Trydydd parti

Mae un o bartneriaid Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Academi'r Gwyddorau Meddygol, wedi lansio Gwobrau Profiad Traws-Sector eleni. Mae'r cyfle hwn yn ariannu pobl i weithio mewn sefydliad sy'n gweithredu mewn sector sy'n wahanol i'w sector eu hunain.

Two people talking in a lab.

Mae'r cyllid yn galluogi pobl i rannu ac ennill sgiliau newydd mewn gwahanol sectorau. Mae hyn yn helpu i greu syniadau, yn meithrin cydweithio newydd, a gall helpu i gefnogi arloesedd. Croesewir ceisiadau gan bobl o bob disgyblaeth a sector, gyda chysylltiad clir rhwng eu gwaith a gwella iechyd pobl.

Gall ymgeiswyr hawlio hyd at £100,000 i dalu'n hyblyg am y canlynol:

  • Costau cyflogau i ôl-lenwi eu swydd yn y sefydliad sy'n cyflogi yn ystod y dyfarniad
  • Gweithgareddau a gyflawnir gan y sawl sy'n derbyn y dyfarniad yn y sefydliad partner
  • Costau teithio a chynhaliaeth y sawl sy'n derbyn y dyfarniad yn unig

Pwy sy’n cael cymryd rhan?

Mae croeso i bob lefel gyrfa heblaw myfyrwyr israddedig, gydag oriau amser llawn a rhan amser yn gymwys.

Byddwch yn gallu gweithio mewn sefydliad newydd mewn sector gwahanol (y sefydliad partner) am rhwng tri a deuddeg mis cyn dychwelyd i weithio yn y sefydliad sy'n eich cyflogi (eu cyflogwr presennol). Rhaid i geisiadau gyda dau sefydliad partner fod â chyfanswm cyfnod dyfarnu o rhwng chwech a deuddeg mis.

Gwnewch gais nawr!

Ceisiadau’n agor Ddydd Iau 30 Hydref 2025 ac yn cau ar Ddydd Gwener 20 Chwefror 2026.

Ewch i wefan Academy i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais