Cyhoeddi mai CanSense a Phrifysgol Abertawe yw enillwyr y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod.

Mae’r cynllun cydweithredol hwn rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi’r Gwyddorau Meddygol yn ceisio meithrin partneriaethau a darparu cyllid sbarduno i ddatblygu atebion arloesol sy’n gwella canlyniadau a phrofiadau menywod y mae canser yn effeithio arnynt.
Dewch i gwrdd â’n henillwyr:
CanSense
Mae’r tîm yn arbenigo mewn canfod canser y coluddyn yn gynnar drwy ddefnyddio profion gwaed anymwthiol sy’n cael eu pweru gan sbectrosgopeg laser a deallusrwydd artiffisial, ac mae’n ehangu i ganser gynaecolegol. Fel rhan o’r ehangu hwn, mae angen i’r tîm gael mewnbwn gan gleifion a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod eu prawf yn hygyrch ac yn cael ei dderbyn mewn llwybrau clinigol.
Dywedodd Nerissa Thomas, Gwyddonydd Technegol yn CanSense:
“Mae CanSense yn falch o fod wedi ennill dyfarniad o’r Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod. Mae’r cymorth hwn yn golygu ein bod yn gallu datblygu ein cenhadaeth sy’n canolbwyntio ar y claf i ganfod canserau’r ofarïau ac endometriaidd yn gynharach drwy brawf gwaed sydd mor anymwthiol â phosibl. Drwy ehangu ein technoleg biopsi hylif, ein nod yw trawsnewid canlyniadau’n gadarnhaol i fenywod, gan sicrhau diagnosis cynharach a goroesi gwell o ganlyniad i leisiau cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.”
Prifysgol Abertawe
Mae Ymchwilwyr yr Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe yn adnabyddus am eu hymagwedd amlddisgyblaethol at ymchwil canser. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda chlinigwyr, gwyddonwyr data, diwydiant a phawb yn y canol i arloesi ym maes canser. Bydd eu prosiect yn ceisio sefydlu rhwydwaith cydweithredol o randdeiliaid i ddatblygu profion diagnostig yn y cartref ar gyfer biofarcwyr sy’n gysylltiedig â cholli dwysedd esgyrn.
Dywedodd yr Athro Deya Gonzalez ym Mhrifysgol Abertawe:
“Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid i ddatblygu’r prosiect CARI-O (Cancer Associated Risk Identification of Osteoporosis).
Ar y cyd ag éclateral, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ARCH, Sefydliad TriTech, a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, byddwn yn addasu platfform diagnostig yn y cartref éclateral i adnabod y risg o osteoporosis mewn menywod sy’n cael triniaeth canser, gan eu grymuso drwy addysg i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar sail gwybodaeth.
Mae’r arloesi hwn yn werthfawr i gleifion sy’n cael sgil-effeithiau triniaeth, y rhai sydd â risg uwch o haint, unigolion sy’n gaeth i’w cartref, neu’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig sy’n golygu ei bod hi’n gallu bod yn anodd ymweld â’r ysbyty yn rheolaidd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid amlddisgyblaethol i wella ansawdd bywyd a chanlyniadau triniaeth i fenywod yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan ganser.”
Dywedodd Colette Buckley, Rheolwr Cyflawni Partneriaethau yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rwyf wrth fy modd cael cyhoeddi enillwyr y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod. Mae’r prosiectau hyn yn gyfle gwych i ddatblygu atebion arloesol sy’n gallu gwella profiad menywod yng Nghymru y mae canser yn effeithio arnynt. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi ein partneriaid yn eu hymdrechion cydweithredol i sbarduno cynnydd ystyrlon ym maes gofal iechyd menywod.”
Dywedodd yr Athro James Naismith FRS FRSE FMedSci, Is-lywydd (Anghlinigol) Academi'r Gwyddorau Meddygol
"Llongyfarchiadau mawr i Nerissa Thomas yn CanSense a'r Athro Deya Gonzalez ym Mhrifysgol Abertawe am ennill y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod. Mae canser menywod yn dal yn faes sydd angen atebion arloesol ar frys, a thrwy gefnogi ymchwilwyr sydd ag ymagweddau traws-sector beiddgar yn gynnar, rydyn ni’n helpu i osod y sylfeini ar gyfer datblygiadau arloesol a fydd yn gwella canlyniadau a phrofiadau i fenywod y mae canser yn effeithio arnynt. Rydyn ni’n falch o ariannu’r fenter hon ac rydyn ni’n falch o barhau â’n gwaith gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sbarduno datblygiadau ac arloesedd ystyrlon ym maes gofal iechyd.”
Awydd darllen rhagor am ein partneriaeth gydag Academi'r Gwyddorau Meddygol? Darllenwch ragor am ein cydweithio yma.