Trydydd parti

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad werth filiynau mewn i wyth cwmni arloesol sy’n gyfrifol am dechnoleg feddygol newydd sy’n achub bywydau. Gallai'r dyfeisiau arloesol ddinistrio tiwmorau canser yr iau, canfod Alzheimer a sylwi’n gyflym ar y rheini sydd mewn perygl o gael strôc.

Lightbulb

Gallai niferoedd sylweddol o fywydau gael eu hachub diolch i fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan y llywodraeth mewn dyfeisiau meddygol arloesol arfaethedig.

Bydd y £10 miliwn o gyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi wyth cwmni technoleg arloesol i ddod â’u dyfeisiau i’r farchnad a gallai helpu i drawsnewid sut rydym yn trin rhai o achosion mwyaf marwolaeth ac anabledd yn y DU.

Nod un ddyfais, gan HistoSonics, yw canfod a dinistrio tiwmorau canser yr iau gan ddefnyddio tonnau uwchsain â ffocws. Mae’r tonnau hyn yn torri tiwmorau i lawr heb niweidio meinwe iach, gan gynnig dewis mwy diogel yn lle radiotherapi a thriniaethau dwysedd uchel eraill. Gallai wella ansawdd bywyd llawer o gleifion sy’n cael triniaeth - gan leihau ymweliadau â’r ysbyty, cymhlethdodau wedi llawdriniaeth, a gwneud rheoli poen yn haws.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o gynllun hirdymor y llywodraeth i sicrhau bod y GIG a’i gleifion yn gallu cael mynediad cyflymach at dechnolegau arloesol newydd. Mae’n dilyn dadorchuddio glasbrint arloesol Technoleg Iechyd Cymru o lynedd ar gyfer hybu technoleg feddygol y GIG a throi arloesedd yn fuddion gwirioneddol i gymdeithas. 
 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Andrew Stephenson: 

“Mae angen i staff y GIG gael mynediad at y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn darparu gofal o’r ansawdd uchaf i gleifion a thorri rhestrau aros – un o’n pum prif flaenoriaeth.
 
“Gallai’r technolegau blaengar hyn helpu miloedd o gleifion ag ystod o gyflyrau, gan gynnwys canser, strôc a chlefyd Alzheimer, tra’n lleddfu’r pwysau ar ein hysbytai a lleihau anghydraddoldebau gofal iechyd.
 
“Mae ein buddsoddiad yn y cwmnïau arloesol hyn yn rhan o’n cynllun hirdymor ar gyfer system gofal iechyd gyflymach, symlach a thecach, ac mae’n dangos ein hymrwymiad clir i sicrhau mai’r DU yw’r economi fwyaf arloesol yn y byd.”

Mae un cwmni’n datblygu prawf gwaed ar gyfer Clefyd Alzheimer sy’n golygu y gallai cleifion gael eu canfod a’u trin yn gynt. Mae Roche Diagnostics Ltd wedi datblygu’r Panel Plasma Amyloid – prawf gwaed a allai helpu clinigwyr i benderfynu a ddylai cleifion â nam gwybyddol gael profion neu ddelweddu i gadarnhau Clefyd Alzheimer.

Gallai prawf gwaed cludadwy, gan Upfront Diagnostics, helpu parafeddygon i adnabod cleifion strôc yn gyflymach. Ar hyn o bryd ni all gweithwyr ambiwlans adnabod cleifion â cheulad gwaed sy’n rhwystro llif y gwaed ac ocsigen i’w hymennydd, a fyddai angen triniaeth frys mewn canolfannau strôc yn hytrach nag mewn ysbytai lleol.

Gallai’r prawf gwaed eu helpu i adnabod yr achosion hyn yn y fan a’r lle – felly gellid mynd â chleifion i ganolfan strôc gynhwysfawr i gael triniaeth hanfodol ar unwaith. Gallai olygu bod miloedd yn cael eu harbed rhag anabledd hirdymor a’r costau gofal cysylltiedig, tra’n lleihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ledled y wlad. 

Dywedodd Dr Marc Bailey, Prif Swyddog Gwyddoniaeth ac Arloesedd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd:

“Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi’r wyth technoleg terfynol i’w dewis yn y cynllun peilot IDAP newydd. Bwriad y cynllun yw archwilio sut y gall cymorth gan y rheoleiddiwr, sefydliadau technoleg iechyd y DU a chyrff y GIG gyflymu datblygiad dyfeisiau meddygol trawsnewidiol o’u prawf o gysyniad cychwynnol hyd at gael eu defnyddio yn y GIG.
 
“Mae meini prawf y cynllun peilot yn blaenoriaethu anghenion cleifion ym mhob agwedd ar wneud penderfyniadau a, thrwy gefnogi technolegau meddygol arloesol, bydd yn lleddfu’r pwysau ar y system gofal iechyd. Yn bwysicaf oll, mae’n fenter a allai newid bywydau llawer o gleifion. Rydym wedi ymrwymo i fod yn rheoleiddiwr sy’n sefydlu’r DU fel canolfan arloesi meddygol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r system gofal iechyd ehangach i gyflawni hyn.”

Mae’r cyllid yn rhan o raglen radical newydd o’r enw Llwybr Mynediad at Ddyfeisiau Arloesol (IDAP), sydd â’r nod o ddod â thechnolegau a datrysiadau o’r radd flaenaf i flaen y GIG. Yn y cam peilot ar hyn o bryd, bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i brofi’r technolegau newydd i’w defnyddio ar raddfa fawr cyn gynted â phosibl.

