Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi’r Gwyddorau Meddygol wedi ailddatgan eu partneriaeth a'u hymrwymiad i ddarparu’r Rhaglen Traws-sector ar gyfer Cymru.

AMS and LSHW

Rydyn ni’n falch iawn o rannu bod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi’r Gwyddorau Meddygol wedi ailddatgan ein partneriaeth a’n hymrwymiad i ddarparu’r Rhaglen Traws-sector ar gyfer Cymru. Nod yr ymdrech gydweithredol hon yw ysbrydoli arloesedd ym maes iechyd drwy gysylltu ystod eang o arloeswyr ac ymchwilwyr â’i gilydd drwy gyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio, a chynllun ariannu cydweithredol.

Mae’r Rhaglen Traws-sector wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â heriau gofal iechyd sylweddol ac i oresgyn rhwystrau allweddol sy’n atal cydweithio ar draws sectorau, gan gynnwys: 

  • Anawsterau o ran cysylltu â’r bobl a’r sefydliadau iawn
  • Bylchau diwylliannol rhwng sectorau
  • Cymhellion cyfyngedig ar gyfer symud gyrfa
  • Prinder adnoddau i ymgysylltu ar draws sectorau

Drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn, rydyn ni’n adeiladu ecosystem arloesi fwy integredig ac effeithiol ym maes gofal iechyd.

 

Digwyddiadau sydd ar y gweill - Canolbwyntio ar arloesi ym maes canser

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, rydyn ni’n cynnal tri digwyddiad allweddol:

  • Canser – Canfod a Gwneud Diagnosis yn Gynnar
  • Canser – Digidol a Data 
  • Canser – Llesiant

Bydd y digwyddiad cyntaf, ‘Canser – Canfod a Gwneud Diagnosis yn Gynnar’ yn cael ei gynnal ar 11 Gorffennaf 2024.   

Bydd y digwyddiad hwn yn dod ag arloeswyr ac ymchwilwyr ar draws meysydd gyrfaoedd at ei gilydd i edrych ar sut y gall cydweithio helpu i wella’r broses o ganfod a rhoi diagnosis o ganser yn gynnar. Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at sut mae ymdrechion cydweithredol yn hanfodol wrth ddatblygu atebion gofal iechyd cynaliadwy, gan wella canlyniadau cleifion ar hyd a lled Cymru yn y pen draw. 

Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma

 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o barhau i weithio gydag Academi’r Gwyddorau Meddygol ar y rhaglen hanfodol hon. Drwy hwyluso cyfleoedd ystyrlon i rwydweithio a chydweithio, ein nod yw cefnogi atebion arloesol sy’n mynd i’r afael â’r heriau gofal iechyd dybryd sy’n wynebu ein cymdeithas.”

Dywedodd Dr. Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn parhau â'n Partneriaeth gydag Academi'r Gwyddorau Meddygol. Fel Hwb Cymru ar gyfer y rhaglen Traws-sector, rydym yn gweithio gyda’r Academi i ddod ag arloeswyr o wahanol sectorau a disgyblaethau at ei gilydd i feithrin cydweithrediad. Mae gweithio gyda'n gilydd yn golygu ein bod yn dod â gwahanol safbwyntiau, sgiliau a phrofiad ynghyd, sy’n amhrisiadwy wrth fynd i'r afael â heriau gofal iechyd yng Nghymru."

Dywedodd Dr Rachel Macdonald, Pennaeth Rhaglenni yn Academi’r Gwyddorau Meddygol:

“Nod y rhaglen Traws-sector yw darparu canolfannau rhanbarthol gweithredol a ffyniannus sy'n cynnig digwyddiadau dylanwadol ac sy'n dod â rhwydwaith o arloeswyr, ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi at ei gilydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddarparu hwb Traws-sector Cymru a darparu cyfleoedd a chymorth i bobl allu cydweithio mewn gwahanol sectorau.”

Anogir ymchwilwyr, clinigwyr, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a llunwyr polisi i gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn i gyfrannu at y fenter gydweithredol hon ac elwa ohoni. Cofrestrwch heddiw ar gyfer ein digwyddiad rhwydweithio cyntaf ar 11 Gorffennaf 2024 yma.