydd byd-eang mewn cynhyrchu cyfarpar diogelu amddiffynnol fel arfwisgoedd a dillad clirio ffrwydron, i sicrhau tystysgrifau ar gyfer ei gynnyrch a fydd yn caniatáu iddo fod y cwmni cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynhyrchu masgiau wyneb o safon feddygol i'w defnyddio gan y gwasanaeth iechyd.

Y safle yma fydd yr unig un ym Mhrydain i gynhyrchu anadlyddion FFP3, sy'n cael eu mewnforio ar hyn o bryd yn hytrach na'u cynhyrchu yma.

Masgiau wyneb FFP3 – sydd ag isafswm o effeithiolrwydd hidlo o 99% – sy'n cynnig y lefel uchaf o warchodaeth rhag gronynnau gwenwynig gan gynnwys asbestos, bacteria a feirysau, sy'n golygu mai dyma'r masgiau wyneb mwyaf effeithiol i warchod rhag COVID-19 a'r masgiau sydd eu hangen fwyaf ar staff rheng flaen.

Penderfynodd Hardshell arallgyfeirio ei alluoedd gweithgynhyrchu i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol er mwyn helpu i ymladd yn erbyn COVID-19, yn dilyn galwad ar y diwydiant a gyhoeddwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddelio â'r holl ymholiadau a chynigion o gymorth cychwynnol gan fusnesau ar ran GIG Cymru. Mae'r sefydliad wedi bod yn gweithio'n agos â Hardshell i gynnig arweiniad ar y broses ardystio ac i helpu'r cwmni i sicrhau bod ei fasgiau'n bodloni'r rheoliadau angenrheidiol.

Dros y pedwar mis diwethaf, mae Hardshell, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sefydlu'r cyfleuster 1500m2 yng Nghaerdydd, a fydd yn gweithio'n unswydd i gynhyrchu ystod lawn o gyfarpar diogelu personol, o fasgiau llawfeddygol untro i fasgiau wyneb amldro. Mae'r cynnyrch yn cynnwys anadlyddion Math IIR, FFP2 ac FFP3. Bydd modd iddo gynhyrchu 300,000 o anadlyddion ac 1.5 miliwn o fasgiau'r wythnos.

Mae'r cwmni wedi prynu ei beiriannau ei hunan er mwyn gallu cyflawni'r broses gynhyrchu gyfan ar ei safle. Mae cwmni Hardshell yn cynnal trafodaethau â gweithgynhyrchwyr eraill ym Mhrydain hefyd er mwyn darparu deunydd crai ar gyfer y cyfleuster yn yr hirdymor – bydd hyn yn ei alluogi i gyflymu'r broses o gynhyrchu'r masgiau a chefnogi busnesau o weddill Prydain ar yr un pryd.

Meddai Anil Kant, Prif Weithredwr Hardshell:

"Fel gweithgynhyrchwr cyfarpar amddiffynnol, rydyn ni'n arbenigo mewn creu cyfarpar diogelu ac arfwisgoedd sy'n achub bywydau ar faes y gad. Roedden ni am adeiladu ar y gwaddol yma a helpu i warchod pobl sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

"Yn sgil y pandemig byd-eang, mae galw mawr wedi bod am gyfarpar diogelu personol, ac mae llawer o wledydd – yn ddealladwy – am gadw rheolaeth dros eu cyflenwadau'n fewnol, sy'n golygu bod prinder yn y cynnyrch sydd ar gael i Brydain. Roedden ni am wneud rhywbeth ynglŷn â hyn ac fe benderfynon ni fuddsoddi yn ein busnes i gynhyrchu masgiau ac anadlyddion yma yng Nghymru gan ddefnyddio deunydd a gafodd ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.

"Mae arweiniad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i'n helpu ni i ddeall y logisteg a'r cymeradwyaethau angenrheidiol i agor y cyfleuster yma yng Nghaerdydd. Mae'r ffaith ein bod wedi ein lleoli ym mhrifddinas Cymru, a bod llawer o borthladdoedd yn agos iddi, yn caniatáu i ni gaffael deunydd crai yn hawdd ac i ddosbarthu ein cynnyrch yn gyflymach. Mae hyn yn golygu bod modd i ni gyflymu ein prosesau'n sylweddol a chynhyrchu masgiau yn llawer cynharach – rhywbeth sy'n hanfodol yn ystod pandemig pan fo amser yn brin."

Bydd y gwaith o gynhyrchu masgiau ac anadlyddion yn cychwyn ym mis Awst, ar ôl cwblhau profion llym a sicrhau ardystiad terfynol i'r cynnyrch. Mae'r cwmni'n bwriadu cyflenwi'r cynnyrch i'r gwasanaethau iechyd yn bennaf, ac mae wrthi'n cyflawni'r broses ymgeisio gyda'r Llywodraeth. Bydd hefyd yn darparu ystod o fasgiau i fusnesau a manwerthwyr er mwyn helpu i warchod gweithwyr drwy atal lledaeniad COVID-19.

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae ymrwymiad Hardshell i ddatblygu canolfan gweithgynhyrchu yng Nghymru i fynd i'r afael â'r prinder o fasgiau ac anadlyddion yn dyst i arloesedd a gallu trawiadol y cwmni. Bydd y cynnyrch yma'n ddefnyddiol iawn i helpu gweithwyr hanfodol y rheng flaen, ac yn darparu llif dibynadwy, cyflym a pharhaus o gyfarpar diogelu y mae galw mawr amdano.

"Mae hyn yn enghraifft arall o'r arloesedd, y gwaith caled a'r dyhead i helpu rydyn ni wedi'i weld gan y diwydiant yng Nghymru."

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflenwi a dosbarthu cyfarpar diogelu personol i safleoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol GIG Cymru. 

Dylai unrhyw fusnesau sydd am gyflwyno cynigion o gymorth yn y frwydr yn erbyn coronafeirws wneud hynny drwy borthol arloesi ar-lein Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.