Mae’r llywodraeth yn buddsoddi £10 miliwn yn y cynllun peilot fel rhan o raglen waith ehangach i gyflymu mynediad at dechnoleg feddygol, gyda phob cwmni ar fin derbyn cyfran o’r arian. Cynhelir y rhaglen gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), GIG Lloegr, Technoleg Iechyd Cymru, a Grŵp Technoleg Iechyd yr Alban. Byddant yn darparu cyngor dwys wedi’i deilwra ar gymeradwyaeth reoleiddiol, asesiadau technoleg iechyd a mynediad i’r GIG. 

Dywedodd Jeanette Kusel, Cyfarwyddwr NICE Advice (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal):

“Uchelgais NICE yw gyrru arloesedd i ddwylo gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol er mwyn galluogi arfer gorau mewn triniaeth iechyd a gofal.

“Trwy IDAP a’n gwasanaeth cymorth NICE Advice, ein nod yw bod yn gynghorydd dibynadwy gan ddarparu cyngor wedi’i deilwra a chefnogi busnesau ar hyd cylch oes y cynnyrch cyfan, eu cynorthwyo i wireddu eu huchelgais a helpu i ddod â’r arloesedd gorau oll i’r GIG ac i ddwylo cleifion.” 

Mae Lenus Health Ltd. yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ragfynegi cleifion sydd mewn perygl o orfod mynd i’r ysbyty ar gyfer Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint, sy’n achosi i’r llwybrau anadlu gulhau a difrodi, gan arwain at anawsterau anadlu.

Mae’r cwmni’n casglu data o ddyfeisiau gwisgadwy, synwyryddion ac apiau ac yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ragweld pa gleifion sydd mewn mwy o berygl o orfod cael eu derbyn i’r ysbyty. Mae hyn yn caniatáu iddynt gael eu monitro a’u trin yn fwy effeithiol, gan hefyd leihau’r pwysau ar ysbytai.

Nod dyfais arall yw lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd yr ysgyfaint. Mae ocsifesuryddion - dyfeisiau sy’n cael eu clipio ar ben bys - yn cael eu defnyddio’n gyffredin mewn ysbytai a chartrefi i asesu pa mor dda y mae’r ysgyfaint a’r system gylchrediad gwaed yn gweithio. Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu efallai nad yw’r dechnoleg hon yn canfod yn gywir y gostyngiad mewn lefelau ocsigen mewn pobl ag arlliwiau croen tywyllach.

Mae EarSwitch wedi creu dyfais sy’n canfod lefelau ocsigen o gamlas y glust fewnol, sydd heb ei phigmentu waeth beth fo lliw croen y person. Gallai gynnig darlleniadau o ansawdd gwell a dull mwy arloesol o fonitro lefel ocsigen.

Dywedodd Vin Diwakar, Cyfarwyddwr Trawsnewid Cenedlaethol Dros Dro, GIG Lloegr: 

“Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein gwaith i sicrhau bod y GIG yn parhau i gael y technolegau a’r triniaethau newydd gorau i gleifion yn gyflymach, ar ôl cyflwyno dros 100 o driniaethau newydd eisoes drwy’r gronfa cyffuriau canser a sefydlu rhaglen bwrpasol i baratoi ar gyfer gwasanaethau triniaethau Alzheimer newydd unwaith y cânt eu cymeradwyo.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i gefnogi’r cwmnïau hynny a ddewiswyd ar gyfer y cynllun peilot fel bod mwy o dechnolegau blaengar ac sy’n achub bywydau yn cael eu cyflwyno’n gyflym ac yn ddiogel i’r GIG.” 

Mae technolegau eraill a fydd yn elwa o gyfran o’r cyllid yn cynnwys:
 

  • Ap blinder Sglerosis Ymledol: Mae Avegen Ltd. wedi datblygu ap ffôn clyfar newydd sy’n darparu ymarferion, therapi ymddygiad gwybyddol a gweithgaredd corfforol wedi’i dargedu mewn fformat y gellir ei addasu’n bersonol i helpu cleifion i reoli Sglerosis Ymledol (MS).
  • Hunan-brawf ar gyfer niwtropenia: Mae 52 North Health wedi datblygu dyfais newydd i alluogi cleifion cemotherapi i hunan-brofi gartref – gan ddefnyddio prawf gwaed pigiad bys – ar gyfer sepsis niwtropenig. Mae hwn yn gyflwr sy’n peryglu bywyd mewn cleifion y mae eu system imiwnedd wedi’i hatal.
  • Rhagfynegydd haint algorithm: Mae Syndrom Ymateb Llidiol Systemig (SIRS) yn gyflwr meddygol sy’n bygwth bywyd, a achosir gan ymateb llethol y corff i haint neu lid. Mae Presymptom Health Ltd. wedi datblygu prawf ac algorithm newydd gyda’r potensial i ragweld statws haint hyd at dri diwrnod cyn bod diagnosis confensiynol yn bosibl.

Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru:

“Mae Technoleg Iechyd Cymru yn falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddewis wyth o dechnolegau cynllun peilot IDAP sydd â’r potensial i gynorthwyo clinigwyr a gwella bywydau cleifion ledled y DU.
 
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi mabwysiadu technolegau iechyd arloesol gan y GIG.”